MANYLION
  • Lleoliad: Newbridge,
  • Testun:
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Hamdden

Cynorthwyydd Hamdden

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Cynorthwyydd Hamdden
Disgrifiad swydd
Rydyn ni'n recriwtio 2 Cynorthwyydd Hamdden yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 37 Oriau
Math o gontract: 1 cynorthwyydd parhaol ac amser llawn am 37 awr yr wythnos,
1 cynorthwyydd cyfnod penodol (tan 31 Mawrth 2025) ac amser llawn am 37 awr yr wythnos. Bydd y swyddi hyn yn cynnwys gwaith gyda'r nos ac ar y penwythnos fel rhan o'r rota 3 wythnos.
Lleoliad: Canolfan Hamdden Trecelyn

Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £23,500 - £23,893 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyfle cyffrous ar gyfer dau unigolyn dynamig a hyderus i ddod yn rhan o'r Tîm Cynorthwywyr Hamdden yng Nghanolfan Hamdden Trecelyn.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod y ganolfan hamdden yn gweithredu'n esmwyth o ddydd i ddydd.

Mae swyddogaethau allweddol y rôl yn cynnwys:
• Achub bywyd mewn pwll nofio prysur.
• Gweithgareddau y tu allan i'r pwll gan gynnwys newid y neuadd a gosod cyfarpar.
• Cwblhau dyletswyddau glanhau a rhestrau gwirio.
• Mynychu sesiynau hyfforddi staff misol.

Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol:
  • Mae'n ofynnol i ymgeiswyr fod â dyfarniad Lefel 2 cyfredol mewn Achub Bywyd yn y Pwll yn ogystal â chymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gwaith dilys.
  • Mae cymwysterau Addysgu neu Hyfforddi a Gwasanaethau i Gwsmeriaid yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
  • Cymorth Cyntaf yn y Gwaith.

Mae'r rôl yn golygu dod wyneb yn wyneb â chwsmeriaid mewn amgylchedd hamdden prysur a dylai pob ymgeisydd fod yn hyblyg o ran gweithio gyda'r nos ac ar y penwythnos. Mae angen agwedd gadarnhaol ‘gallu gwneud’ ynghyd â'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol â sbectrwm eang o bobl.

Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.

I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau

Mae Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person llawn ar gael yma neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Lydia English neu Owain Peregrine ar 01495 248100/CHTrecelyn@caerffili.gov.uk

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk

am ragor o wybodaeth

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.