MANYLION
  • Lleoliad: Caerphilly,
  • Testun:
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Gweithiwr Arweiniol (ar gyfer Pobl Ifanc)

Gweithiwr Arweiniol (ar gyfer Pobl Ifanc)

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Gweithiwr Arweiniol (ar gyfer Pobl Ifanc)
Disgrifiad swydd
Rydyn ni'n recriwtio Gweithwyr Arweiniol (ar gyfer Pobl Ifanc) yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Oriau gwaith: 37 a 25 Oriau
Math o gontractCyfnod penodol tan fis Mawrth 2025, 1 Llawn Amser ac 1 rhan amser

Lleoliad: Canolfan Ieuenctid Parc Virginia, Caerffili

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Gwasanaeth Ieuenctid ehangach.

Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £19,776 - £32,076 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgysylltu â phobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynorthwyo'r tîm gwaith ieuenctid i nodi ac olrhain pobl ifanc sydd mewn perygl o ymddieithrio. Drwy weithio fel rhan o dîm, byddwch chi'n darparu cymorth gweithiwr arweiniol i bobl ifanc wedi'u nodi eu bod nhw'n wynebu amrywiaeth o amgylchiadau anodd, gan gynnwys y rhai a allai fod mewn perygl o fod yn ddigartref, i ailgysylltu neu gynnal eu hymgysylltiad ag addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

Bydd y swydd yn cynnwys gweithio oriau anghymdeithasol gan gynnwys penwythnosau.

Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol:

  • Cymhwyster Lefel 3 perthnasol ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru. Er enghraifft, Gwaith Ieuenctid a Chymunedol, Datblygu Cymunedol, Cyfiawnder Troseddol, Y Blynyddoedd Cynnar, Addysg, Addysgu, Gwaith Cymdeithasol.
  • Dealltwriaeth o'r ffactorau cyfrannol sy'n arwain at ymddieithrio ymhlith pobl ifanc
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol gyda'r gallu i ymgysylltu â'r bobl ifanc anoddaf eu cyrraedd

Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.

I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Nikki Taylor ar 07771886874 neu ebost: taylon@caerphilly.gov.uk

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Swyddi Gweithwyr Ieuenctid sydd angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg:

Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 a Rheoliadau Cyngor Gweithlu Addysg, (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015 fel y’u diwygiwyd yn nodi'r gofyniad i weithwyr ieuenctid cymwys a gweithwyr cymorth ieuenctid cymwys gael eu cofrestru yn y categori neu'r categorïau cofrestru ar gyfer y gwaith y maent yn ei wneud.

Bydd eich cyflogaeth yn dibynnu ar dystiolaeth ddigonol o’ch cofrestriad a’ch cofrestriad parhaol, fel Gweithiwr Ieuenctid Cymwys neu Gynorthwyydd Gweithiwr Ieuenctid cymwys.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar y wefan hon https://www.ewc.wales/site/index.php/cy/ neu drwy ffonio 02920 460099. Eich cyfrifoldeb ydi sicrhau eich bod yn cofrestru ac yn parhau i gofrestru yn unol â thermau a thelerau eich cyflogaeth.

Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk

am ragor o wybodaeth