MANYLION
  • Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
  • Testun:
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Darlithydd Trin Gwallt a Barbro

Darlithydd Trin Gwallt a Barbro

Coleg Sir Gar
Darlithydd Trin Gwallt a Barbro
Application Deadline: 23 April 2024

Department: Gwallt a harddwch

Employment Type: Dros dro

Location: Campws Graig

Compensation: £24,049 - £47,331 / blwyddyn
DescriptionMae gan Goleg Sir Gâr gyfle cyffrous a phrin i ddarlithydd Trin Gwallt a Barbro ymuno yn rhan-amser â'n tîm profiadol dros gyfnod absenoldeb mamolaeth, gyda'r cyfle i gael oriau ychwanegol.

Bydd y swydd yn rhoi cyfle i unigolyn arloesol a brwdfrydig weithio ochr yn ochr â Chyfarwyddwyr, Penaethiaid Cwricwlwm a Darlithwyr i ddatblygu a chyflwyno profiadau addysgu o ansawdd uchel ar draws AB, DSW a darpariaeth cyswllt ysgolion. Byddwch yn dangos rhagoriaeth ac arloesedd drwy eich ymarfer addysgu a dysgu o ddydd i ddydd, ynghyd â'r gallu i gyfathrebu a rhannu arferion gorau.

Ynglŷn â'r RôlY prif bwrpas fydd:
  • Cyfrannu at bob math o waith addysgol gan gynnwys addysgu yn y dosbarth, gwaith tiwtorial a dyletswyddau estyn allan cysylltiedig, cyrsiau preswyl, agored a dysgu o bell a lleoliadau gwaith dysgwyr. Bydd hyn fel rheol yn golygu gwaith gweinyddu trefniadol cysylltiedig, paratoi ac asesu, dilysu mewnol, targedau dysgwyr ac olrhain, cefnogi dysgwyr a chyfrifoldebau cynghori lles ac academaidd priodol.
  • Ymgymryd â'r gwaith o addysgu, asesu a chydlynu rhaglenni astudio sy'n amrywio o ddarpariaeth Cyswllt Ysgolion 14-16, DSW, Lefelau 1-3 mewn Trin Gwallt yng Ngholeg Sir Gâr;
  • Rheoli, cydlynu a rhedeg ystod o salonau masnachol, gan ddarparu cefnogaeth ar gyfer asesiadau ymarferol
  • Gweithio gyda chydweithwyr Gwallt a Harddwch, rheolwyr, cyfarwyddwyr a budd-ddeiliaid i sicrhau rhaglen effeithiol i ddysgwyr o weithdai a dosbarthiadau meistr sy'n gysylltiedig â'r diwydiant gan sicrhau bod dysgwyr yn cael amrywiaeth eang o gyfleoedd i ymgysylltu â'r diwydiant gwallt a harddwch.
  • Paratoi dysgwyr ar gyfer cymryd rhan mewn cystadlaethau yn Genedlaethol a Rhyngwladol gan fentora'r dysgwyr drwy'r broses a mynd gyda nhw yn ôl yr angen.
  • Rhannu arferion da i gefnogi DPP o fewn y tîm gwallt a harddwch.
  • Cynllunio a chynnal gweithgareddau sicrhau ansawdd yn effeithiol gan ddilyn y calendr ansawdd o fewn Gwallt a Harddwch.
  • Hyrwyddo cyrsiau cwricwlwm llawn a rhan-amser a salon masnachol i amrywiaeth eang o fudd-ddeiliaid.
  • Cyfrannu at ddatblygu gweithgareddau allgyrsiol
  • Cynnal cyfweliadau gyda darpar ddysgwyr newydd, darparu arweiniad, cynefino, asesiad cychwynnol, a bodloni targedau o ran cadw dysgwyr, presenoldeb a chwblhau'n llwyddiannus.
  • Ymgymryd â rôl y tiwtor personol
Bydd y rôl o ddydd i ddydd yn golygu eich bod yn ymwneud â chyflwyno, asesu a chefnogi ein dysgwyr tra'n datblygu gwybodaeth greiddiol a sgiliau trin gwallt ymarferol, wrth redeg salonau masnachol. Nid oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un peth yn y maes prysur a deinamig hwn.

Beth fydd ei angen arnochI fod yn llwyddiannus yn y rôl, byddwch chi angen:
  • Gradd neu Gymhwyster cyfwerth.
  • Cymhwyster Addysgu
  • Profiad addysgu perthnasol
  • Profiad diweddar/perthnasol yn y Diwydiant Trin Gwallt a Barbro
  • Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
  • Cymwysterau Aseswr/ Sicrhau Ansawdd Mewnol (IQA)
Er nad ydynt yn hanfodol, byddai cymwysterau ychwanegol i ddangos dysgu gydol oes yn ddymunol, ochr yn ochr â dealltwriaeth dda o faterion perthnasol ym maes addysg ôl 16, ac ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol.

Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
(Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm)

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Mae'r gwaith o lunio rhestr fer yn debygol o gael ei gwblhau yn yr wythnos sy'n dechrau 22ain Ebrill 2024. Os ydych yn llwyddiannus yn ystod llunio'r rhestr fer, mae'n debygol y bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn yr wythnos sy'n dechrau 29ain Ebrill 2024.

I gael mwy o wybodaeth, neu i drefnu sgwrs/cyfarfod anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Tom.braddock@colegsirgar.ac.uk.

Buddion
  • Byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm 59 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein