MANYLION
  • Lleoliad: Ial,
  • Testun:
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £30,000.00 - £35,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Swyddog Arweiniol Cymorth CC/2570

Swyddog Arweiniol Cymorth CC/2570

Coleg Cambria
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Swyddog Arweiniol Cymorth

Lleoliad: Coleg Cambria - Iâl

Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser

Cyflog: £30,908-£33,705

Ar hyn o bryd mae gennyn ni swydd wag ar gyfer Swyddog Arweiniol Cymorth i ymuno â'n Hadran TG ar ein safle Iâl.

Bydd y Swyddog Arweiniol Cymorth yn gyfrifol am chwarae rhan flaenllaw mewn darparu cymorth technegol i'r coleg a chynorthwyo i ddatblygu, gweithredu a chynnal a chadw Gwasanaethau TG y coleg a chydlynu timau swyddogion cymorth.

Gofynion Hanfodol
  • Cymhwyster NVQ Lefel 3 neu gyfwerth mewn disgyblaeth sy'n gysylltiedig â chyfrifiadura
  • Parodrwydd i ennill cymwysterau seiliedig ar gymhwysedd safonol y diwydiant (e.e. Microsoft MCSE, Cisco CCNA)
  • Profiad blaenorol o ddarparu cymorth technegol ar gyfer systemau bwrdd gwaith rhwydweithiol gyda nifer fawr o ddefnyddwyr
  • Gallu dangos gwybodaeth ymarferol o rai neu bob un o'r systemau, technolegau, protocolau ac offer canlynol a ddefnyddir yn y Coleg, sy'n cynnwys Windows 10, Windows Server, IIS, Microsoft Office, GSuite a Gmail, Ethernet, TCP/IP, rhwydweithio Cisco
  • Rheoli cyfrifon defnyddwyr a chyfrifon grŵp gydag MS Active Directory
  • Rheoli cyfrifon e-bost defnyddwyr gyda Gmail
  • Creu gosodiadau caniatâd ffeiliau yn Windows
  • Dod o hyd i namau a gwneud diagnosis o systemau bwrdd gwaith a phroblemau caledwedd cysylltiedig â rhwydwaith
  • Gwneud diagnosis o broblemau cysylltedd sy'n gysylltiedig â TCP/IP
  • Gosod caledwedd a systemau
  • Gwneud copi wrth gefn o ddata yn rheolaidd
  • Rhestru a rheoli stoc
  • Gallu defnyddio rhaglenni Google a Microsoft Office yn enwedig Word, Excel a PowerPoint. Gallu llywio'r Rhyngrwyd a Mewnrwydi
  • Gallu dangos gwybodaeth ymarferol o rai neu bob un o'r systemau, technolegau, protocolau ac offer canlynol a ddefnyddir yn y Coleg, sy'n cynnwys Windows 10, Windows Server, IIS, Microsoft Office, GSuite a Gmail, Ethernet, TCP/IP, rhwydweithio Cisco
  • Gallu gweithio fel rhan o dîm ehangach, a bod yn hyblyg a gallu addasu pan fo angen
  • Gallu cynllunio a rheoli eu llwyth gwaith eu hunain a gwaith aelodau eraill yn y tîm cymorth gan sicrhau bod dyddiadau cau yn cael eu bodloni
  • Sgiliau trefnu rhagorol
  • Sgiliau rheoli amser rhagorol
  • Sgiliau cyfathrebu gwych yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • Gallu dangos gwytnwch personol er mwyn ymdopi ag ystod o sefyllfaoedd anodd
  • Rhagweithiol a hunanysgogol
  • Gallu cymryd cyfrifoldeb personol am gyflwyno gwaith o safon uchel
  • Adnabod cyfleoedd i wella a datblygu arferion presennol
  • Gallu dangos ymrwymiad trwy weithredoedd i Weledigaeth, Cenhadaeth, Gwerthoedd Craidd ac Ymddygiadau'r coleg

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig