MANYLION
  • Lleoliad: Vale of Glamorgan, Vale of Glamorgan, CF63 4RU
  • Testun: Pennaeth
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £60,624 - £69,544
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 01 Chwefror, 2022 11:59 y.b

This job application date has now expired.

 PENNAETH - Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llansanwyr a Llanhari

PENNAETH - Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llansanwyr a Llanhari

Cyngor Bro Morgannwg
Amdanom ni
Gan fod y Pennaeth wedi symud i rôl yng Nghonsortiwm Canolbarth y De, mae’r plant, staff a llywodraethwyr yn awyddus i benodi Pennaeth deinamig ac uchelgeisiol ar gyfer yr ysgol gynradd hon i blant 3 - 11 mlwydd oed.

Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llansanwyr a Llanhari yn ysgol boblogaidd a ffyniannus sy’n nodedig am y canlynol:
•Disgyblion cyfeillgar, hapus a hyderus sy’n adlewyrchu ein hamgylchedd gofalgar a chefnogol
•Bod yn ysgol sydd ar y blaen o ran ieithoedd rhyngwladol
•Staff hynod frwdfrydig a chefnogol
•Corff Llywodraethu ymrwymedig, galluog a chefnogol
•Darpariaeth TGCh dda
•Amrywiaeth eang o weithgareddau allgyrsiol
•Lleoliad gwledig deniadol

Mae hon yn her gyffrous i Bennaeth a all arwain ei dîm i fwrw ymlaen â'r cynnydd o fod yn ysgol Dda i fod yn ysgol Ragorol.

Am y Rôl
Cyfeirnod y swydd (i'w ddefnyddio ar y ffurflen gais): LSPS-HT
Manylion am gyflog: Graddfa Arweinyddiaeth 15-21
Diwrnodau / Oriau Gwaith: llawn amser
Parhaol/Dros Dro: Parhaol
Yn ofynnol ar gyfer Medi 2022
Nifer ar y gofrestr: 230 o ddisgyblion

Disgrifiad:
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu dangos y canlynol yn ei gais:
•Y sgiliau rheoli, arwain a rhyngbersonol i’w alluogi i ysbrydoli a chefnogi disgyblion, staff, rhieni a llywodraethwyr.
•Ym mha ffyrdd y bydd yn cyflawni uchelgais yr ysgol o ran bod yn ysgol ardderchog.
•Hanes o fod yn ymarferydd dosbarth ardderchog sydd â dyheadau uchel ar gyfer pob plentyn ac sy’n gallu datblygu safonau addysgu a dysgu uchel ym mhob rhan o’r ysgol.
•Parodrwydd i arwain datblygiad ein gwerthoedd craidd ar y cyd ag ethos Cristnogol yr ysgol.
•Agwedd gadarnhaol tuag at arloesi a newid.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau -
Dydd Mawrth 1 Chwefror 2022. Mae croeso i ddarpar ymgeiswyr gysylltu â swyddfa'r ysgol (Ffôn: 01443 223545) i drefnu i weld yr ysgol cyn y dyddiad cau.
Llunio rhestr fer -
Dydd Iau 10 Chwefror 2022.
Diwrnod cyfweld 1 - Ymweliad ysgol, tasgau ac asesiadau –
Dydd Iau 17 Chwefror 2022.
Diwrnod cyfweld 2 - Cyfweliadau proffesiynol
Dydd Gwener 18 Chwefror 2022.

Amdanat ti
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu dangos yn ei gais:
•Y sgiliau rheoli, arwain a rhyngbersonol i’w galluogi i ysbrydoli a chefnogi disgyblion, staff, rhieni a llywodraethwyr.
•Ym mha ffyrdd y byddant yn cyflawni uchelgais yr ysgol o ran bod yn ysgol ardderchog.
•Hanes o fod yn ymarferydd dosbarth ardderchog sydd â dyheadau uchel ar gyfer pob plentyn ac sy’n gallu datblygu safonau addysgu a dysgu uchel ym mhob rhan o’r ysgol.
•Parodrwydd i arwain datblygiad ein gwerthoedd craidd ar y cyd ag ethos Cristnogol yr ysgol.
•Agwedd gadarnhaol tuag at arloesi a newid.

BYDD YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS AR GYFER Y RÔL HEFYD YN DESTUN GWIRIAD MANWL Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD

Mae'r Ysgol yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ei gweithlu. Rydym yn ymrwymo i sicrhau nad oes gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dethol ar sail oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, trawsrywedd, gan gynnwys hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd a mamolaeth