MANYLION
  • Posted by: Educators Wales

Eich opsiynau ar gyfer eich Tystysgrif Addysg i Raddedigion

Eich opsiynau ar gyfer eich Tystysgrif Addysg i Raddedigion

Description: Clywch gan wahanol fyfyrwyr sy'n astudio eu TAR ar hyn o bryd am y llwybrau y maent wedi'u cymryd a'u profiadau gyda'u Tystysgrif Addysg i Raddedigion.

 

Addysgu yng Nghymru

Er mwyn bod yn gymwys fel athro, mae angen Statws Athro Cymwysedig (SAC) trwy Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA). Ar gyfer ôl-raddedigion, y cymhwyster sydd ei angen arnoch yw Tystysgrif Addysg i Raddedigion a elwir yn TAR.

Am fwy o wybodaeth edrychwch ar ein tudalen athrawon.

 

Y Llwybrau Sydd Ar Gael

Mae tair ffordd o ennill eich TAR:

 

Llwybr Llawn Amser

Mae’r llwybr llawn amser yn cael ei gynnig gan sawl partneriaeth Addysg Gychwynnol Athrawon ar draws Cymru gan gynnwys:

  • Prifysgol Aberystwyth
  • Prifysgol Metropolitan Caerdydd
  • Prifysgol Bangor
  • Prifysgol Abertawe
  • Prifysgol De Cymru
  • Prifysgol y Drindod Dewi Sant

Mae'r dystysgrif ôl-raddedig mewn addysg (TAR) llawn amser ar gael ar gyfer lefel cynradd ac uwchradd a bydd yn cymryd blwyddyn i'w chwblhau, mae'r cwrs israddedig amser llawn ar gael ar gyfer lefel cynradd ac mae'n cymryd tair blynedd i'w gwblhau.

 

Niamh, Myfyrwraig Trydedd Flwyddyn, Llwybr Llawn Amser, Prifysgol De Cymru

Mae Addysg Gychwynnol i Athrawon gyda SAC Prifysgol De Cymru yn caniatáu i ddarpar athrawon feithrin cysylltiadau ag athrawon a darlithwyr profiadol sy'n cefnogi a chymell myfyrwyr i ddatblygu a chyrraedd y safonau sydd eu hangen i ddod yn athrawon effeithiol. Mae'r holl ddarlithoedd yn cael eu paratoi a'u cynllunio'n ofalus i weddu i anghenion yr athrawon dan hyfforddiant yn seiliedig ar adborth ac aseiniadau sydd i ddod.

Er bod pob darlithydd yn hawdd siarad â nhw ac yn gefnogol, mae rhwydwaith proffesiynol yn cael ei adeiladu rhwng cyfoedion gan greu amgylchedd cyfeillgar i gynnig a gofyn am help lle mae ei angen. Mae Prifysgol De Cymru wedi caniatáu i mi ddatblygu fy hun ar lefel broffesiynol a phersonol. Er fy mod yn edrych ymlaen at raddio a dod yn athrawes rydw i’n dyheu am fod, byddaf bob amser yn ddiolchgar am fy mhrofiadau ar y cwrs AGA.

 

Llwybr Rhan Amser

Mae'r llwybr rhan amser ar gael gan y Brifysgol Agored ar lefel gynradd ac uwchradd a bydd yn cymryd dwy flynedd i'w gwblhau. Byddwch angen gradd anrhydedd arnoch er mwyn astudio’r llwybr hwn.

Mae'r llwybr rhan-amser yn ddelfrydol ar gyfer ymgeiswyr sydd angen gweithio o gwmpas swydd gyfredol, gofal plant, neu ymrwymiadau eraill.

 

Catrin Williams, TAR Rhan Amser, Lefel Gynradd, Y Brifysgol Agored

 

Rydw i wedi bod eisiau bod yn athrawes ers i mi fod yn yr ysgol gynradd, dyna oedd wastad y cynllun, ond es i ymlaen i astudio am radd Hanes a dechrau gyrfa mewn gwerthu tai. Roeddwn i am wneud cwrs TAR ond ni chefais gyfle i fynd yn ôl i’r brifysgol a doeddwn i ddim yn gwybod sut y byddai’n bosibl gyda dau o blant ifanc oherwydd bod costau gofal plant yn ormodol. Roeddwn i'n teimlo ei bod hi'n rhy ddrud i gymryd blwyddyn allan a mynd i brifysgol.

Pan symudon ni i Ruddlan yng Ngogledd Cymru, derbyniais i daflen drwy'r drws gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn hyrwyddo eu cwrs TAR. Penderfynais i gymryd y llwybr TAR rhan amser i ddod yn athrawes ysgol gynradd gan ei fod yn golygu y gallwn astudio ar fy nghyflymder fy hun, gyda'r nos, a mynd ar leoliadau yn yr ysgol ddau neu dri diwrnod yr wythnos. Mae’n cyd-fynd yn berffaith â’n sefyllfa deuluol, nid oes unrhyw ffordd bosibl arall y byddwn wedi gallu gwneud y TAR. Mae'n deimlad gwych i weithio tuag at freuddwyd rydw i wedi'i chael ers amser mor hir.

 

Llwybr Cyflogedig

Mae'r llwybr cyflogedig yn ddelfrydol ar gyfer ymgeiswyr sydd eisoes yn gweithio mewn ysgol fel gweithiwr cymorth addysgu neu mewn swydd nad yw'n addysgu. Mae'r llwybr hwn ar gael drwy'r Brifysgol Agored a gallwch astudio o amgylch eich dyletswyddau ysgol presennol a thelir cyflog ichi.

Bydd y llwybr hwn yn cymryd dwy flynedd i gwblhau'r TAR ac ennill Statws Athro Cymwysedig. Mae'r llwybr hwn sy'n seiliedig ar gyflogaeth ar gael ar gyfer lefelau cynradd ac uwchradd.

 

Adam Marsden, TAR Cyflogedig, Lefel Gynradd, Y Brifysgol Agored

 

Roeddwn yn gweithio fel cynorthwyydd addysgu/cyflenwi mewn ysgol gynradd lle’r oedd y pennaeth yn gweld potensial ynof ac roedd eisiau fy nghefnogi yn fy ngyrfa i ddod yn athro. Roeddwn i wastad eisiau mynd mewn i addysgu, ond roeddwn i wedi bod yn gohirio'r peth ers tro gan fy mod yn rhedeg busnes hyfforddi ochr yn ochr â fy ngwaith ysgol ar y pryd. Roedd y llwybr TAR cynradd cyflogedig o'r Brifysgol Agored yng Nghymru yn cynnig y gorau o ddau fyd gan y gallwn weithio yn yr ysgol ac astudio gyda'r nos. Roedd y seminarau a’r modiwlau ar-lein yn fy ngalluogi i fod yn hyblyg ac yn ffit wrth astudio o amgylch fy nyddiau ysgol.

Roedd fy mhrofiad blaenorol o weithio gyda phlant a chael fy musnes fy hun wedi fy ngalluogi i ddod â hyder i fy rôl fel athro. Rhoddodd y cwrs TAR brofiad ymarferol cyfoethog i mi yn yr ysgol a helpodd fi i ddeall theori addysgu. Yn bersonol, rwy’n meddwl bod TAR dwy flynedd yn rhoi amser i chi wir ddeall y ddamcaniaeth a’i rhoi ar waith. Mae’r gefnogaeth gan y Brifysgol Agored wedi bod yn rhagorol. Roedd yn waith caled ond fe wnaeth fy nhiwtor TAR fy nghadw i fynd ac roedd ar gael bob amser ar gyfer galwad fideo cyflym neu e-bost pan oeddwn eu hangen.

 

Michael Rees, TAR Cyflogedig, Siaradwr Cymraeg, Lefel Uwchradd gyda Ffocws Gwyddoniaeth, Y Brifysgol Agored

 

Mae dod yn athro wedi bod yn uchelgais i mi ers tro. Roeddwn i’n gweithio fel technegydd gwyddoniaeth mewn ysgol ac roedd gwylio fy nghydweithwyr yn addysgu’r plant gwir wedi fy ysbrydoli i astudio’r TAR a chyflawni fy mreuddwyd o ddod yn athro gwyddoniaeth ysgol uwchradd. Mae gwyddoniaeth wastad wedi bod yn angerdd i mi ac roeddwn i eisiau’r cyfle i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.

 

Dewisais astudio'r TAR Gwyddoniaeth gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru trwy eu llwybr uwchradd cyflogedig oherwydd ei fod wedi caniatáu i mi barhau i weithio yn yr ysgol ochr yn ochr â'm hastudiaethau sydd ddim yn rhywbeth y mae unrhyw ddarparwyr AGA eraill yn ei gynnig. Roeddwn i wir yn gwerthfawrogi hyblygrwydd y cwrs ac roedd gallu astudio ar draws dwy flynedd yn fy ngalluogi i gyflawni popeth i safon ychydig yn uwch. Roedd y gefnogaeth gan y Brifysgol Agored yn wych ac roedd y cyswllt rheolaidd gyda fy nhiwtor yn gwneud i mi deimlo nad oeddwn erioed ar fy mhen fy hun. Ers astudio'r TAR, mae fy hyder wedi datblygu a nawr rwy'n athrawes gwbl gymwys, mae hynny'n rhywbeth rwy'n falch iawn ohono.

 

Am ragor o wybodaeth am lwybrau TAR ewch i’n tudalen we athrawon neu cysylltwch â’n tîm ar gwybodaeth@addysgwyr.cymru