Mae addysgu'n cynnig gyrfa broffesiynol wirioneddol werth chweil, lle gallwch chi wneud gwahaniaeth go iawn bob dydd.

Gyda'r cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno a digon o gyfleoedd dysgu proffesiynol trwy gydol eich bywyd gwaith, ni fu erioed amser gwell i addysgu yng Nghymru.

Mae nifer o ffyrdd i gychwyn ar eich taith addysgu wedi'i theilwra i weddu i chi - cyrsiau llawn amser, rhan-amser neu â chyflog a ddarperir gan un o'n partneriaethau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) wedi'u lleoli ledled Cymru. Mae angen athrawon ysgol uwchradd yn enwedig ar hyn o bryd ac mae cymhellion ariannol ychwanegol ar gael hefyd i’r rhai sydd wedi graddio ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg neu fathemateg (STEM). 


Darganfyddwch fwy am sut beth yw bod yn athro neu athrawes - sut y gallwch hyfforddi a’r cyflog cychwynnol - a pha gymwysterau y bydd eu hangen arnoch.  

 

Barod i hyfforddi i Addysgu yng Nghymru?
Os ydych chi'n barod i fentro ac yn gwybod ble neu sut rydych chi am hyfforddi, yna gallwch chi gysylltu â'r AGA o'ch dewis yn uniongyrchol.
Ewch i'ch AGA isod i gychwyn eich cais.
Owen Gwyn Ifans
Athro – Mathemateg
Rwy'n credu fy mod yn ffodus o allu addysgu Mathemateg, pwnc rydw i wrth fy modd ag ef, i lefel TGAU a Safon Uwch a gwneud hynny drwy gyfrwng fy mamiaith.
Vicky Williams
Athrawes – Bioleg
Mae dyhead ynof i gael teuluoedd ynghlwm â gwyddoniaeth er mwyn iddo ddod yn ddatblygiad mwy naturiol i bobl ifanc ac nid yn bwnc 'brawychus' fel y cyfryw.
Jo
TAR Uwchradd TG a Chyfrifiadura
Rhwyn angerddol am fy mhwnc, ac rwyf hefyd yn angerddol am sicrhau bod unigolion yn cael y gorau o'u dysgu.
DEWCH I GYFARFOD RHAI O’N HATHRAWON
Dysgwch sut beth yw bod yn athro neu athrawes yng Nghymru go iawn, gan rai sydd yn arbenigo ym mhynciau STEM.
CYMHELLION ARIANNOL
Efallai y byddwch chi'n gymwys i gael cymhellion ariannol i'ch helpu wrth i chi hyfforddi.

Y pynciau blaenoriaeth yng Nghymru yw:
  •  Ffiseg
  • Cemeg
  • Bioleg
  • Mathemateg
  • Cymraeg
  • Dylunio a Thechnoleg
  • Technoleg Gwybodaeth
  • Ieithoedd Tramor Modern

Gall graddedigion sydd â graddau perthnasol fod yn gymwys i gael cymhelliant i ymgymryd Pwnc â Blaenoriaeth TAR yng Nghymru. Os ydych chi'n dewis astudio drwy gyfrwng y Gymraeg mae £5,000 ychwanegol ar gael o dan Gynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory.  Mae hefyd £5,000 ar gael ar gyfer athrawon dan hyfforddiant o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

 

1af a/neu Ddoethuriaeth/Gradd Meistr 

2.1

2.2

Bioleg, Cemeg, Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Gwybodaeth, Mathemateg, Ieithoedd Tramor Modern (ITM), Ffiseg a Cymraeg

 

£15,000

 

£15,000

 

£15,000

 

 

BETH SYDD ANGEN I CHI EI WYBOD...

Sut mae dod yn athro/athrawes?

Mae llawer o ffyrdd o ddod yn athro/athrawes yng Nghymru – gwnawn ni eich helpu i ddod o hyd i'r ffordd sy'n fwyaf addas i chi.

I ddod yn athro/athrawes yng Nghymru bydd angen TGAU gradd C neu gyfwerth mewn Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg arnoch chi, tra bydd angen gradd C mewn Gwyddoniaeth TGAU ar ddarpar athrawon cynradd hefyd. Os ydych chi'n gwneud cais i raglen TAR, bydd angen gradd prifysgol briodol arnoch chi hefyd.

Oes! Gallai rhai graddedigion fod â hawl i hyd at £25,000 yn dibynnu ar amgylchiadau fel pwnc eich gradd, dosbarthiad eich gradd, a’ch sgiliau Cymraeg. Ewch i'r adran Cymhellion Ariannol i ddarganfod beth y gallai fod gennych hawl iddo. Gellir dod o hyd i wybodaeth am gyllid ar gyfer rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) ôl-raddedig ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Os ydych chi'n ystyried gyrfa yn addysgu yng Nghymru, bydd angen i chi ennill statws addysgu cymwysiedig (SAC). Gallwch wneud hyn trwy astudio ar raglen Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA), sydd wedi'i hachredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg trwy ei Fwrdd Achredu AGA.


Mae rhaglenni AGA ar gael ar lefelau Cynradd ac Uwchradd a gellir eu hastudio naill ai fel gradd israddedig neu ôl-raddedig (TAR). Maen nhw’n darparu addysg broffesiynol a datblygiad athrawon dan hyfforddiant, gan eu paratoi ar gyfer gwaith mewn ysgolion yng Nghymru a darparu sylfaen ar gyfer dysgu proffesiynol gydol gyrfa. Mae'r rhaglenni hyn yn seiliedig ar ddysgu sy'n hollol ymarferol ac yn heriol yn ddeallusol.


Gallwch astudio rhaglen AGA yn:

Cyflwynir dau lwybr i mewn i addysgu ar gyfer pynciau dethol gan bartneriaeth y Brifysgol Agored, sy'n golygu y gallwch hyfforddi yn y ffordd sydd fwyaf addas i chi.

Mae TAR â Chyflog, lle gallwch weithio fel athro/athrawes heb gymhwyso mewn ysgol, a TAR Rhan Amser i'r rheini ag ymrwymiadau eraill mewn bywyd. Mae'r rhain ar gael ar lefelau Cynradd ac Uwchradd. Bydd y ddwy raglen arloesol hon yn helpu i ehangu mynediad i yrfa addysgu yn fwy nag erioed o'r blaen. Gellir dod o hyd i ganllawiau ar y cymorth sydd ar gael yma.

Gallwch! P'un a ydych chi wedi ennill statws athro cymwysedig (SAC) mewn un o wledydd eraill y DU, neu y tu allan i'r DU, bydd angen i chi wneud cais yn gyntaf i Gyngor y Gweithlu Addysg i gydnabod eich SAC yng Nghymru. Ewch i wefan Cyngor y Gweithlu Addysg i ddarganfod sut.

Ydy addysgu yn iawn i fi?

Ffordd wych o helpu i ddarganfod hyn yw gwneud cais am brofiad gwaith mewn ysgol leol, neu ysgolion niferus, i gael blas ar sut beth yw bywyd o flaen dosbarth yn hytrach na thu ôl i ddesg.

Ydy'r math yma o swydd yn swnio'n ddeniadol i chi?

  • Un sy'n cynnig gyrfa sefydlog, hirdymor wedi'i chyfuno â chyfleoedd i dyfu'n broffesiynol
  • Cyfle i ddefnyddio'ch pwnc gradd a rhannu'r angerdd a'r wybodaeth arbenigol honno bob dydd
  • Cyfle i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o feddyliau ifanc a'u tywys ym mlynyddoedd pwysicaf, ffurfiannol eu bywydau
  • Y teimlad eich bod chi'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, go iawn bob tro y byddwch chi'n mynd i’r gwaith, a gwybod y byddwch chi'n cael eich cofio am weddill bywyd rhywun
  • Defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol a'i throsglwyddo i'r genhedlaeth nesaf o siaradwyr


Wrth gwrs, does dim ffordd o wybod yn sicr nes eich bod chi'n gweithio fel athro/athrawes go iawn, ond os yw hon yn swnio fel y math o swydd y byddech chi'n ei mwynhau, gallai addysgu fod yn berffaith i chi.


Ffordd wych o helpu i ddarganfod hyn yw gwneud cais am brofiad gwaith mewn ysgol leol, neu ysgolion niferus, i gael blas ar sut beth yw bywyd o flaen dosbarth yn hytrach na thu ôl i ddesg. Efallai y bydd yn teimlo'n wahanol iawn i sut rydych chi'n ei gofio o'ch amser eich hun fel disgybl! Bydd hyn hefyd yn eich rhoi mewn sefyllfa dda iawn wrth wneud cais i hyfforddi fel athro/athrawes.

Nid yw’n ofyniad gorfodol i allu siarad Cymraeg i addysgu yng Nghymru, er bod cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg wella eu sgiliau, ac i bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg ddysgu’r iaith. Disgwylir i bob athro gynyddu ei ddealltwriaeth a'i ddefnydd o'r Gymraeg trwy gydol ei yrfa.

Rydym ni hefyd yn cynnig cymhellion ariannol i'r rheini sy'n dymuno dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg – ewch i'r adran Cymhellion Ariannol i ddarganfod mwy.

Ar hyn o bryd mae cyflog cychwynnol athrawon newydd yng Nghymru £32,433. Yn ystod eich bywyd gwaith, gallwch ddisgwyl cynyddu eich cyflog wrth i chi ennill profiad a chymryd dyletswyddau bugeiliol/academaidd ychwanegol, e.e. yn eich cyfadran neu fel tiwtor. Bydd datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) hefyd yn cael ei gynnig i gynyddu a gwella eich sgiliau trwy gydol eich gyrfa.

Na! Gallwch chi hyfforddi i ddysgu ar unrhyw oedran, o 18 i fyny - dydych chi byth yn rhy hen! A dweud y gwir, mae penaethiaid heddiw yn credu ei bod yn bwysig bod gan ysgolion weithlu cytbwys, gyda chyfuniad o bobl sydd wedi newid gyrfa a graddedigion newydd sy'n dewis addysgu fel eu gyrfa gyntaf ar ôl gadael y brifysgol. Mae treulio blynyddoedd yn ‘ysgol bywyd’ cyn mynd i'r proffesiwn yn golygu bod gennych fewnwelediadau a phrofiad gwerthfawr i’w rhannu â'ch disgyblion.

Mae addysgu yn broffesiwn gwych beth bynnag y penderfynwch chi, ond mae angen athrawon uwchradd yn arbennig ar hyn o bryd, ac yn enwedig ar gyfer y pynciau hyn:

  • Ffiseg
  • Cemeg
  • Bioleg
  • Mathemateg
  • Cymraeg (ac addysgu unrhyw bwnc trwy gyfrwng y Gymraeg)
  • Cyfrifiadureg
  • Ieithoedd Tramor Modern

Dyna pam rydym ni'n cynnig ystod o gymhellion ariannol gwerth hyd at £25,000 yn dibynnu ar amgylchiadau fel pwnc eich gradd, dosbarthiad eich gradd, a’ch sgiliau Cymraeg. Ewch i'r adran Cymhellion Ariannol i ddarganfod beth y gallai fod gennych hawl iddo.

Pam dewis Cymru?

Efallai ein bod yn genedl fach, ond mae ein dulliau arloesol a'n huchelgeisiau mawr yn gwneud i ni sefyll allan.

Efallai ein bod yn genedl fach, ond mae ein dulliau arloesol a'n huchelgeisiau mawr yn gwneud i ni sefyll allan.


Mae  cwricwlwm newydd sbon yng Nghymru yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ar y cyd ag athrawon, yn barod i'w addysgu ym mis Medi 2022. Bydd y cwricwlwm newydd yn rhoi mwy o ryddid i athrawon fod yn greadigol yn yr hyn maen nhw'n ei ddysgu, a'r ffordd maen nhw'n ei ddysgu, gyda'r bwriad o greu myfyrwyr sy’n:

  1. Dysgwyr uchelgeisiol, galluog, yn barod i ddysgu trwy gydol eu hoes
  2. Cyfranwyr mentrus, creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  3. Dinasyddion moesegol, gwybodus Cymru a'r byd
  4. Unigolion iach, hyderus, yn barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.


Yn ogystal â hyn, mae Cymru yn cynnig cyflog cychwynnol uchel o dros £30,000 i athrawon, yn ogystal â chyfleoedd gyrfa tymor hir gwych. Cynigir datblygiad proffesiynol parhaus (DPP), gan gynnwys y Cymhwyster Cenedlaethol Meistr mewn Addysg newydd, trwy gydol eich gyrfa, a chydnabyddir bod addysgu yn darparu incwm sefydlog, dibynadwy trwy gydol eich bywyd gwaith.

Mae datblygiad proffesiynol (DPP) yn parhau trwy gydol eich gyrfa addysgu a chan fod cymaint o wahanol elfennau yn gysylltiedig â darparu addysg yn ein hysgolion, bydd digon o gyfleoedd i chi dderbyn cyfrifoldebau newydd, wrth ehangu eich sgiliau a mwynhau profiadau newydd. 

Rydw i wedi penderfynu – beth nesaf?

Felly rydych chi wedi penderfynu eich bod chi eisiau hyfforddi fel athro/athrawes yng Nghymru - am newyddion gwych!
Ydych chi wedi penderfynu sut rydych chi eisiau hyfforddi (llawn amser, rhan amser neu trwy'r llwybr â chyflog a gynigir gan y Brifysgol Agored)?


Os mai nac ydw yw'r ateb, ewch i’r adran Sut mae dod yn athro? Cwestiynau Cyffredin am help.


Os mai ydw yw’r ateb, ond bod gennych rai cwestiynau o hyd, yna cysylltwch â ni! Waeth bynnag eich cwestiwn neu ymholiad, rydym ni eisiau clywed gennych chi.  Cysylltwch â ni heddiw. 

Os mai ydw yw’r ateb, a'ch bod eisoes yn gwybod ble neu sut rydych chi eisiau hyfforddi, yna gallwch chi gysylltu â'r AGA hwnnw yn uniongyrchol i ddechrau eich cais.

FELLY AM BETH RYDYCH CHI’N AROS?

Dechreuwch eich taith heddiw. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth ac i sgwrsio am eich opsiynau.

Cysylltwch â ni

PWY YDYM NI?

Cartref ar-lein newydd i bob gweithiwr addysg proffesiynol yng Nghymru yw Addysgwyr Cymru - waeth ar ba gam o daith ei gyrfa rydych chi - o ymgeiswyr dan hyfforddiant i athrawon cwbl gymwys sy'n chwilio am swyddi addysgu newydd. Mae gan Addysgwyr Cymru bopeth sydd ei angen arnoch i archwilio llwybrau a chyfleoedd gyrfa o fewn addysg. Cymerwch gip o gwmpas.

Rhagor o wybodaeth