- Lleoliad: Sir Benfro
- Dechrau: 29 Mehefin , 2024 - 9:30 am
- Diwedd: 29 Mehefin , 2024 - 4:00 pm
- Telerau:
Maths ED Cymru - 2024
Mudiad ar lawr gwlad i adeiladu rhwydweithiau, partneriaethau a chymorth i athrawon mathemateg ledled Cymru. Mae MathsEd Cymru yn ddigwyddiad unigryw sy’n dathlu addysg fathemateg ar draws cyfnodau yng Nghymru, lle gellir dod o hyd i’r rhai sydd wir yn angerddol dros addysg fathemateg.
· Eisiau clywed sut mae eraill yn addysgu mathemateg mewn gwahanol gyfnodau addysg, ledled y wlad, o fewn y Cwricwlwm i Gymru?
· Eisiau syniadau ac ysbrydoliaeth ar gyfer eich addysgu mathemateg gan ystod eang o siaradwyr ysbrydoledig?
· Eisiau te, coffi, teisennau a chinio blasus gyda phobl o'r un anian?
Os mai YDW yw'r ateb i unrhyw un o'r cwestiynau uchod, cadwch y dyddiad ar gyfer Maths Ed Cymru