MANYLION
  • Lleoliad: Deeside, Flintshire, CH5 4BR
  • Testun: Asesydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,164 - £30,613
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Asesydd yn y Gwaith mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion)

Asesydd yn y Gwaith mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion)

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…

Teitl y Swydd: Asesydd yn y Gwaith mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion)

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Llawn Amser - Parhaol

Cyflog: £27,164 - £30,613 yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol.

Rydym yn chwilio am Asesydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda chymwysterau a phrofiad i helpu i gynorthwyo ac asesu ein dysgwyr ar ein rhaglenni prentisiaeth dysgu yn y gwaith.

I gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon, dylai fod gennych brofiad a chymhwysedd yn y maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol a bod gennych gymhwyster proffesiynol perthnasol Lefel 3 o leiaf.

Fel Asesydd yn y Gwaith, bydd gofyn i chi asesu nifer o wahanol feysydd. Byddwch hefyd yn cofrestru myfyrwyr ar gyrsiau addas ac yn darparu cyfleoedd annog, mentora a dysgu iddynt.

Byddwch yn asesu portffolios ymgeiswyr ac yn cyflwyno’r rhai sydd wedi’u cwblhau i’w dilysu’n fewnol. Byddwch yn monitro cynnydd ymgeiswyr tuag at ennill eu cymwysterau, gan roi adborth adeiladol iddynt a’u helpu i lunio portffolio o dystiolaeth.

Gofynion Hanfodol

● Cymhwyster NVQ Lefel 3 o leiaf mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

● Byddai’n ddymunol petai gennych gymhwyster TAQA (Cymhwyster Asesydd)

● Gwybodaeth a phrofiad y gellir ei brofi o'r maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol - gydag Oedolion yn benodol

● Sgiliau cyfathrebu gwych yn ysgrifenedig ac ar lafar

● Yn hunanysgogol, yn drefnus ac yn gallu gweithio'n annibynnol ar eich liwt eich hun

● Mae’n hanfodol bod gennych chi drwydded yrru ddilys a’ch cludiant eich hun

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd.

Sylwer bod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr ar gyfer unrhyw swydd yn gynnar pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau’r cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
JOB REQUIREMENTS