MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF24 5JW
  • Testun: Swyddog Gweithredol
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £26,900 - £30,610
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 06 Chwefror, 2023 10:00 y.b

This job application date has now expired.

Swyddog Cyllid (Gradd EO)

Swyddog Cyllid (Gradd EO)

Estyn
Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n angerddol ynghylch Cyllid a Gwasanaeth Cwsmeriaid i ymuno â ni fel Swyddog Cyllid. Byddwch yn cefnogi datblygu a chynnal ein cofnodion ariannol, yn darparu cymorth technegol i’n deiliaid cyllideb ac uwch reolwyr ac yn helpu cynorthwyo’r Tîm Cyllid ehangach.

Fel Swyddog Cyllid, bydd gennych chi rôl bwysig mewn rheoli a chyflawni’r prosesau ariannol sy’n darparu ar gyfer monitro cyllidebau, adrodd a chreu ein cyfrifon adnoddau blynyddol. Byddwch yn cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaethau Ariannol i ddatblygu a chynnal systemau, polisïau a gweithdrefnau cyllid. Byddwch yn rheolwr llinell ar 3 swyddog gweinyddol. Os ydych chi’n siarad Cymraeg, byddwch chi’n defnyddio eich medrau cyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg, fel ei gilydd.

Bydd eich rôl yn cynnwys amrywiaeth o wahanol gyfrifoldebau, gan gynnwys:

• Cynnal cofnodion ariannol manwl a chywir gan ddefnyddio ein systemau cyllid
• Prosesu trafodiadau ariannol o fewn terfynau dirprwyedig a thrwy lynu at ein polisïau
• Darparu cymorth at ddibenion trefnu llety a theithio
• Cynnal cofnodion asedau a stocrestrau
• Darparu cyngor a chymorth ar reoli cyllidebau a gweithdrefnau ariannol i gydweithwyr ar draws y sefydliad
• Paratoi adroddiadau ariannol misol, chwarterol a blynyddol ar gyfer uwch arweinwyr
• Creu rhagolygon gwariant rheolaidd ar gyfer deiliaid cyllideb, a chysylltu â nhw i sicrhau bod rhagolygon yn parhau i fod yn gywir
• Rheoli gweithdrefnau Cerdyn Caffael a phrosesau cysoni
• Paratoi, cydlynu a choladu’r wybodaeth sydd ei hangen i greu’r cyfrifon adnoddau blynyddol
• Cyfrannu at welliant parhaus y swyddogaeth gyllid
• Goruchwylio a chefnogi tîm bach o Swyddogion Gweinyddol
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel a allai fod yn rhesymol ofynnol gan reolwyr

Byddwch chi:

• yn meddu ar brofiad profedig mewn Cyllid ac yn dal cymhwyster cyfrifeg proffesiynol
• yn meddu ar wybodaeth gynhwysfawr am egwyddorion a gweithdrefnau cyfrifeg
• yn meddu ar brofiad o greu gwybodaeth am reolaeth ariannol
• yn mwynhau her baich gwaith amrywiol
• yn meddu ar hanes da o ymdopi â thasgau lluosog i fodloni terfynau amser
• yn meddu ar fedrau cyfathrebu rhagorol (ar lafar ac yn ysgrifenedig)
• yn hyderus yn defnyddio TG
• yn gweithio mewn ffordd gydweithredol a hyblyg
• yn gallu gweithio mewn amgylchedd sy’n newid

Oriau gwaith – Yr oriau gweithio amser llawn yw 37 awr dros wythnos pum niwrnod (dydd Llun i ddydd Gwener), ac eithrio egwylion. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi rhan-amser / llai o oriau, rhannu swydd neu ar sail hyblyg arall.

Lleoliad – Caerdydd, lle mae lleoedd parcio ar gael am ddim. Rydym yn gweithredu trefniadau gweithio hybrid anffurfiol ar hyn o bryd, yn amodol ar anghenion y busnes a chytundeb eich rheolwr.

Mae manylion ar sut i wneud cais ar gael o www.estyn.llyw.cymru
JOB REQUIREMENTS
Mae’n hanfodol eich bod:

• yn meddu ar gymhwyster cyllid (o leiaf AAT lefel 3 neu gyfwerth)
• yn meddu ar brofiad mewn cynnal cofnodion manwl a chywir, e.e. cofnodion cyllid neu asedau a stocrestrau
• yn meddu ar fedrau cyfathrebu, llythrennedd, rhifedd a TG da (gan gynnwys Microsoft Office)
• yn drefnus ac yn meddu ar alluoedd da o ran rheoli amser ac yn gallu blaenoriaethu gwaith a chwblhau tasgau o fewn graddfeydd amser cytunedig
• yn unigolyn hawdd mynd atoch ac yn gallu ffurfio perthnasoedd gweithio effeithiol
• yn deall sut i gyflwyno gwasanaeth cwsmeriaid da
• yn gallu nodi tueddiadau a materion mewn data er mwyn cyfleu a chyflwyno gwybodaeth dechnegol / arbenigol mewn ffordd y gall pobl eraill (gan gynnwys pobl nad ydynt yn arbenigwyr) ei deall
• yn gallu canfod a datrys problemau yn gyflym, gan ddilyn prosesau sefydledig
• yn gallu gweithio’n gywir gan roi sylw i fanylder
• yn gallu gweithio’n annibynnol a defnyddio’ch blaengaredd, tra byddwch chi hefyd yn cydweithio ag aelodau’r tîm a phobl eraill yn y sefydliad
• yn gallu canolbwyntio a chyflwyno mewn amgylchedd gweithio hybrid

Mae’n fanteisiol eich bod:

• yn meddu ar ymwybyddiaeth o weithgarwch a mentrau twyll cyfredol a nodwyd ac ystyried yr effaith ar sefydliadau
• yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar)

Ymddygiadau allweddol

• Gweld y darlun mawr
• Newid a gwella
• Rheoli gwasanaeth o ansawdd da
• Cyflawni ar gyflymdra
• Gweithio gyda’n gilydd