MANYLION
  • Lleoliad: Conwy , Conwy, LL309GN
  • Testun: Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: 09 January, 2023
  • Dyddiad Gorffen: 31 March, 2024
  • Math o gyflog: Misol
  • Salary Range: £24,496.00 - £27,852.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Rhagfyr, 2022 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd

Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Conwy yn awyddus i benodi unigolyn profiadol gyda hunan-gymhelliant sydd ag angerdd tuag at gefnogi pobl ifanc i gyflawni. Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhannu ei amser yn gweithio mewn Ysgol Uwchradd ac amgylchedd Cymunedol.

Diben y prosiect yw i:

• Helpu i fynd i’r afael â materion presenoldeb a’r angen i ail-ymgysylltu gyda dysgu, problemau sydd wedi gwaethygu o ganlyniad i Covid.
• Datblygu rhaglenni cadarn o gefnogaeth i ddatblygu gwell canlyniadau addysgol i blant o gefndiroedd difreintiedig neu sy’n ddiamddiffyn o ganlyniad i resymau eraill.
• Cefnogaeth i wella amgylchedd y teulu a’r amgylchedd dysgu yn y cartref.
• Darparu cefnogaeth o ran ymyrraeth gynnar a chysylltu â gwasanaethau cefnogi eraill pan fo angen, gan gynnwys cefnogi iechyd meddwl a lles.
• Helpu teuluoedd difreintiedig i gael mwy o gapasiti i gefnogi dysg eu plentyn, gall hyn olygu cyfeirio at wasanaethau eraill fel cymorth gyda dibyniaeth, sicrhau cymaint o incwm â phosibl ac addysg oedolion.
• Gweithio gyda Swyddogion Lles Addysg, Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol, Darparwyr Gofal Iechyd, Cydlynwyr Ysgolion Iach, TRAC, y Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gwasanaethau Hamdden, Llyfrgelloedd, Cydlynwyr Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid, Cydlynwyr Digartrefedd Ieuenctid, Sefydliadau’r Trydydd Sector, y Gwasanaeth Cyflogadwyedd a lleoliadau addysg bellach.
• Darparu’r wybodaeth sydd ei hangen i’r Cydlynydd Grant ar gyfer adroddiadau i Uwch Arweinwyr a Llywodraeth Cymru ar effaith a chynnydd y prosiect.
• Gweithio mewn partneriaeth gyda gweithwyr canolfannau i deuluoedd Conwy i ddarparu pecyn o gefnogaeth ar gyfer teuluoedd, gan alluogi rhieni/gofalwyr i gael mynediad i gyfleoedd dysgu oedolion a fyddai’n eu galluogi i gefnogi dysg eu plant, eu lles neu fuddiannau eraill yn well.


JOB REQUIREMENTS
Ynghlwm