MANYLION
  • Lleoliad: Treorchy, Rhondda Cynon Taf, CF42 6ED
  • Testun: Cynorthwy-ydd Addysgu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: 01 January, 2023
  • Dyddiad Gorffen: 31 August, 2023
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £24,054 - £24,054
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Rhagfyr, 2022 12:00 y.p

This job application date has now expired.

Cynorthwy-ydd Addysgu (Lefel 3)

Cynorthwy-ydd Addysgu (Lefel 3)

Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen
YSGOL GYNRADD GYMRAEG YNYSWEN
Clinic Rd,
Ynyswen,
Treorci,
Rhondda Cynon Taf,
CF42 6ED

Swydd Cynorthwyydd Gradd 6/Lefel 3


Oriau: 27.5 awr yr wythnos Tymor Ysgol

Cyflog: Gradd 6 - £24,054 x 65 %

Ofynnol: Cyn gynted â phosibl tan Awst 2023


Dymuna Corff Llywodraethol Ynyswen apwyntio gynorthwyydd brwdfrydig, sensitif a chydwybodol.

Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio dan arweiniad y staff Addysgu a defnyddio ei flaengaredd i weithredu rhaglenni gwaith cytûn, gydag unigolion/grwpiau, yn yr ystafell ddosbarth a’r ardal tu allan. Disgwylir i’r ymgeisydd sefydlu perthynas gadarnhaol gyda disgyblion, gan fod yn esiampl dda a gosod disgwyliadau uchel trwy gyfrwng y Gymraeg. Disgwylir i’r ymgeisydd weithio gyda'r athrawes a staff cefnogi er mwyn sefydlu amgylchedd dysgu priodol yn unol â chynlluniau gwersi a chynorthwyo ag arddangos gwaith disgyblion. Edrychwn ymlaen at groesawu aelod newydd i dîm llwyddiannus Ynyswen.

Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y rôl oddi neu drwy'r wefan Recriwtio Ysgolion yn https://rhondda-cynon-taf.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-4/xf-c76d524b2100/candidate. Nodwch - i gyflwyno cais am y swydd yma, mae angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein sydd ar wefan Cyngor RhCT. O beidio â llenwi'r cais ar-lein byddwn ni'n cyfrif hynny fel nad ydych chi wedi gwneud cais am y swydd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd (12pm) ar 14 Rhagfyr 2022.


MAE DIOGELU PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD YR YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.