MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Athro
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Digyflog
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 08 Ionawr, 2023 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Academi Addysgu - Coleg Gwyr Abertawe

Academi Addysgu - Coleg Gwyr Abertawe

Coleg Gwyr Abertawe
Rydym yn chwilio am raddedigion ac unigolion sydd â phrofiad galwedigaethol neu broffesiynol perthnasol i ymuno â’n timau addysgu llwyddiannus. Rhaglen hyfforddiant cychwynnol i athrawon yw’r Academi Addysgu, lle byddwch yn dysgu am addysgeg ac yn ennill profiad ymarferol o addysgu yn yr ystafell ddosbarth trwy arsylwi, addysgu tîm a sesiynau micro-addysgu. Bydd gennych angerdd am eich disgyblaeth a byddwch yn awyddus i weithio â phobl ifanc, i’w galluogi i symud ymlaen i gam nesaf eu haddysg neu gyflogaeth.

Mae CGA yn sefydliad blaenllaw ym maes Safon Uwch ac rydym yn cynhyrchu canlyniadau sydd yn well o lawer na chanlyniadau ein cymaryddion cenedlaethol. Mae myfyrwyr ein meysydd galwedigaethol yn cystadlu yng nghystadlaethau World Skills, ac maent yn symud ymlaen yn llwyddiannus i’w dewisiadau cyflogaeth/addysg uwch. Rydym am ehangu ein timau addysgu gwych ac am ddatblygu talent ‘lleol’, gan sicrhau bod darparu staff yn meddu ar y gwerthoedd, yr ethos a’r sgiliau cywir, fel y gallant ddatblygu’n ddarlithwyr llwyddiannus yn y Coleg.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Mae Coleg Gwyr Abertawe’n cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ac yn cydnabod hefyd yr angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Rydym felly yn annog unigolion sy’n meddu ar Sgiliau Cymraeg da i wneud cais.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Gweler y ddogfen atodedig am ragor o wybodaeth.