MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF10 5BF
  • Testun: Addysg Bellach
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Gorffen: 28 April, 2023
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 06 Hydref, 2022 12:00 y.p

This job application date has now expired.

Hyfforddwr Rygbi Cynorthwyol (Ffocws ar Ymosod a Sgiliau)

Coleg Caerdydd a'r Fro
Cefnogi’r Pennaeth Rygbi yng ngwaith cynllunio, cydlynu a gweithredu’r rhaglen perfformiad rygbi, gan gynnwys:

• Cyflawni trwydded A Undeb Rygbi Cymru yn barhaus
• Dangosyddion perfformiad cytunedig y bartneriaeth ranbarthol mewn rygbi 15 / 7 bob ochr
• Ffocws ar gyflawni carfannau Cynghrair Colegau Cymru (NCL) ac AoC yn llwyddiannus
• Hwyluso diwylliant ac amgylchedd â’r myfyrwyr-chwaraewyr yn y canol, ar ac oddi ar y cae
• Cyfathrebu â’r chwaraewyr ac adborth unigolion
• Gweithgareddau recriwtio gan gynnwys ehangu cyfranogiad

JOB REQUIREMENTS
Teitl y Swydd: Hyfforddwr Rygbi Cynorthwyol (Ffocws ar Ymosod a Sgiliau)

Contract: Rhan-amser, tâl fesul awr (8.5 awr yr wythnos, yn ystod y tymor yn unig) Tymor penodol tan 28/04/23.

Lleoliad: Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd (CISC), Campws Canol y Ddinas a rhywfaint o deithio o gwmpas Caerdydd

Cyflog: £11.30-£12.30/awr

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro am benodi Hyfforddwr Rygbi Cynorthwyol a fydd yn canolbwyntio’n benodol ar Ymosod a Sgiliau.

Ym mhob elfen o’r gwaith, mae’r Hyfforddwr Cynorthwyol yn atebol i’r Pennaeth Rygbi ynghyd â chyswllt i Bennaeth a Dirprwy’r Adran Chwaraeon, Twristiaeth a Gwasanaethau Cyhoeddus.

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a fydd yn gallu cyflawni rhagoriaeth a bod yn barod i gymryd rhan weithredol ym mywyd y Coleg. Ymhlith y cyfrifoldebau bydd:

Cefnogi’r Pennaeth Rygbi yng ngwaith cynllunio, cydlynu a gweithredu’r rhaglen perfformiad rygbi, gan gynnwys:

· Cyflawni trwydded A Undeb Rygbi Cymru yn barhaus

· Dangosyddion perfformiad cytunedig y bartneriaeth ranbarthol mewn rygbi 15 / 7 bob ochr

· Ffocws ar gyflawni carfannau Cynghrair Colegau Cymru (NCL) ac AoC yn llwyddiannus

· Hwyluso diwylliant ac amgylchedd â’r myfyrwyr-chwaraewyr yn y canol, ar ac oddi ar y cae

· Cyfathrebu â’r chwaraewyr ac adborth unigolion

· Gweithgareddau recriwtio gan gynnwys ehangu cyfranogiad

· Byddai sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon.

Bydd cymhwyster hyfforddi’r Corff Llywodraethu Cenedlaethol gan yr ymgeisydd delfrydol ar Lefel 2 neu Lefel 3; bydd yn deall chwaraeon elît, gan gynnwys myfyrwyr-athletwyr, amgylcheddau, cymorth, hyfforddi a’r gwasanaethau a ddarperir, a bydd yn deall ac â phrofiad o ddatblygu cynlluniau perfformiad unigol ar gyfer myfyrwyr-chwaraewyr.

Cofiwch y bydd gweithio mewn chwaraeon perfformiad yn gofyn eich bod yn gweithio oriau hyblyg yn unol ag amserlenni hyfforddi myfyrwyr-athletwyr; gallai hyn gynnwys gwaith yn gynnar yn y bore, yn yr hwyr ac ar y penwythnos.

Mae rhagor o fanylion ynglyn â’r rôl, manyleb y person a chymwyseddau’r swydd ar gael yn y disgrifiad swydd atodedig.

Rhaid gwneud cais drwy ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a’r Fro yn unig. Ni dderbynnir ceisiadau CV.

12:00pm ar 06/10/2022 fydd y dyddiad olaf i dderbyn ffurflenni cais cyflawn.

I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais, ewch i www.cavc.ac.uk neu cysylltwch â’r Adran Adnoddau Dynol ar 029 2025 0311 neu recruitment@cavc.ac.uk

Mae pob swydd yn amodol ar wiriad cyfredol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd; ni chewch eich cyflogi heb wiriad dilys. Rhaid boddhau’r amod hwn yn rhan o’ch contract cyn dechrau gweithio.

Bydd cael swydd yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro yn amodol hefyd ar wirio pob geirda. Er mwyn i chi fod yn gallu gweithio yma, rhaid i ni dderbyn geirda oddi wrth eich cyflogwr presennol neu eich cyflogwr mwyaf diweddar.

Byddwn yn cysylltu â’r rhain pan wneir y penodiad.

Rydym yn ymrwymedig i recriwtio a chadw pobl ag anabledd ac rydym yn gyflogwr sydd â hyder mewn pobl ag anabledd.