MANYLION
  • Lleoliad: Tonypandy, Rhondda Cynon Taf, CF40 1NY
  • Testun:  Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,491 - £42,333
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Athro/athrawes i ddisgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig mewn Dosbarth Cynnal Dysgu Arsylwi ac Asesu

Athro/athrawes i ddisgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig mewn Dosbarth Cynnal Dysgu Arsylwi ac Asesu

Rhondda Cynon Taf
Gwasanaeth Cynnal Dysgu Rhondda Cynon Taf

Athro/athrawes i ddisgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig mewn Dosbarth Cynnal Dysgu Arsylwi ac Asesu

Ysgol Gynradd Llantrisant

Graddfa Cyflog Athrawon ynghyd â Lwfans AAA 1

Rydyn ni'n gwahodd ceisiadau gan athrawon profiadol, cymwys a brwdfrydig ar gyfer swydd athro/athrawes AAA mewn Dosbarth Cynnal Dysgu ar gyfer disgyblion ag Anawsterau Dysgu Cymhleth yn Ysgol Gynradd Llantrisant.

Mae'r swydd am 2 ddiwrnod yr wythnos.

Bydd y swydd yn dechrau o fis Ionawr 2022.

Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio gyda phlant ag anawsterau dysgu cymhleth.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Karen Pearson o'r Gwasanaeth Cynnal Dysgu yn Nhŷ Trevithick (01443) 744357.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 30 Medi 2022

Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y rôl oddi ar wefan Recriwtio'r Cyngor https://rhondda-cynon-taf.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-4/xf-c76d524b2100/candidate. Nodwch - i gyflwyno cais am y swydd yma, mae angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein sydd ar wefan Cyngor RhCT. O beidio â llenwi'r cais ar-lein byddwn ni'n cyfrif hynny fel nad ydych chi wedi gwneud cais am y swydd.

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R HOLL STAFF A BENODIR GAN Y CYNGOR.

YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.