MANYLION.
  • Lleoliad: Pibwrlwyd, SA31 2NH
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: £27,337 / blwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 01 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gwastrawd/Cynorthwyydd Iard Geffylau

Coleg Sir Gar

Cyflog: £27,337 / blwyddyn

Gwastrawd/Cynorthwyydd Iard Geffylau
Application Deadline: 1 April 2026

Department: Gwyddor Anifeiliaid a Cheffylau

Employment Type: Parhaol

Location: Campws Pibwrlwyd

Reporting To: Prif Wastrawd

Compensation: £27,337 / blwyddyn

DescriptionYdych chi'n frwdfrydig am ofal ceffylau ac yn awyddus i weithio mewn amgylchedd addysgol deinamig? Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Gofal Ceffylau ymroddedig i ymuno â'n tîm.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ofal dydd i ddydd tua 14 o geffylau, gan gefnogi dysgwyr amser llawn, rhan-amser a dysgwyr seiliedig ar waith, a chynnal yr iard a'r mannau marchogaeth i safon Canolfan Arholiadau'r BHS.

Cyfrifoldebau AllweddolDisgwylir i'r Gwastrawd/Cynorthwyydd Iard Geffylau wneud y canlynol:
  • Cyflawni dyletswyddau arferol y stabl: carthu, gwastrodi/clipio ac ymarfer ceffylau heini a farchogir ac ar y penwast, troi allan a dal. Rhaid iddo/iddi allu trin, marchogaeth ac ymarfer yr holl geffylau sydd wedi'u lleoli yn y coleg
  • Cymryd y cyfrifoldeb pennaf dros ymarfer ceffylau yn ôl yr angen a chysylltu â Grwpiau Ceffylau ac unigolion sy'n llogi'r arenâu marchogaeth
  • Cynnal a chadw'r ceffylau, yr iard, yr arenâu marchogaeth, yr ardaloedd o gwmpas, caeau a phadogau, cyfarpar, cadw cyfrwyau a dillad y ceffylau yn daclus ac mewn cyflwr gweithiol da i safonau'r BHS ac yn briodol ar gyfer Canolfan Arholi BHS. Talu sylw arbennig i ddiogelwch gan gynnwys cau giatiau ar ddiwedd sifftiau ac ati, ac adrodd am unrhyw namau neu faterion wrth iddynt godi. Cysylltu â'r person dynodedig trwy ffonio ar ddechrau a diwedd y sifft. Mynd ati'n rheolaidd i wirio cyfarpar, offer, peiriannau, a chwblhau rhestrau gwirio fel sy'n ofynnol gan y Prif Wastrawd / Pennaeth Cwricwlwm
  • Cynnal safon o wisg a gwisgo Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) sy'n briodol ac sy'n bodloni safonau presennol Canolfan Arholi BHS, gan osod esiampl dda fel model rôl cadarnhaol
  • Cynghori'r Prif Wastrawd/Pennaeth Cwricwlwm ynghylch rhaglenni gwaith ar gyfer gwastrodion rhan-amser o fewn terfynau eu disgrifiadau swydd, gan dalu sylw arbennig i Iechyd a Diogelwch. Cynorthwyo'r Prif Wastrawd gyda'r gwaith o drefnu staff rhan-amser i weithio ar benwythnosau a nodi staff posibl i gyflenwi pan fo salwch a staff rhan-amser ychwanegol i gyflenwi adeg gwyliau.Efallai y bydd gofyn i chi fod ar gael i gyflenwi'n achlysurol mewn achosion o salwch, tywydd gwael, gwyliau blynyddol neu achlysuron arbennig
  • Cyfrifoldeb am drin ceffylau'n rheolaidd pan fyddwch ar ddyletswydd e.e. ffarieraeth, rhoi meddyginiaeth wrthlyngyr, brechiadau, clipio, gan gysylltu'n agos â'r Prif Wastrawd / Pennaeth Cwricwlwm. Cwblhau cofnodion priodol a sicrhau bod gwastrodion eraill yn cael gwybod am y driniaeth a roddwyd
  • Monitro'r defnydd o fwyd anifeiliaid, deunydd gwely a nwyddau traul eraill gan sicrhau bod y gwaith papur angenrheidiol yn cael ei gwblhau'n llawn, gan gysylltu'n uniongyrchol â'r Prif Wastrawd a'r Pennaeth Cwricwlwm
  • Sicrhau bod cofnodion, dyddiaduron a siartiau yn cael eu cwblhau a bod y wybodaeth yn gywir ac yn cynnwys digon o fanylder
  • Bod yn gyfrifol am oruchwylio dysgwyr yn ystod sesiynau ar ddyletswyddau stabl. Cysylltu â staff academaidd a staff yr iard i oruchwylio myfyrwyr, gan gynnwys y dysgwyr hynny sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a dysgwyr seiliedig ar waith. Bod yn gyfrifol am iechyd a diogelwch y dysgwyr, gan gynnwys anghenion a cymwyseddau dysgwyr ifainc (14 - 19 oed)
  • Cysylltu â'r gwastrodion eraill a'r Prif Wastrawd ynglŷn â digwyddiadau sy'n digwydd yn ystod eich cyfnod ar ddyletswydd gan sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol yn cael ei chofnodi yn y dyddiadur
  • Cysylltu â'r gwastrodion parhaol eraill yn ystod y cyfnod trosglwyddo wythnosol i gytuno ar y modd y dyrennir tasgau e.e. ceffylau'n dod i mewn neu'n gadael, gorchwylion neu weithgareddau penodol y bydd angen rhoi sylw iddynt, a bod y gwastrawd arall a'r Prif Wastrawd yn cael gwybod yn llawn am ddigwyddiadau e.e. anafiadau i geffylau a digwyddiadau
  • Cysylltu â chontractwyr, tîm cynnal y tiroedd, Rheolwr y Campws, gofalwyr, gwesteion ac ymwelwyr â'r Uned Geffylau, gan sicrhau bod unrhyw beth a fyddai'n arwain at gost wedi cael ei gymeradwyo o flaen llaw. Cysylltu â Swyddfa'r Campws ynghylch bwciadau ar gyfer yr arenâu marchogaeth, gan gynnwys paratoi, cadw a chynnal a gwiriadau
  • Monitro defnydd priodol y ddwy arena pan gânt eu llogi gan amrywiol grwpiau o'r Gymuned Geffylau. Sicrhau bod arwynebau'r arenâu yn cael eu paratoi'n barod i'w defnyddio gan y rheiny sy'n llogi'r arenâu a'u bod mewn cyflwr addas at ddefnydd y coleg ar ôl y llogi. Sicrhau bod yna gyfarpar digonol ar gael ar gyfer y grŵp cymunedol i'w ddefnyddio i lanhau drwy gydol y dydd a bod biniau'n cael eu darparu a'u gwagio. Sicrhau bod cyfarpar y coleg sydd ar log ar gael i'r sawl sy'n ei logi, a'i fod yn cael ei wirio wedi iddo gael ei ddefnyddio. Adrodd wrth y Prif Wastrawd am unrhyw golledion neu gam-ddefnydd
  • Cyfrannu at Gyfarfodydd y Tîm Ceffylau naill ai drwy fod yn bresennol neu drwy anfon gwybodaeth berthnasol at y Prif Wastrawd / Pennaeth Cwricwlwm
  • Cysylltu â'r perchennog/perchnogion ceffylau, ar ôl ymgynghori â'r Prif Wastrawd a chofnodi'r holl gyfathrebu â hwy. Sicrhau bod holl waith papur angenrheidiol y perchennog yn cael ei gwblhau a'i storio'n ddiogel
  • Defnyddio menter i gynorthwyo'r tîm Ceffylau i ddatblygu gweithgareddau cynhyrchu incwm a gwneud y defnydd gorau o'r cyfleusterau Ceffylau
  • Cyfrannu at gadw cofnodion manwl gywir o'r defnydd a wneir o'r Cyfleusterau Ceffylau
  • Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth / Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol
  • Cymhwyster perthnasol yn y diwydiant/PC/BHS neu barodrwydd i'w gwblhau
  • Profiad perthnasol diweddar yn y diwydiant
  • Lefel briodol o ffitrwydd corfforol
  • Gallu a pharodrwydd i farchogaeth amrywiaeth o geffylau wrth gerdded, trotian a charlamu
  • Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
  • Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol da
  • Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr
  • Y gallu i weithio'n annibynnol
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
  • Aelodaeth Aur o Gymdeithas Ceffylau Prydain
  • Parodrwydd i ymgymryd â Hyfforddiant Cymorth Cyntaf yn y Gwaith
  • Parodrwydd i yrru ATV
  • Trwydded yrru lawn a dilys yn y DU
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1 Dymunol
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1 Dymunol
(Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm)

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein