MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ammanford, SA18 3TA
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: £25,875 - £28,078 / blwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 25 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £25,875 - £28,078 / blwyddyn
Anogwr Prentisiaethau Iau mewn AdeiladuApplication Deadline: 25 March 2026
Department: Adeiladu
Employment Type: Parhaol
Location: Campws Rhydaman
Reporting To: Pennaeth Cwricwlwm / Pennaeth Cefnogi Dysgwyr a Lles
Compensation: £25,875 - £28,078 / blwyddyn
DescriptionMae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion (y Coleg) wedi ymrwymo i benodi'r staff gorau posibl sy'n cyflawni rhagoriaeth yn eu gwaith. Gan weithio yn ôl y gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n sail i gynllun strategol a busnes y sefydliad, mae'r Coleg yn ceisio staff sy'n arddangos creadigrwydd ac arloesedd, tra'n gyrru eu perfformiad eu hunain, a pherfformiad eraill, i ddarparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau posibl i ddysgwyr.
Mae'r coleg yn dymuno penodi Anogwr Bugeiliol i roi cefnogaeth ac arweiniad i'r rhaglen Prentisiaethau Iau. Bydd gwaith yr Anogwr Bugeiliol yn galluogi pobl ifanc i oresgyn rhwystrau i ddysgu yn well a chyflawni canlyniadau dysgwyr llwyddiannus.
Mae'r Rhaglen Prentisiaethau Iau yn rhan o ddarpariaeth 14-16 a gyflwynir o fewn fframwaith addysg orfodol. Mae dysgwyr yn aros ar gofrestr eu hysgol gartref ac yn mynychu'r Coleg fel rhan o raglen statudol. O'r herwydd, mae'r rôl hon yn wahanol i ddarpariaeth AB ôl-16 safonol ac mae'n dwyn cyfrifoldebau ychwanegol mewn perthynas â diogelu, ymddygiad, presenoldeb ac ymgysylltiad.
Bydd gwaith yr Anogwr Prentisiaethau Iau yn ategu rhwydwaith cymorth ehangach y Gyfarwyddiaeth Profiad Dysgwyr yn y Coleg a gweithgareddau o fewn Meysydd Cwricwlwm. Bydd y gwaith yn gofyn am lefel uchel o gydweithio â staff eraill ar draws y Coleg ac yn allanol gyda'r Awdurdod Lleol ac ysgol y person ifanc. Mae'r rôl yn cynnwys ymyrryd yn gynnar a mynd i'r afael â phroblemau a phryderon dysgwyr, hybu diwylliant cadarnhaol a gofalgar, cyflwyno sesiynau datblygiad personol, a gweithio ar y cyd a'r tîm Prentisiaethau Ifanc er mwyn cyflawni dangosyddion perfformiad allweddol blynyddol.
Cyfrifoldebau AllweddolDyletswyddau Cyffredinol/Dyraniad:
- Darparu lefelau priodol o gefnogaeth ac arweiniad i fyfyrwyr i'w helpu i ddeall eu harddulliau dysgu, gan ddefnyddio prosesau hyfforddi i alluogi'r dysgwyr i ddysgu'n fwy effeithiol
- Hwyluso cefnogaeth yn y dosbarth i helpu dysgwyr i gael mynediad at y cwricwlwm ac ymgysylltu ag ef, gan deilwra cymorth i'w hanghenion a'u harddulliau dysgu unigol
- Goruchwylio a chefnogi dysgwyr sy'n brentisiaid iau yn ystod amseroedd distrwythur, fel egwyliau, amser cinio, a chyfnodau pontio, er mwyn sicrhau eu diogelwch a'u lles wrth annog rhyngweithiadau cymdeithasol cadarnhaol
- Cydweithio â'r holl staff i addasu cynlluniau gwersi a gweithgareddau ystafell ddosbarth i ddiwallu anghenion amrywiol dysgwyr
- Meithrin perthnasoedd cadarnhaol â dysgwyr a gweithredu fel mentor ac eiriolwr, gan ddarparu arweiniad ac anogaeth wrth iddynt lywio eu taith addysgol
- Gweithredu fel cyswllt rhwng dysgwyr, staff, rhieni/gwarcheidwaid, ac asiantaethau allanol er mwyn sicrhau cefnogaeth gydlynol a chyfannol i ddysgwyr
- Cefnogi a chymryd rhan mewn gweithgareddau pontio i gefnogi dysgwyr sy'n dechrau, symud ymlaen a gadael y rhaglen prentisiaethau iau
- Mynd i'r afael â phroblemau presenoldeb fel y nodir yn y polisi presenoldeb a diogelu, monitro presenoldeb ar gyfer dysgwyr unigol a mynd i'r afael â phroblemau presenoldeb gan ddefnyddio technegau rheoli ymddygiad cadarnhaol
- Cynnal cofnodion cywir ac amserol o ymyriadau cynnar, cynnydd a chanlyniadau, gan sicrhau bod yr holl ddogfennaeth yn cyd-fynd â pholisïau a safonau'r coleg
- Cwblhau adroddiadau interim a chrynodol dysgwyr
- Mynychu a chyfrannu at ddigwyddiadau ymgynghori â rhieni fel anogwr bugeiliol
- Cyfrannu at waith y coleg ar ddiogelu yn unol â'r polisi a phrosesau adrodd
- Mynychu a chymryd rhan mewn unrhyw gyfarfodydd mewnol perthnasol megis gwrandawiadau disgyblu, adolygiadau dysgwyr, cyfarfodydd amlddisgyblaethol, cyfarfodydd tîm
- Datblygu, hwyluso a chyflwyno gweithgareddau pontio gyda'r nod o gefnogi dysgwyr i ddod i'r coleg
- Cydweithio â holl staff eraill y gyfadran i rannu gwybodaeth berthnasol
- Darparu Tiwtorial (sesiynau datblygiad personol) i'r grwpiau o brentisiaid iau
- Ymgymryd ag adolygiadau cynnydd un-i-un gyda dysgwyr unigol a sesiynau gosod targedau unwaith bob hanner tymor
- Cysylltu ag arweinydd y cwrs a defnyddio systemau digidol cwrs i fonitro ac olrhain cynnydd dysgwyr
- Cefnogi dysgwyr i osod a chyflawni eu cyrchnodau unigol
- Chwarae rhan weithredol wrth gefnogi presenoldeb cadarnhaol ar gyfer Prentisiaid Iau (gan ddilyn canllawiau'r Coleg)
- Gwneud atgyfeiriadau priodol yn y coleg a thu allan i'r coleg
- Cyflwyno sesiynau tiwtorial personol a gynlluniwyd gan y tîm cefnogi dysgwyr canolog.
- Cefnogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth y tu hwnt i'w cymwysterau
- Annog cyfranogiad gweithredol mewn gweithgareddau datblygiad personol a chyfoethogi.
- Cysylltu â staff addysgu i nodi rhesymau dros dangyflawni gyda myfyrwyr a gweithredu amrywiaeth o offer megis atgyfeirio, gwaith 1:1, gosod targedau heriol a gwrando ar ddysgwyr i fagu lefelau hyder
- Cysylltu â'r tîm Byddwch yn Uchelgeisiol i gydlynu rhaglen gyflogadwyedd ar gyfer pob dysgwr
- Cynorthwyo dysgwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â'u llwybrau gyrfa a'u llwybrau dilyniant yn y dyfodol
- Cefnogi dysgwyr wrth iddynt bontio i'w camau nesaf mewn addysg, hyfforddiant pellach, neu gyfleoedd cyflogaeth
- Cefnogi dysgwyr i gwblhau gweithgareddau a phrosesau Llais y Dysgwr
- Gweinyddu holiaduron dysgwyr a chyflawni Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs) sy'n gysylltiedig â chyfranogiad dysgwyr
- Cynnal cofnodion cywir ac amserol o ymyriadau cynnar, cynnydd a chanlyniadau, gan sicrhau bod yr holl ddogfennaeth yn cyd-fynd â pholisïau a safonau'r coleg
- Hybu ymddygiad cadarnhaol yn unol â gwerthoedd y coleg sef Bod yn Barod, Bod yn Barchus a Bod yn Ddiogel
- Mynd i'r afael â phryderon am ymddygiad dysgwyr yn brydlon ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r coleg
- Hybu amgylchedd dysgu cadarnhaol a pharchus
- Cydweithio gyda chydweithwyr cwricwlwm a gwasanaethau dysgwyr i nodi, cefnogi ac atgyfeirio myfyrwyr sydd “mewn perygl"
- Cwblhau asesiadau risg ar gyfer dysgwyr unigol lle bo angen
- Rhoi ymyriadau priodol a strategaethau cymorth i fyfyrwyr ar waith
- Monitro ac olrhain cynnydd dysgwyr sydd mewn perygl
- Gweithio'n agos gyda Chydlynydd y Prentisiaethau Iau er mwyn canfod, cynnal yr asesiadau risg angenrheidiol a monitro dysgwyr mewn lleoliad gwaith
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddYr Iaith Gymraeg:
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Hanfodol
- Gradd neu gyfwerth
- Cymwysterau perthnasol ar Lefel 3 neu uwch Hanfodol
- TGAU Saesneg ac Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- Profiad a dealltwriaeth o weithio mewn ffordd sy'n Ystyriol o Drawma
- Cyfathrebwr da
- Sgiliau rhyngbersonol da
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr
- Sgiliau cyflwyno da
- Y gallu i uniaethu â'r grŵp targed
- Sgiliau llythrennedd cyfrifiadurol da
Dymunol
- TAR
- Profiad perthnasol o weithio gyda phobl ifanc
- Profiad o gymryd rhan yn weithredol mewn gofal bugeiliol ar gyfer pobl ifanc
- Profiad o gyflwyno addysgu a dysgu
- Profiad o reoli ymddygiad heriol yn effeithiol
Buddion
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein