MANYLION
  • Lleoliad: Barry, Vale of Glamorgan, CF62 9YQ
  • Testun: Pennaeth
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £94,245 - £108,035
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 05 Gorffennaf, 2022 11:45 y.p

This job application date has now expired.

SWYDD PENNAETH x 2 YSGOL UWCHRADD PENCOEDTRE, Y BARRI YSGOL UWCHRADD WHITMORE, Y BARRI

SWYDD PENNAETH x 2 YSGOL UWCHRADD PENCOEDTRE, Y BARRI YSGOL UWCHRADD WHITMORE, Y BARRI

Ysgol Uwchradd Pencoedtre
Amdanom ni


Mae'r Cyrff Llywodraethu yn dymuno penodi Pennaeth ar gyfer pob un o'r ddwy ysgol uchod.

Agorodd y ddwy ysgol gydaddysgol ym mis Medi 2018 ac maent wedi bod yn cydweithio ers y dyddiad hwnnw, gan drawsnewid addysg i ddisgyblion yn ardal y Barri. Yn ddiweddar, symudodd yr ysgolion i safleoedd newydd pwrpasol.

Mae'r cyfnod pontio hynod lwyddiannus wedi'i ysgogi gan Bennaeth Gweithredol, ond mae Llywodraethwyr bellach wedi penderfynu mai cam nesaf y prosiect hwn yw penodi Pennaeth newydd ar gyfer pob un o'r ddwy ysgol.

Am y Rôl
Ystod cyflog: 33-39* £94,245-£108,035 (yn seiliedig ar raddfeydd 21/22)

Dyddiad dechrau: MEDI 2023 (yn ddelfrydol gyda rhai trefniadau trosglwyddo anffurfiol cyn y dyddiad hwn)

Mae'r rhain yn gyfleoedd gwych i arweinwyr rhagorol, deinamig ac ysbrydoledig adeiladu ar y sylfeini cadarn a sefydlwyd, ac i sicrhau mai eu hysgol nhw yw'r dewis cyntaf i ddisgyblion yn y dalgylch perthnasol.

Mae'r rolau'n heriol a bydd angen unigolion sy'n llawn cymhelliant ac sydd wedi ymrwymo i gyflawni'r lefelau uchaf o ddarpariaeth addysg mewn amgylchedd gofalgar a meithringar. Mae'r ysgolion yn cydweithio'n llwyddiannus iawn sy'n cynnwys cydweithio rhwng y staff a'r cyrff llywodraethu, ac mae pob un ohonynt yn gefnogol iawn i'r prosiect hwn.

Amdanat ti
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr a fydd:

• yn gallu dangos arweinyddiaeth ragorol ac sy’n frwd dros gyflawni rhagoriaeth yn y cwricwlwm
• â hanes amlwg o lwyddiant wrth wella Addysgu a Dysgu
• â disgwyliadau uchel ar gyfer yr holl blant yng nghymuned yr ysgol
• â’r hyder i sicrhau'r disgwyliadau uchaf o ran cyflawniad ac ymddygiad
• â sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol a byddwch yn gallu datblygu perthynas gref gyda'r holl randdeiliaid
• yn dangos blaengaredd, dychymyg, creadigrwydd, ac ymagwedd gadarnhaol
• yn barod i gyfrannu at fywyd llawn yr ysgol a'i chymuned
• yn gallu dangos profiad o gydweithio, yn y sector uwchradd yn ddelfrydol.

Bydd angen i'r rhai sy'n gwneud cais am eu swydd Pennaeth gyntaf fod wedi cyflawni CPCP.

Oes angen gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd?: Manwl

Angen cofrestru gyda’r CGA: Mae'n ofyniad statudol bod yn rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y swyddi hyn gael eu cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg cyn y gallant ddechrau gweithio mewn ysgol. Os nad ydych eisoes wedi cofrestru, mae gwybodaeth bellach, gan gynnwys sut i gofrestru, ar gael yn www.ewc.wales

Sut i wneud cais
Rhaid dychwelyd ffurflenni cais wedi'u cwblhau at Jeremy Morgan drwy e-bost ar JMorgan@bromorgannwg.gov.uk

erbyn dydd Mawrth 5 Gorffennaf 2022 am hanner dydd.
Dim ond un cais sydd ei angen ar gyfer y ddwy swydd. Os yw ymgeisydd ond yn dymuno gwneud cais am un o'r swyddi, neu’n ffafrio un yn benodol, dylai fynegi hyn ar ei gais lle y nodir hynny.

Yn unol â'n dull cydweithredol, bydd Llywodraethwyr o'r ddwy ysgol yn cynnal un ymarfer recriwtio ar gyfer y ddwy swydd.


Dyddiad cau: Dydd Mawrth 5 Gorffennaf 2022
Llunio rhestr fer: Dydd Llun 11 Gorffennaf 2022
Ymweliad Ysgol Dewisol: Dydd Iau 14 Gorffennaf 2022
Y broses ddethol (cyflwyniad a chyfweliadau): Dydd Gwener 15 Gorffennaf 2022