MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF240AB
  • Testun: Swyddog Gweithredol
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £25,531 - £29,427
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 10 Mehefin , 2022 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Swyddog Gweithredol,  Hyrwyddo Gyrfaoedd

Swyddog Gweithredol, Hyrwyddo Gyrfaoedd

Cyngor y Gweithlu Addysg
Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r corff proffesiynol statudol, hunanreoleiddiol ar gyfer aelodau’r gweithlu addysg yng Nghymru.

Bydd y Swyddog Gweithredol yn darparu cymorth gweinyddol cyffredinol dwyieithog i’r tîm sy’n gyfrifol am hyrwyddo gyrfaoedd mewn addysg, gan gynnwys darparu gwasanaeth ymholiadau proffesiynol a chyfleuster desg gymorth, a chynnal a diweddaru sianeli cyfryngau cymdeithasol a gwefannau. Bydd y Swyddog Gweithredol yn gyfrifol am drefnu a hwyluso cyfarfodydd â rhanddeiliaid allweddol, a threfnu a mynychu digwyddiadau allanol yn ymwneud â hyrwyddo gyrfaoedd, gan ddarparu cyflwyniadau, lle bo hynny’n briodol.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau trefnu, sgiliau cyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol rhagorol, a phrofiad o ymdrin ag amrywiaeth o ymholiadau, a datblygu a chynnal prosesau gweinyddol manwl. Byddant yn siaradwr Cymraeg rhugl a bydd ganddo'r gallu i weithio trwy gyfrwng Cymraeg a Saesneg.

Mae buddion i gyflogeion yn cynnwys mynediad i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, oriau hyblyg a 31 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â 10 gŵyl banc a diwrnod braint).

E-bostiwch recriwtio@cga.cymru i gael rhagor o wybodaeth, neu i lawrlwytho pecyn cais, ewch i: https://www.ewc.wales/recriwtio

JOB REQUIREMENTS
Ewch i'r wefan i gael mwy o wybodaeth