MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF10 5BF
  • Testun: Darlithydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £21,507 - £42,327
  • Iaith: Dwyieithog

This job application date has now expired.

Darlithydd Gosodiadau Trydanol a HND/HNC Gwasanaethau Adeiladu

Darlithydd Gosodiadau Trydanol a HND/HNC Gwasanaethau Adeiladu

Coleg Caerdydd a'r Fro
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn dymuno penodi Darlithydd Gosodiadau Trydanol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu darparu ac asesu hyd at Lefel 3 Gosodiadau Trydanol i brentisiaid, ac unedau ar yr HND/HNC megis BIM ac Egwyddorion Dylunio a Gosod Trydanol.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â'r holl waith addysgegol megis paratoi gwersi, addysgu yn yr ystafell ddosbarth, gwaith tiwtorial a marcio. Mae cyfrifoldebau eraill y swydd yn cynnwys:
• Cynnal asesiadau i fyfyrwyr er mwyn lleoli myfyrwyr, monitro cynnydd ac adnabod anghenion cymorth dysgu
• Darparu cymorth priodol i fyfyrwyr er mwyn diwallu anghenion academaidd a llesiant dysgwyr a sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol wedi'i chofnodi ar y systemau Coleg priodol
• Cymryd rhan mewn gweithgareddau gwerthuso cwrs a chyfrannu at y gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm
• Ymwneud â marchnata, h.y. adnabod gofynion defnyddwyr, creu deunyddiau hyrwyddo priodol a gweithio ag asiantaethau allanol lle bo'n briodol

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn meddu ar gymhwyster galwedigaethol mewn Gosodiadau Trydanol ar Lefel 3 ac uwch a bydd ganddo brofiad diwydiannol/masnachol perthnasol. Mae'n rhaid i ddeiliad y swydd hefyd feddu ar gymhwyster addysgu perthnasol neu fod yn barod i weithio tuag at un. Byddai dyfarniad asesydd perthnasol a chymhwyster dilysydd yn hynod ddymunol hefyd.