MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF10 5BF
  • Testun: Asesydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £24,348 - £26,426
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 03 Mehefin , 2022 12:00 y.p

This job application date has now expired.

Asesydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Asesydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Coleg Caerdydd a'r Fro
SWYDD DDISGRIFIAD A MANYLEB PERSON

Y SWYDD: Asesydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol

SECTOR: Dysgu Seiliedig ar Waith

LLEOLIAD: Bydd gofyn i’r unigolyn sy’n cael ei benodi fod yn hyblyg ac yn barod i weithio ar draws safleoedd yn ôl cyfarwyddyd ei reolwr llinell. Gall gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau hefyd fod yn ofynnol.


YN ADRODD I: Arweinydd Tîm

YN GYFRIFOL AM: Asesu llwyth achos o thua 45 o Ddysgwyr Seiliedig ar Waith



CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL


1. Gweithio fel rhan o dîm sy’n perfformio’n dda, a chyfrannu at y tîm hwnnw

2. Gosod a chefnogi dysgwyr i gyflawni hyd eithaf eu gallu a chyflawni eu rhaglen uwchlaw'r cymharydd cenedlaethol.

3. Cyfrannu'n gadarnhaol at weledigaeth, cenhadaeth, gwerthoedd a Chynllun Gweithredol y Coleg.

4. Croesawu newid, cyfathrebu, gwella a grymuso parhaus, drwy sicrhau cymhelliant, teyrngarwch a chefnogaeth cydweithwyr.

5. Cyfrannu’n barhaus at y gwaith o adolygu, gwella ac optimeiddio effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd eich prosesau adrannol.

ROLAU ALLWEDDOL

Rolau Penodol


1. Bod yn gyfrifol am asesu llwyth achos o ddysgwyr, a’u cynnydd, er mwyn cyflawni'r dangosyddion perfformiad allweddol gweithredol a bennwyd sy'n cynnwys recriwtio dysgwyr, monitro cynnydd a chyflawni'r cymhwyster i fodloni gofynion y contract.

2. Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cytundebol o fewn holl feysydd taith y dysgwr; sy’n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, fonitro a gwirio iechyd a diogelwch, profion WEST, cofrestru dysgwyr a gwaith papur gadael ac ar adolygiadau rhaglenni.

3. Adolygu perfformiad cyfredol a darparu rhagolygon cywir ar berfformiad cyfan, i’ch galluogi chi i reoli eich llwyth achosion a datrys problemau’n rhagweithiol.

4. Meddu ar wybodaeth fanwl am eich sector a bod ynghlwm â thueddiadau a datblygiadau diweddaraf y diwydiant i sicrhau bod cymhwysedd galwedigaethol yn gyfredol.

5. Ymwneud â chyflogwyr yn rhagweithiol yn ystod ymweliadau er mwyn hyrwyddo dysgu’n seiliedig ar waith. Ymdrin â datblygiadau ac ymholiadau’n brydlon.

6. Cydymffurfio â rheolau sicrhau ansawdd mewnol, sicrhau bod eich arfer yn bodloni meini prawf y sefydliad dyfarnu ym mhob maes a bod argymhellion ynghylch camau gweithredu gan Ddilyswyr Allanol neu bersonél cysylltiedig yn cael eu rhoi ar waith

7. Gwneud gwaith sicrhau ansawdd mewnol (IQA), fel amlinellwyd gan y Sefydliad Dyfarnu, ac yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwr Llinell. Mae’r dyletswyddau hyn yn cynnwys cymryd rhan mewn cyfarfodydd Sicrhau Ansawdd.
8. Cyfrannu’n weithredol at gyfnodau o newid er mwyn bodloni anghenion dysgu seiliedig ar waith, presennol ac yn y dyfodol, er enghraifft, cyflwyno technoleg ac E-bortffolio.

9. Datblygu llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol dysgwyr yn weithredol.

10. Gweithio gyda thîm masnachol y Coleg a chyflogwyr i dargedu pobl newydd yn unol â thargedau WBL a adolygir yn rheolaidd.

11. Nid yw'r rhestr uchod yn gynhwysfawr nac yn gyfyngedig a bydd disgwyl i ddeilydd y swydd ymgymryd â dyletswyddau eraill ar gais ei Reolwr Llinell, a allai gynnwys datblygu sectorau newydd neu gyflwyno cymwysterau newydd.


Rolau Cyffredinol

1. Cynrychioli’r Coleg fel sy'n ofynnol i gyflawni eich dyletswyddau neu yn ôl cyfarwyddyd eich Rheolwr Llinell.

2. Cyflawni targedau a dangosyddion perfformiad y cytunwyd arnynt ym mhob maes cyfrifoldeb.

3. Cydymffurfio â pholisïau'r Coleg, yn enwedig y rheiny mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth.

4. Cydymffurfio ag Iechyd a Diogelwch a mesurau diogelwch yn unol â gofynion statudol a'r Coleg.

5. Bod yn esiampl gan gefnogi gwerthoedd a rheolaeth gorfforaethol y Coleg.

6. Datblygu eich hun yn weithredol drwy weithgareddau hyfforddiant a datblygiad staff ac adolygu eich perfformiad eich hun a pherfformiad y rhai hynny sy'n atebol i chi.

6. Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy'n gyson â chyfrifoldebau a dyletswyddau'r swydd, yn ôl cyfarwyddyd eich Rheolwr Llinell.
JOB REQUIREMENTS
MANYLEB PERSON A CHYMWYSEDDAU’R SWYDD

1. Cymwysterau

1. Cymwysterau Diwydiannol Priodol
2. Cymhwyster Asesydd Cydnabyddedig (A1/D32/D33)
3. Dyfarniad Lefel 4 mewn Sicrhau Ansawdd Mewnol Arferion a Phrosesau Asesu


2. Profiad Blaenorol a Gwybodaeth ynghylch y Swydd

1. Mae’r sefydliad dyfarnu yn gofyn am brofiad o’r Diwydiant i asesu’r cymwysterau ar y lefel briodol.

2. Profiad o ddadansoddi, defnyddio data ac adrodd ar berfformiad.

3. Hanes profedig o gydweithio fel rhan o dîm.


3. Sgiliau (Cymwyseddau a Gallu)

1. Gwybodaeth eang am TG a chymhwysedd wrth ddefnyddio pecynnau TG perthnasol.

2. Profiad llwyddiannus o weithio tuag at dargedau, a’u cyflawni.

3. Yn ymrwymedig i wella ansawdd yn barhaus.

4. Bod â dealltwriaeth o gyfle cyfartal, ac ymrwymiad iddo

5. Sgiliau trefnu a rheoli amser da er mwyn bodloni terfynau amser.

6. Y gallu i arwain ac ysgogi unigolion i lwyddo.

7. Ymagwedd hyblyg, gan gynnwys gweithio ar draws campysau ac o bell.

8. Ymagwedd gadarnhaol a dynamig at newid.

4. Gofynion Ychwanegol

1. Ymwybyddiaeth o dueddiadau addysg a dysgu seiliedig ar waith cyfredol.

2. Y gallu i siarad Cymraeg, neu barodrwydd i ddysgu

3. Bydd angen gallu gyrru i wneud y swydd hon, ac felly mae angen trwydded yrru ddilys, car ac yswiriant busnes.