MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff , Cardiff, CF10 3NQ
  • Testun: Mentor
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: 25 April, 2022
  • Dyddiad Gorffen: 31 July, 2022
  • Math o gyflog: Dyddiol
  • Salary Range: £300.00 - £300.00
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 01 Ebrill, 2022 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Cyfle bach i ymgynghori - Mentoriaid Cymunedol Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon x5

Cyfle bach i ymgynghori - Mentoriaid Cymunedol Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon x5

Llywodraeth Cymru
Mae'r Prif Weinidog a'i Gabinet wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â’r gwaith sydd ei angen i gefnogi'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021.

Fel rhan o'r cynllun ac er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r materion a'r argymhellion yn ymwneud ag Addysg Gychwynnol Athrawon, cyhoeddwyd y Cynllun Recriwtio Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon ym mis Hydref 2021 sy’n canolbwyntio ar yr hyn y mae angen ei wneud i recriwtio myfyrwyr o gefndiroedd ethnig leiafrifol i raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) ac i'r proffesiwn addysgu.

Mae'r Cynllun Recriwtio yn canolbwyntio ar y camau y gellir eu cymryd i recriwtio mwy i raglenni AGA yng Nghymru. Mae'n nodi’r hyn y gellir ei gyflawni yn y tymor byr ac felly'r gwaith hwn fydd cam cyntaf strategaeth tymor hwy a fydd yn cael ei datblygu ochr yn ochr â chamau gweithredu a fydd yn cael eu cymryd mewn meysydd eraill. Roedd y diffyg dull strategol o gynyddu cynrychiolaeth yn y gweithlu yn tynnu sylw at yr angen i Bartneriaethau AGA ymgymryd â gwaith yn y maes hwn a datblygu eu cynlluniau recriwtio eu hunain sydd wedi'u cynllunio'n benodol i ddenu myfyrwyr ethnig leiafrifol, gan gynnwys myfyrwyr Cymraeg, i raglenni.

Partneriaethau Addysg Gychwynnol Athrawon

Partneriaeth Aberystwyth - Prifysgol Aberystwyth
Partneriaeth Caban - Prifysgol Bangor
Partneriaeth y Brifysgol Agored - Y Brifysgol Agored
Partneriaeth Abertawe - Prifysgol Abertawe
Partneriaeth yr Athrofa - Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Er mwyn cefnogi Partneriaethau AGA Cymru i gyflawni eu camau penodol nhw a datblygu cynllun gweithredu, rydym bellach yn chwilio am unigolion o'r gymuned Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sydd â gwybodaeth helaeth am effaith wahaniaethol hiliaeth mewn addysg, recriwtio, cyflogaeth, marchnata ac arweinyddiaeth. Gallai fod gennych arbenigedd mewn sawl un o'r meysydd hyn neu eich bod yn arbenigo mewn un ohonynt. Gallech fod yn academydd, yn ymgynghorydd, yn swyddog polisi profiadol o lywodraeth leol neu'r sector gwirfoddol neu breifat, yn weithiwr cymunedol profiadol neu'n ymarferydd presennol.

Dyma’r camau a nodwyd yn y Cynllun Recriwtio a’r gwaith y bydd y Partneriaethau AGA yn ei wneud i gefnogi recriwtio myfyrwyr o'r gymuned Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, gan gynnwys myfyrwyr Cymraeg, i raglenni AGA:

• Adolygu’r prosesau recriwtio presennol a threfniadau'r panel cyfweld.

• Adolygu a gwella'r trefniadau cymorth ar gyfer myfyrwyr ethnig leiafrifol ym mhob cam o'r broses ymgeisio ac astudio.

• Adolygu'r modd y cymhwysir y meini prawf ar gyfer gofynion achredu mewn rhaglenni sy'n bodoli eisoes a gweithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, Estyn a grwpiau rhanddeiliaid i gryfhau a datblygu hyn.

• Gweithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg i ddatblygu adroddiadau ar geisiadau gan fyfyrwyr ethnig leiafrifol a derbyniadau i gyrsiau fel rhan o'r broses adrodd fisol barhaus.

Bydd gofyn i chi wneud y canlynol:

• Cefnogi Partneriaeth AGA ddynodedig i adolygu eu prosesau recriwtio presennol a datblygu eu cynllun recriwtio a fydd yn cael ei gynllunio i ddenu myfyrwyr ethnig leiafrifol i gyrsiau a bodloni'r camau gweithredu yn y Cynllun Recriwtio Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon.

• Cynnig sgyrsiau un-i-un adeiladol i rannu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o sut mae hiliaeth sefydliadol yn effeithio ar addysg a dewisiadau gyrfa ac yn arwain at effeithiau anghymesur, negyddol ar fywydau pobl ddu, Asiaidd a ac ethnig leiafrifol. Ni fydd angen i chi gynrychioli unrhyw un gymuned neu grŵp Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol penodol. Rydym yn croesawu’r gallu i gynnig profiadau a gwybodaeth am y ffordd y mae cydraddoldeb yn croestorri ac yn effeithio ar bobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

• Cynnig eich profiad byw fel person o gymuned Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol.

• Gweithio'n adeiladol gyda phartneriaeth ddynodedig i lywio dealltwriaeth o ba newidiadau sydd eu hangen i wella'r effeithiau anghyfartal ar gymunedau Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr polisi ond eich bod yn chwilio am drafodaeth ar sut y gallai eich profiad helpu i sbarduno newid.

• Ymrwymo i weithio gyda'r bartneriaeth AGA ddynodedig tan fis Gorffennaf 2022 pan fydd y cynllun recriwtio i fod i gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Bydd lefel y cymorth sy'n ofynnol gan bob partneriaeth unigol yn wahanol yn dibynnu ar eu hangenion. Ar ôl ei recriwtio, bydd y mentor yn trafod lefel y gwaith gyda'r bartneriaeth a nifer y diwrnodau sydd eu hangen.

O ganlyniad i'r gwaith hwn: byddwch yn cael cipolwg ar sut y caiff polisi ei ddatblygu ac ar brosesau recriwtio Prifysgolion a sut y mae rhaglenni AGA yn cael eu datblygu, eu cydgysylltu a’u cyflwyno. Bydd hefyd gennych y gallu i ddylanwadu ar lefel y cymorth a roddir i fyfyrwyr gan Brifysgolion drwy bartneriaethau AGA ac i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru.
JOB REQUIREMENTS
Anfonwch ddatganiad personol (dim mwy na 900 gair) sy’n amlinellu sut rydych chi’n meddwl y gallwch gyfrannu yn y rôl hon, ynghyd â'ch CV, erbyn 1 Ebrill 2022
trwy Addysgwyr Cymru

Am fanylion llawn y swydd a sut i wneud cais, cyfeiriwch at y dogfennau atodedig.