MANYLION
  • Testun:
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cogydd â Chyfrifoldeb (Gogledd Powys)

Cogydd â Chyfrifoldeb (Gogledd Powys)

Cyngor Sir Powys
Cogydd â Chyfrifoldeb (Gogledd Powys)
Swydd-ddisgrifiad
Am y rôl:

Lleolir y Cogydd Symudol hwn mewn cegin ysgol un ai yn y Drenewydd neu y Trallwng. 25 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig, sef 38 wythnos. Mae yna bob amser cyfle am waith ychwanegol yn ystod gwyliau'r haf am ein bod ni'n cynnal rhaglen hwyl a bwyd yn rhai o'n hysgolion, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Amdanoch chi:
  • Bydd angen i chi gael trwydded yrru a'ch modd eich hun o deithio ac yswiriant busnes.
  • Mae'n hanfodol cael profiad a chymwysterau mewn Coginio (diogelwch bwyd lefel 2 neu gyfwerth)
  • Ymagwedd hyblyg at amseroedd gwaith y dydd
  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog
  • Gweithio'n dda mewn tîm neu ar eich pen eich hun
  • Meddu ar beth gwybodaeth am ddietau arbennig ac alergeddau
Beth fyddwch chi'n ei wneud:

Bydd y cogydd symudol yn helpu i gyflenwi dros absenoldebau staff yn ardal canolbarth Powys. Un ai cynorthwyo cogydd mewn cegin ysgol uwchradd, neu ysgol gynradd fawr neu gyflenwi a chymryd mwy o gyfrifoldeb ar ran cogydd mewn ysgol gynradd lai o faint.

Bydd y cogydd yn gyfrifol am gadw at bolisïau a gweithdrefnau Powys sydd gennym mewn lle yn ein ceginau.

Paratoi, coginio a gweini prydau i ddisgyblion o bob oed gan ddilyn ein canllawiau maethol a rheoli dognau.

Os oes unrhyw gwestiynau gennych am y rôl hon, cysylltwch:

Rheolwr Arlwyo'r Ardal Jayne Perry 01686 611589