MANYLION
  • Testun:
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro Addysg Gorfforol (Ysgol Calon Cymru)

Athro Addysg Gorfforol (Ysgol Calon Cymru)

Cyngor Sir Powys
Athro Addysg Gorfforol (Ysgol Calon Cymru)
Swydd-ddisgrifiad
Mae Ysgol Calon Cymru yn ysgol 11-18 yng nghanol Powys gyda thua 850 o ddisgyblion a chweched dosbarth gweithredol - https://www.ysgolcalon.cymru . Rydym yn falch o'n disgyblion ac yn disgwyl iddynt weithio'n galed i gyflawni ac yna rhagori ar eu disgwyliadau.

Rydym yn chwilio am Athro/Athrawes Addysg Gorfforol llawn cymhelliant ac ymroddedig sy'n gallu dysgu pob cyfnod Allweddol ac sy'n awyddus i wneud gwahaniaeth i brofiadau addysg a dysgu ein myfyrwyr.

Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle cyffrous i athro/athrawes sy'n gallu ysbrydoli weithio mewn tîm cefnogol ac egnïol. Byddem yn croesawu ceisiadau gan athrawon profiadol a newydd gymhwyso. Os oes gennych chi sgiliau trefniadaeth rhagorol a'r gallu i weithio gydag eraill i godi lefel cyflawniad trwy ysgogi ac ysbrydoli myfyrwyr, yn a hoffem glywed oddi wrthych.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod â gwybodaeth ragorol o'i bwnc/o'i phwnc a bod yn addysgwr gwych sy'n awyddus i ddatblygu ei (h)ymarfer a sicrhau parhad yn llwyddiant ein disgyblion. Rhaid i chi allu cynllunio gwersi sy'n annog myfyrwyr i ymgysylltu, a gweithio gydag adran ddawnus a diwyd sy'n ymroddedig i ddarparu cyfleoedd heb eu hail i'n myfyrwyr ar draws ystod o wethgareddau, gan gynnwys y prif chwaraeon o bêl-droed a rygbi. Bydd brwdfrydedd i ddysgu dosbarthiadau arholiad yn ased hanfodol.

Mae canol Powys yn lle gwych i weithio, ac ar yr un pryd mae'n lle gwirioneddol wych i fyw ynddo, gyda chymunedau cyfeillgar ac agos ac amgylchedd eithriadol o hardd. Mae'n rhwydd sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yma, ac mae gennym gymaint i'w gynnig i'n trigolion. Mae gennym ystod eang o gyfleoedd i bob oed o ran chwaraeon, ac achlysuron diwylliannol a'r celfyddydau. Mae cyfleoedd golff, pysgota, cerdded, seiclo, beicio mynydd, theatrau, y sinema, Gwyl y Gelli a sioe Frenhinol Cymru oll ar stepen y drws ac mae yma amrywiaeth eang o glybiau a grwpiau sy'n apelio at wahanol oed a diddordebau.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â office@caloncymru.powys.sch.uk