MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Glan y Môr, Pwllheli,
  • Testun:
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £30,000.00 - £35,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Dyniaethau - Ysgol Glan y Mor

Athro/Athrawes Dyniaethau - Ysgol Glan y Mor

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

YSGOLION UWCHRADD

Ysgol Glan y Môr, Pwllheli

(Ysgol Gyfun 11 - 16: 507 o ddisgyblion)

Yn eisiau: 1af Medi 2024

ATHRO/ATHRAWES DYNIAETHAU

Mae'r ysgol yn awyddus i benodi person brwdfrydig i addysgu Dyniaethau, gydag arbenigedd benodol mewn Daearyddiaeth, a'r gallu i'w addysgu hyd at safon TGAU.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£30,742 - £47,340) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mr. Guto Wyn 01758 701244.

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Mr Robin Llywelyn Roberts, Rheolwr Busnes, Ysgol Glan Y Mor, Ffordd Caerdydd, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5NU (Rhif ffôn: 01758 701244) ; e-bost: sg@glanymor.ysgoliongwynedd.cymru. Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: 12:00 Y.P, DDYDD MAWRTH, 7 MAI, 2024.

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.

(The above is an advertisement for the post of a Humanities Teacher at Ysgol Glan Y Mor, Pwllheli for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi