MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Brynrefail, Llanrug,
  • Testun:
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Gofalwr/Gofalwraig - Ysgol Brynrefail

Gofalwr/Gofalwraig - Ysgol Brynrefail

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL BRYNREFAIL, LLANRUG

(Ysgol Gyfun 11 - 18 oed, 789 o ddisgyblion)

Yn eisiau: cyn gynted a phosib

GOFALWR / GOFALWRAIG

Oriau gwaith : 37 awr yr wythnos ac oriau goramser, gellir ystyried ceisiadau i weithio rhan amser.

Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio i batrwm gwaith yn ystod yr wythnos er mwyn gallu agor a chau'r adeilad.

Bydd hyn yn cynnwys agor yr adeilad am 7.30yb a chau'r adeilad am 7.00yh yn ddyddiol.

Mae Ysgol Brynrefail yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egniol sydd â phrofiad perthnasol a'r rhinweddau penodol ar gyfer y swydd o Ofalwr / Gofalwraig yr ysgol.

Graddfa Cyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS3, pwyntiau 5 -6 (sef £23,500-£23,893) y flwyddyn (heb gynnwys goramser), yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon.

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan y Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Brynrefail, Ffordd Crawia, Llanrug, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4AD. Rhif ffôn : 01286 672381; e-bost : sg@brynrefail.gwynedd.sch.uk

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

(This is an advertisement for the post of a Caretaker at Ysgol Brynrefail, Llanrug for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential).

DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD MAWRTH, 7FED O FAI, 2024.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment. The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate for the successful applicant before they can start at the school).

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

YSGOL BRYNREFAIL
SWYDD DDISGRIFIAD

TEITL Y SWYDD: GOFALWR YR YSGOL

YSTOD CYFLOG: Graddfa Gweithwyr Llywodraeth Leol - GS 3 (Pwyntiau 5-6). 37 awr yr wythnos (Sifft ranedig).

AMODAU GWAITH: Yn unol ag amodau gwaith Cenedlaethol ac atodol lleol Cyngor Gwynedd ar gyfer staff GPT ac Ch a gweithwyr llaw.

Dyddiau Gwaith: Llun i Gwener. 37 awr yr wythnos (heb gynnwys amser prydau)

Oriau Gwaith arferol:
Goramser: Pan fydd defnydd yn cael ei wneud o'r ysgol gyda'r nos a neu ar ben wythnos disgwylir i'r gofalwr fod yn bresennol er mwyn cadw golwg ar ddiogelwch yr adeilad a chloi ar ddiwedd y dydd.

Mae modd trefnu i aelodau eraill o staff gofal a glanhau'r ysgol i gau rhai nosweithiau.

Pan fydd goramser yn cael ei dalu i'r gofalwr disgwylir iddo ymgymryd â gwaith o gwmpas yr adeilad.

Gwyliau: Gwyliau i'w cymryd yn ystod gwyliau ysgol (20 diwrnod y flwyddyn, gan godi i uchafswm o 25 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth di-dor.)

Rhybudd Gadael: Yn ysgrifenedig mis ymlaen llaw.

YN ATEBOL I: Y Pennaeth drwy'r Rheolwr Busnes a Chyllid

Dyletswyddau:
Bydd pob aelod o staff a gyflogir yn yr ysgol yn gweithredu pob cais neu gyfarwyddyd rhesymol a roddir gan y Pennaeth a/neu ei gynrychiolydd. Dylai pob aelod o staff, heb eithriad, weithredu yn ôl polisïau'r ysgol.

Pwrpas y Swydd:
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Goruchwylio adeiladau'r Ysgol i sicrhau fod yr adeilad yn ddiogel.
• Bydd y Gofalwr yn gyfrifol am sicrhau rhediad effeithiol yr ysgol gan sicrhau bod ystafelloedd a gwasanaethau ar gael ac mewn trefn ar gyfer athrawon a phawb arall sydd â hawl i'w ddefnyddio.
• Ymgymryd yn arferol fel rhan o dîm gwaith glanhau rhannau penodedig ar safle'r ysgol i sicrhau eu bod yn cael eu cadw'n lân ac mewn cyflwr a fydd yn hybu iechyd.
• Monitro diogelwch a chyflwr yr adeiladau
• Rheoli gofynion Iechyd a Diogelwch
• Rheoli a gofal dros gontractwyr allanol sydd yn gweithio
• Cynnal a chadw
• Delio ag argyfyngau cyffredinol
• Bysiau mini yr ysgol
• Dal goriadau yr Ysgol
Tasgau Dyddiol:
• Datgloi'r holl gatiau a diffodd y system larwm. Datgloi pob drws mynediad a phob drws ystafell ddosbarth cyn agor y sefydliad yn y bore yn unol â chyfarwyddiadau'r Pennaeth.
• Yn ystod cyfnodau gwresogi fel yr enwir gan y Pennaeth, sicrhau bod y system wresogi'n gweithio ar y lefel iawn er mwyn sicrhau y cyrhaeddir y tymheredd angenrheidiol erbyn amser agor y sefydliad.
• Lle bydd peirianwaith amseru awtomatig yn rheoli'r system wresogi, sicrhau bod y system yn gweithio fel sydd angen cyn agor y sefydliad.
• Adrodd wrth y Pennaeth/Rheolwr Busnes a Chyllid am unrhyw ddiffygion a welwyd mewn gwresogyddion unigol neu yn y system wresogi gyffredinol.
• Glanhau a chlirio'r holl sbwriel sy'n gwneud i'r lle edrych yn flêr neu a allai fod yn beryglus, e.e. tuniau gwag, gwydr wedi malu neu boteli, o bob portsh a phob man caled o amgylch yr adeilad, cyn i'r gweithwyr gyrraedd yr adeilad.
• Gwagio'r biniau sbwriel sydd tu allan gan roi'r sbwriel mewn bagiau plastig a chael gwared ohono fel gyda sbwriel geir tu allan i'r adeilad. Gosod bagiau plastig newydd ym mhob bin, os darperir hwy. Gwagio bocsys glas ail gylchu i'r biniau ail gylchu sydd wedi eu darparu.
• Hysbysu'r Rheolwr Busnes a Chyllid o'r angen i archebu tyweli papur, rholiau papur toiled a sebon hylif i olchi dwylo trwy'r sefydliad fel bo'r angen, gofalu am ddosbarthu'r uchod.
• Rhoi gwybod i'r Rheolwr Busnes a Chyllid/Pennaeth am unrhyw ddifrod i eiddo'r ysgol e.e. diffygion mewn ffitiadau neu draeniau drewllyd a.y.b. na all y gofalwr delio a hwy.
• Ar adeg cau'r sefydliad, sicrhau bod yr holl oleuadau wedi eu diffodd ar gwresogyddion / systemau gwres canolog wedi ei gosod yn barod i weithio os bydd eu hangen, fel sy'n briodol ar gyfer yr amodau tywydd.
• Sicrhau nad oes defnyddiau hylosg yn rhy agos at wresogyddion a.y.b.
• Paratoi'r Neuadd ar gyfer Gwasanaeth Boreol, Cyngherddau, Drama neu unrhyw weithgaredd arall.
• Rhwystro tresmasu ar dir ac adeiladau'r ysgol.
• Agor a chloi ar gyfer gweithgareddau gyda'r nos ar ddealltwriaeth o'r ddwy ochr, gan gau a chloi'r prif giatiau fel sy'n briodol ar ddiwedd y dydd.
Tasgau Wythnosol/Misol:
• Cadw trapiau draeniau a chwteri mewn cyflwr glân a glanhau trapiau saim bob wythnos.
• Monitro'r defnydd o drydan, nwy a dŵr yn unol â'r drefn a fabwysiedir gan y Cyngor. Mae'r drefn bresennol yn golygu cofnodi darlleniad pob mesurydd perthnasol bob mis a chyfrifo faint a ddefnyddir bob mis ar gardiau cofnodi arbennig.
• Cadw adeiladau bwyleri mewn cyflwr glân a thaclus a sicrhau nad oes defnyddiau hylosg ynddynt.
• Cadw pob man chwarae gydag wyneb caled, mannau parcio, llwybrau a lonydd, storfeydd nwy petrolewm ayb yn rhydd o chwyn cerrig rhydd a glanhau'r holl sbwriel e.e. gwydr, tuniau a photeli, papur neu sbwriel arall, dail, toriadau glaswellt a.y.b. a'u cadw mewn cyflwr taclus.
• Clirio eira fel sy'n briodol a thaenu halen craig er mwyn cadw mannau mynediad yn ddiogel yn ystod eira neu rew. Darperir halen craig gan yr Ysgol.
• Arolygu cyflwr y dodrefn a'r adeilad a rhoi adroddiad i'r Rheolwr Busnes a Chyllid/Pennaeth.
• Ail osod teilsiau nenfwd a man atgyweirio plastr.
• Paratoi a phaentio plastr mewnol gwaith coed a dodrefn.
• Atgyweirio gorchuddion lloriau a grisiau gan gynnwys sgerting, blaen grisiau, carped, leino a thermoplastig.
• Gosod ac atgyweirio mân offer, dodrefn a bordio ffenestri a dorrwyd, pob safle.
• Gosod bylbiau golau ffitiadau fflwroleuol newydd pob safle.
• Ail osod wasieri, plygiau a mân waith plymio, pob safle.
• Cyd-weithio â gwaith wythnosol o brofi offer tân, tapiau, cawodydd a "sprinklers" dŵr os yn berthnasol.
• Gofalu fod yr offer atal tân yn y mannau priodol a hysbysu'r Rheolwr Busnes a Chyllid os oes rhai yn wag.
• Ateb galwadau larwm diogelwch yr Ysgol.
• Rhoi gwybod i'r Rheolwr Busnes a Chyllid/Pennaeth neu'r Adran Eiddo pan fydd peipiau wedi rhewi a throi'r dŵr i ffwrdd.
• Glanhau ffaniau extractors.
• Glanhau y tu allan i ffenestri.
• Cynnal gwaith coed allanol a gerddi - arwyddion a giatiau pob safle os oes angen.
• Cynnal ac atgyweirio mân ddifrod i ffensys.
• Symud dodrefn o ystafell i ystafell.
• Gosod clociau'r Ysgol.
• Cyfeirio gwaith y contractwyr.
• Cadw golwg ar waith contractwyr yn yr Ysgol gan roi gwybod i'r Rheolwr Busnes a Chyllid/Pennaeth os oes diffygion yn codi.
• Cadw rhestr stoc o beiriannau/ ofer cynnal a chadw.
• Dilyn y drefn gydnabyddedig mewn perthynas â llifogydd, torri i mewn, damweiniau neu ddifrod.
• Mae disgwyl i'r Gofalwr wybod am leoliad offer a defnydd cymorth cyntaf, tapiau a falfiau drwm nwy a thrydan pwysig.
Bysiau Mini yr Ysgol
• Cludo disgyblion yr ysgol i wersi allanol oddi ar safle'r ysgol.
• Monitro cyflwr y bysiau mini a threfnu gwaith cynnal yn ôl y gofyn.
• Sicrhau bod disel yn y bysiau mini.
• Sicrhau bod tystysgrifau treth a MOT cyfredol gan yr ysgol.
• Glanhau'r fan/bws mini.
• Mynd ar gwrs PSV i gael trwydded yrru ar gyfer y bws i gludo plant, os oes angen.
Cyffredinol
• Cadw golwg ar ymddygiad plant a rhoi gwybod i'r Pennaeth/Dirprwy Bennaeth os oes unrhyw broblem.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Cydymffurfio â Pholisi Iechyd a Diogelwch yr ysgol ac asesiadau risg yn ôl y gofyn.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi