MANYLION
  • Lleoliad: Caernarfon,
  • Testun:
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £30,000.00 - £35,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cydlynydd Siarter Iaith Gymraeg Ysgolion Cynradd Gwynedd ac Ynys Mon - Pencadlys, Caernarfon

Cydlynydd Siarter Iaith Gymraeg Ysgolion Cynradd Gwynedd ac Ynys Mon - Pencadlys, Caernarfon

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd

Yn eisiau: Medi 1af 2024

CYDLYNYDD SIARTER IAITH GYMRAEG YSGOLION CYNRADD GWYNEDD AC YNYS MÔN (DROS DRO)

Secondiad dros dro hyd at 31/08/2025 yn y lle cyntaf.

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion profiadol a brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol ac yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£30,742- £47,340 y flwyddyn) i'r ymgeisydd addas yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd yma. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â Mr Rhys Meredydd Glyn (Rhif ffôn 07436055587).

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd.

DYDDIAD CAU: 10:00Y.B, DYDD IAU, 9fed o Fai, 2024.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

(The above is an advertisement for the post of a Welsh Language Charter Co-ordinator for Gwynedd and Ynys Mon Primary Schools for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential).

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

The Council will require a Disclosure and Barring Service certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school.

Manylion Person

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL

Brwdfrydig ac ymroddgar ac yn gallu gweithio'n dda fel aelod o dîm

Ymrwymedig i welliant parhaus.

Ymgorffori gweledigaeth Polisi Iaith Gwynedd.

Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.

DYMUNOL

Profiad ac ymwybyddiaeth dda o Fframwaith y Siarter Iaith

Profiad ac ymwybyddiaeth o weithredu gofynion y Siater a gwaith clwstwr.

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL

HANFODOL

Gradd Anrhydedd.
Statws athro/athrawes wedi cymhwyso.

DYMUNOL

Gradd Uwch neu gymhwyster cyfwerth.
Tystiolaeth o ddatblygiadau proffesiynol parhaus perthnasol.

PROFIAD PERTHNASOL

HANFODOL

Profiad o ddatblygu strategaethau ysgol gyfan mewn meysydd allweddol megis addysgu a dysgu a neu lles a chynhwysiad.
Profiad o sefydlu ac adeiladu partneriaethau gyda rhieni, y gymuned a gyda phartneriaid eraill.

DYMUNOL

Tystiolaeth o brofiad cyson a pherthnasol o arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol.

Tystiolaeth o weithio'n effeithiol gyda rhanddeiliaid Ysgol

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
  • Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau cyfoes mewn addysg yn lleol ac yn genedlaethol.
  • Meddu ar ddealltwriaeth eglur o egwyddorion dysgu o ansawdd, addysgu ac asesu yn y sector cynradd.
  • Meddu ar ddealltwriaeth gadarn o brosesau gwella'r ysgol.
  • Meddu ar wybodaeth gadarn o strategaethau gweithredu sy'n sicrhau safonau uchel o ymddygiad a phresenoldeb.
  • Gallu paratoi strategaethau ar gyfer sicrhau cynhwysiad cymdeithasol, amrywiaeth a mynediad.
  • Meddu ar wybodaeth dda o rôl y corf llywodraethol ac yn gallu gweithredu strategaethau gwelliant parhaus ac atebolrwydd.
  • Meddu ar wybodaeth dda o'r cwricwlwm ehangach tu hwnt i'r ysgol a'r cyfleoedd ar gyfer disgyblion a chymuned yr ysgol.
  • Dangos brwdfrydedd personol at y defnydd o'r Iaith Gymraeg yn yr ysgol.
  • Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau diweddaraf addysg yn genedlaethol.

ANGHENION IEITHYDDOL

Gwrando a Siarad - Lefel Uwch

Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.

Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Darllen a Deall - Lefel Uwch

Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.

Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.

Ysgrifennu - Lefel Uwch

Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnoleg ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosibl cael cymorth i wirio'r iaith).

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd.

Sichrhau bod pobl Gwynedd ac Ynys Môn yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.

Cyfrifoldeb am arwain, hyrwyddo a chefnogi gwaith holl ysgolion cynradd Gwynedd ac Ynys Môn i weithredu y Siarter Iaith, gan feithrin arbenigedd, cynyddu dealltwriaeth o hanfodion cynllunio iaith, ynghyd â sefydlu dulliau monitro, casglu data, mesur effaith ac achredu gweithrediad y Siarter Iaith.

Arwain a chydweithio gydag ysgolion cynradd Gwynedd ac Ynys Môn er mwyn codi safonau cyrhaeddiad disgyblion mewn perthynas â'r Gymraeg.

Darparu hyfforddiant addas i wahanol haenau o'r gweithlu.

Prif Ddyletswyddau..
  • Cyrannu at y gwaith o sicrhau bod yr Awdurdodau yn ymateb i ofynion ac egwyddorion:
    • Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg
    • Strategaeth Llywodraeth Cymru: miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050
    • Cynlluniau Strategol y Gymraeg Mewn Addysg
    • Strategaeth Iaith a Chynllun Strategol yr Awdurdodau
  • Cyfrifoldeb am ddatblygu, arwain a hyrwyddo polisi yr Awdurdodau yng nghyd-destun Siarter Iaith Gymraeg Ysgolion Cynradd Gwynedd ac Ynys Môn.
  • Cyfrifoldeb am osod safonau gwaith a sefydlu gweithdrefnau gyda holl weithlu'r ysgolion cynradd fydd yn arwain at ddatblygu gallu a hyder disgyblion i fod yn hyfedr ddwyieithog.
  • Cyfrifoldeb am arwain a chydlynu cyfarfodydd o'r 'Gweithgor Dylanwadu ar Ddefnydd Cymdeithasol Plant o'r Gymraeg' Cyngor Gwynedd, a chymryd rôl weithredol fel aelod ohono.
  • Gweithredu fel aelod o 'Fforwm Iaith Addysg' Ynys Môn gan adrodd i'r 'Fforwm Iaith Sirol' yn ôl y gofyn.
  • Cyfrifoldeb am weithredu, hyrwyddo a chefnogi gwaith yr ysgolion mewn perthynas â chyflawni gofynion y Siarter Iaith gan ddehongli hynny yng nghyd-destun defnydd cymdeithasol plant o'r Gymraeg a chodi safonau cyflawniad addysgol.
  • Cynllunio, darparu a chomisiynu hyfforddiant addas i wahanol haenau o'r gweithlu wrth ymateb i ofynion y Siarter Iaith.
  • Cyfrifoldeb am ddatblygu a meithrin sgiliau ac arbenigedd cynllunio iaith ac ymwybyddiaeth iaith ymysg y gweithlu.
  • Meithrin cysylltiadau rhwng ysgolion a dalgylchoedd fydd yn hyrwyddo cydweithio effeithiol a strategol, gan gynnwys sefydlu Cymunedau Dysgu Proffesiynol i hyrwyddo a chefnogi gwaith ymarferwyr.
  • Arwain a darparu gwybodaeth arbenigol am hanfodion cynllunio iaith; ymchwil a thystiolaeth yn y maes; a chynnig cefnogaeth ymarferol i ysgolion ynglŷn â dulliau o fesur effaith defnydd iaith.
  • Darparu cyngor a chefnogaeth i ysgolion er mwyn eu galluogi i lunio portffolio o dystiolaeth ddigonol ac eglur a fydd yn ategu nod y Siarter Iaith.
  • Sefydlu a rheoli'r broses o fonitro ac achredu gwaith yr ysgolion
  • Cyfrifoldeb am sefydlu llyfrgell wybodaeth o ddata a thystiolaeth am ddylanwad ac effaith gweithredu'r Siarter Iaith ar ddefnydd cymdeithasol plant o'r Gymraeg

Amgylchiadau Arbennig.

Bydd disgwyl gweithio oriau hyblyg ar adegau

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi