MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Bro Idris, Dolgellau,
  • Testun:
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £60,000.00 - £65,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Pennaeth Cynorthwyol Ffes 2 - Ysgol Bro Idris

Pennaeth Cynorthwyol Ffes 2 - Ysgol Bro Idris

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION CYNRADD/UWCHRADD

YSGOL BRO IDRIS, DOLGELLAU

(Cyfun 3 - 16: 571 o ddisgyblion)

Dyddiad dechrau: Mis Medi 2024

Pennaeth Cynorthwyol Ffes 2 - Blwyddyn 5 - 8

Mae'r Llywodraethwyr yn dymuno penodi Pennaeth Cynorthwyol Ffes 2 Blwyddyn 5 - 8 i Ysgol Bro Idris, Dolgellau. Mi fydd yr ysgol yn anelu at gyflwyno addysg o'r ansawdd gorau ac i ragori ymhob agwedd o'i gweithgareddau. Hyrwyddir rhaglen addysg ddwyieithog ac mae ethos a gweinyddiad yr ysgol yn adlewyrchu hynny.

Disgwylir i'r ymgeisydd ar gyfer y swydd hon fod:
  • yn meddu ar ddealltwriaeth drylwyr o holl ofynion y cwricwlwm Cynradd a/neu Uwchradd ac yn barod i arloesi yn y maes addysgu a dysgu 3 - 16 oed.
  • yn gwbl ymrwymedig i addysg ddwyieithog gyflawn.

Ystyrir ceisiadau hefyd gan:
  • ymgeiswyr sy'n athrawon Cynradd a/neu Uwchradd da ond heb arbenigedd lefel uchel yn y maes.
  • Darperir hyfforddiant.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog pwyntiau L9 - L13 ar y Raddfa Arweinyddiaeth £58,488 - £64,540 yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth Strategol, Mrs Jano Owen rhif ffôn 01341 424949, e-bost:- pennaeth@broidris.ysgoliongwynedd.cymru

PWYSIG:- Pecyn cais i'w gael ar wefan Cyngor Gwynedd a gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w gael gan Miss Eirian R Hoyle, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Bro Idris, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1HY (Rhif ffôn: 01341 424949) os y dymunir gelir dychwelyd y cais drwy'r post neu gallwch ebostio'r cais i e-bost y Rheolwr Busnes:- sg@broidris.ysgoliongwynedd.cymru . dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU HANNER DYDD, DYDD IAU 2il MAI 2024.

RHAGWELIR CYNNAL CYFWELIADAU DYDD IAU 9fed MAI 2024

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.

Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person

Ebrill 2024

Annwyl Ymgeisydd

Swyddi: Pennaeth Cynorthwyol Ffes 2 (Blwyddyn 5 i Blwyddyn 8)

Ysgol: BRO IDRIS, DOLGELLAU

Diolch i chi am eich ymholiad am y swydd uchod. Amgaeaf ffurflen gais a manylion pellach.

Yr amser cau ar gyfer ceisiadau am y swydd yw hanner dydd ar y 2il o Fai 2024.

Fe all aelod o'r Panel Penodi fod angen gwybodaeth am ymgeiswyr yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac felly gwahoddir i chwi i gyflwyno eich cais yn y ddwy iaith. A fyddwch cystal â sicrhau bod eich rhif ffôn symudol a/neu gyfeiriad e-bost wedi ei gynnwys ar y ffurflen gais.

Os ydych chi'n dymuno cyflwyno cwricwlwm vitae yn ogystal fel rhan o'ch cais fe ganiateir hyn, ond gofynnir i chwi hefyd gwblhau'r ffurflen gais safonol yn llawn.

Os ydych yn dymuno cael manylion pellach am y swydd cysylltwch â'r Pennaeth Strategol Mrs Jano Owen (01341) 424949 ( Pennaeth@broidris.ysgoliongwynedd.cymru ) . Eich cyswllt yn yr Ysgol yw Miss Eirian R Hoyle ar (01341) 424949. ( sg@broidris.ysgoliongwynedd.cymru )

Nid ydym yn cydnabod derbyn ffurflenni cais. Fodd bynnag, os ydych yn dymuno cael cadarnhad fod eich cais wedi ei dderbyn, yna ffoniwch Eirian Hoyle yn yr Ysgol ar (01341) 424949.

PWYSIG - Nodwch, os gwelwch yn dda, enw a chyfeiriad dau ganolwr. I ymgeisydd sydd eisoes mewn gwaith mae'n rhaid i o leiaf un ohonynt fod yn eich cyflogi ar hyn o bryd.

PWYSIG:- Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w gael gan Miss Eirian R Hoyle, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Bro Idris, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1HY (Rhif ffôn: 01341 424949) os y dymunir dychwelyd y cais drwy'r post neu gallwch ebostio'r cais i e-bost y Rheolwr Busnes:- sg@broidris.ysgoliongwynedd.cymru

dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallant gychwyn yn yr ysgol

Oherwydd bod tâl post yn ddibynnol ar faint a phwysau amlenni, dylech sicrhau bod y tâl post cywir ar yr amlen wrth ddychwelyd eich ffurflen gais. Mae yna bosibilrwydd na fydd eich cais yn cyrraedd cyn y dyddiad cau os na fyddwch yn cydymffurfio gyda'r uchod

Yn gywir

Jano Owen

Mrs Jano Owen

Pennaeth Strategol

Manylion Person

MANYLION PERSON

TEITL Y SWYDD
PENNAETH CYNORTHWYOL FFÊS 2 YSGOL BRO IDRIS

ADRAN
ADDYSG

LLEOLIAD
SAFLEOEDD - BRIF SAFLE, DINAS MAWDDWY,
RHYD-Y-MAIN, DOLGELLAU, LLANELLTYD A FRIOG

Pwrpas craidd Pennaeth Cynorthwyol Ffês yr ysgol hon yw rhoi cymorth i ddarparu arweinyddiaeth a rheolaeth broffesiynol a chymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau i gefnogi datblygiad Ysgol Bro Idris 3 - 16 fel Cymuned Ddysgu lwyddiannus.

Disgwylir i'r Pennaeth Cynorthwyol Ffes feddu ar weledigaeth i ddarparu cwricwlwm arloesol ar gyfer ysgol ddilynol ragorol.

Disgwylir i'r Pennaeth Cynorthwyol Ffes ymdrechu i gyfrannu gyda'r Pennaeth Strategol i sicrhau gwelliant parhaus a llwyddiant i'r ysgol yn sgil cyfleoedd dysgu ac addysgu o safon uchel i'r holl ddisgyblion a safonau cyrhaeddiad uchel ym mhob agwedd o waith yr ysgol.

Disgwylir i'r Pennaeth Cynorthwyol Ffes fod yn gyd-gyfrifol am greu amgylchedd dysgu cyffrous, ysgogol a chynhyrchiol ar gyfer y disgyblion a'r staff .

Disgwylir i'r Pennaeth Cynorthwyol Ffes gyfrannu gyda'r Pennaeth Strategol i sicrhau fod yr Ysgol yn gwarchod gwerthoedd yr iaith Gymraeg ac yn dilyn Polisi Iaith yr Awdurdod.

Disgwylir i'r Pennaeth Cynorthwyol Ffes ddirprwyo yn ystod absenoldeb y Pennaeth Strategol.

CYMWYSTERAU /HYFFORDDIANT GALWEDIGAETHOL/CYMWYSEDDAU Dull Asesu

HANFODOL
Gradd Anrhydedd
Statws athro wedi cymhwyso
Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
DYMUNOL
CPCP neu brofiad diweddar/cyfredol perthnasol o fod yn Ddirprwy neu aelod o Dîm Rheoli Ysgol
Gradd Uwch neu gymhwyster cyfwerth

GWYBODAETH A SGILIAU

HANFODOL
Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau cyfoes mewn addysg yn lleol ac yn genedlaethol
Meddu ar ddealltwriaeth eglur o egwyddorion dysgu o ansawdd, addysgu ac asesu yn y sectorau cynradd neu uwchradd
Meddu ar y gallu i ddadansoddi Data er mwyn cynllunio i wella safonau ysgol
Meddu ar ddealltwriaeth gadarn o brosesau hunan arfarnu a dealltwriaeth gyflawn o bwrpas Cynllun Busnes yr Ysgol
Meddu ar wybodaeth gadarn o strategaethau gweithredu sy'n sicrhau safonau uchel o ymddygiad a phresenoldeb
Meddu ar wybodaeth gadarn o strategaethau ar gyfer sicrhau cynhwysiad cymdeithasol, amrywiaeth a mynediad
Meddu ar wybodaeth dda o rôl y corf llywodraethol ac yn gallu gweithredu strategaethau gwelliant
Meddu ar wybodaeth dda o'r cwricwlwm ehangach tu hwnt i'r ysgol a'r cyfleoedd ar gyfer disgyblion a chymuned yr ysgol
Dangos brwdfrydedd personol at y defnydd o'r Iaith Gymraeg/Cwricwlwm Cymreig yn yr ysgol

DYMUNOL
Meddu ar ddealltwriaeth eglur o egwyddorion dysgu o ansawdd, addysgu ac asesu yn y sectorau cynradd ac uwchradd
Deall gofynion cynllunio ariannol strategol, rheolaeth gyllidebol ac egwyddorion gwerth gorau

PROFIAD

HANFODOL
Tystiolaeth o brofiad perthnasol o arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol
Profiad o ddatblygu strategaethau addysgu a dysgu effeithiol
Profiad o sefydlu ac adeiladu partneriaethau gyda rhieni, y gymuned a gyda phartneriaid eraill
DYMUNOL
Tystiolaeth o weithio'n effeithiol gyda llywodraethwyr

NODWEDDION A GWERTHOEDD PERSONOL

HANFODOL
Dangos brwdfrydedd ac ymroddiad tuag at y broses ddysgu
Hawdd mynd ato/ati a gallu ysbrydoli, ysgogi a gosod her i eraill
Parod i gydweithio ag asiantaethau eraill er lles disgyblion, teuluoedd a'r gymuned gan arddangos sgiliau rhyngbersonol o'r radd flaenaf
Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol, gwneud penderfyniadau a chyflwyno gweledigaeth glir
Y gallu i berthnasu yn dda gyda phlant a gwarchod eu hawliau unigol
Y gallu i weithio dan bwysau a chyfarfod â therfynau amser
Yn rhugl o ran safon sgiliau ar lafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a'r Saesneg

DYMUNOL

GOFYNION ANGENRHEIDIOL AR GYFER Y SWYDD

Swydd Ddisgrifiad

YSGOL BRO IDRIS

SWYDD DDISGRIFIAD PENNAETH CYNORTHWYOL FFÊS YR YSGOL
Pennaeth Cynorthwyol Ffês 2 -Blwyddyn 5-Blwyddyn 8

Graddfa Cyflog:
(Graddfa Genedlaethol Arweinyddol - L9 - L13 (£58,488 - £64,540)

Pwrpas craidd swydd Pennaeth Cynorthwyol Ffês yr ysgol hon yw rhoi cymorth i ddarparu arweinyddiaeth a rheolaeth broffesiynol a chymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau i gefnogi datblygiad Ysgol Bro Idris 3 - 16 fel Cymuned Ddysgu lwyddiannus.

Disgwylir i'r Pennaeth Cynorthwyol Ffês feddu ar weledigaeth i ddarparu cwricwlwm arloesol ar gyfer ysgol ddilynol ragorol.

Disgwylir i'r Pennaeth Cynorthwyol Ffês ymdrechu i gyfrannu gyda'r Pennaeth Strategol a'r Dirprwy i sicrhau gwelliant parhaus a llwyddiant i'r ysgol yn sgil cyfleoedd dysgu ac addysgu o safon uchel i'r holl ddisgyblion a safonau cyrhaeddiad uchel ym mhob agwedd o waith yr ysgol.

Disgwylir i'r Pennaeth Cynorthwyol Ffês fod yn gyd-gyfrifol am greu amgylchedd dysgu cyffrous, ysgogol a chynhyrchiol ar gyfer y disgyblion a'r staff .

Disgwylir i'r Pennaeth Cynorthwyol Ffês gyfrannu gyda'r Pennaeth Strategol a'r Dirprwy i sicrhau fod yr ysgol yn gwarchod gwerthoedd yr iaith Gymraeg ac yn dilyn Polisi Iaith yr Awdurdod.

Disgwylir i'r Pennaeth Cynorthwyol Ffês ddirprwyo yn ystod absenoldeb y Pennaeth Strategol a/neu y Dirprwy yn ôl y gofyn.

Disgwylir i'r Pennaeth Cynorthwyol Ffês fod yn Aelod o'r Tîm Arweinyddol Strategol ac yn gweithredu portffolio o gyfrifoldebau strategol.

Disgwylir i'r Pennaeth Cynorthwyol Ffês addysgu disgyblion hanner amserlen wythnosol.

1. Dyletswyddau'r Swydd:

Mae gofynion y swydd hon i'w gyflawni yn unol â darpariaethau Dogfen Cyflogau ac Amodau Athrawon ysgol ac o fewn amrediad dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y ddogfen honno.

Mae'r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.

Mae'r dyletswyddau hyn i'w cyflawni yn ôl cyfarwyddyd rhesymol y Pennaeth Strategol a'r Dirprwy Bennaeth o bryd i'w gilydd fel y bo'n briodol.

Gweler yr Atodiad : Safonau Athrawon wrth eu Gwaith sydd wedi eu haddasu gan yr ysgol.

2. Prif Ofynion

2.1 Rhaid i ddyletswyddau proffesiynol Pennaeth Cynorthwyol Ffês yr ysgol hon gael eu cyflawni yn unol â'r darpariaethau'r Deddfau Addysg, Gorchmynion a Rheoliadau sy'n weithredol dan y Deddfau Addysg, offeryn llywodraethu'r ysgol, unrhyw ddogfen ymddiriedolaeth sy'n berthnasol i'r ysgol ac unrhyw gynllun sy'n cael ei baratoi neu ei gynnal gan Yr Awdurdod Lleol dan Adran 48 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(87).

2.2 Rhaid cyflawni'r dyletswyddau yn unol ag unrhyw reolau, rheoliadau neu bolisïau a wnaethpwyd gan gorff llywodraethu'r ysgol ac y mae'r corff hwnnw yn gyfrifol amdanynt; ac yn yr un modd unrhyw reolau, rheoliadau neu bolisïau a wnaethpwyd gan Yr Awdurdod Lleol o ran materion nad yw'r corff llywodraethu yn gyfrifol amdanynt.

2.3 Mae'r Pennaeth Cynorthwyol Ffês yn atebol i'r Corff Llywodraethol a Phennaeth Strategol yr Ysgol a Phennaeth Addysg Statudol Gwynedd.

2.4 Pe byddai angen, disgwylir i ddeilydd y swydd fod ar gael i weithio ar unrhyw safle yn ôl y gofyn.

3. Cyfrifoldebau Proffesiynol

Mae disgwyl i'r Penaneth Cynorthwyol Ffês gyflawni'r dyletswyddau proffesiynol fel a ganlyn:

3.1 Dangos arweiniad cadarn er mwyn creu'r amgylchedd sy'n galluogi athrawon fodloni'r 'Safonau Athrawon wrth eu Gwaith' - sydd wedi eu haddasu gan yr ysgol gweler yr Atodiad.

3.2 Cynorthwyo gyda threfniadaeth, a datblygiad ysgol gyfan trwy helpu i ddarparu arweinyddiaeth strategol gyffredinol a, gydag eraill, arwain, datblygu a chefnogi cyfeiriad strategol, gweledigaeth, gwerthoedd a blaenoriaethau'r ysgol. Mae angen datblygu, gweithredu a gwerthuso polisïau, arferion a gweithdrefnau'r ysgol yn rheolaidd yn unol â'r gofynion hyn;

3.3 Cyfrannu i waith y Pennaeth Strategol mewn arwain a rheoli'r addysgu a'r dysgu ar oddi fewn y ffês.

3.4 Bydd portffolio rheoli'r ffês yn adlewyrchiad o oed a chyrhaeddiad y disgyblion ag addysgir ynddi. Yn ychwanegol bydd yn cynnwys portffolio traws ysgol e.e. Cydlynydd Asesu a Thracio, Cydlynydd AgD ac Ymateb i Waith, Cydlynydd Rhifedd Trawsgwricwlaidd, Cydlynydd Llythrennedd Trawsgwricwlaidd, Cydlynydd Cymhwysedd Digidol, Cydlynydd BAC, Cydlynydd MATH ayyb

3.5 Cyfrannu at arwain, rheoli a datblygu'r gweithlu gan sicrhau ymglymiad i strategaethau arfarnu, rheoli perfformiad ac unrhyw ofynion datblygiad proffesiynol staff gydag ystyriaeth lawn o'r disgwyliad ynghylch cydbwysedd iach rhwng gwaith ac ymrwymiadau eraill pob aelod o staff;

3.6 Cyd-drefnu a lleoli adnoddau yn yr ysgol, gan gynnwys staff, mewn modd sy'n addysgiadol effeithiol, yn hyrwyddo nodau a gwerthoedd yr ysgol ac yn cael eu targedu at wella safonau addysgol pob disgybl.

3.7 Cyfathrebu'n effeithiol gyda'r corff llywodraethu, staff, disgyblion, rhieni a gofalwyr gan sicrhau atebolrwydd llawn

3.8 Cydweithio gyda staff yr ysgol a gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill yn yr ysgol a thu hwnt i'r ysgol, gan gynnwys cyrff ac asiantaethau allanol perthnasol

3.9 Mewn cydweithrediad gyda'r Pennaeth gweithredu fel rheolwr llinell ar y Penaethiaid Safonau, (union feysydd i'w trafod).

3.10 Arwain a chefnogi gweithgareddau allgyrsiol yn yr ysgol a'r tu allan iddi, gan gynnwys cysylltu â'r gymuned.

3.11 Bod yn gyfrifol am ganfod athrawon llanw tymor hir a rhoi arweiniad proffesiynol iddynt, ar gyfer y ffês.

3.12 Rheoli a threfnu awyrgylch ysgol yn effeithiol ar yn effeithlon er mwyn ymateb i anghenion y cwricwlwm.

3.13 Trefnu cyfarfodydd gyda rhieni er mwyn trafod lles, tangyflawni neu faterion cwricwlaidd.

Mae gan y Pennaeth Cynorthwyol Ffês hawl i egwyl resymol yn ystod pob diwrnod ysgol.

Gellir newid y swydd ddisgrifiad a'r cyfrifoldebau penodol trwy gytundeb.

ATODIAD I SWYDD DDISGRIFIAD: PENNAETH CYNORTHWYOL FFÊS YSGOL BRO IDRIS

Safonau Athrawon wrth eu Gwaith sydd wedi eu haddasu gan yr Ysgol

Nodweddion a gwerthoedd proffesiynol
• Gwerthfawrogi'r amrywiol anghenion sydd gan blant a phobl ifanc.
• Rhoi gwerth ar berthynas deg, barchus, llawn ymddiriedaeth, gefnogol ac adeiladol â phlant a phobl ifanc.
• Meddu ar ddisgwyliadau uchel o blant a phobl ifanc er mwyn gwella'r deilliannau ar gyfer pob dysgwr a gwella eu lles.
• Gwerthfawrogi pa mor bwysig yw meithrin cysylltiadau cadarnhaol rhwng y cartref a'r ysgol.
• Gwerthfawrogi'r rhan weithredol y mae plant a phobl ifanc yn ei chymryd yn eu cynnydd, eu datblygiad a'u lles eu hunain.
• Gwerthfawrogi'r rhan weithredol y mae rhieni a gofalwyr yn ei chymryd yng nghynnydd, datblygiad a lles plant a phobl ifanc.
• Gwerthfawrogi'r cyfraniad y mae plant a phobl ifanc yn ei wneud yn eu cymunedau, a'i ddathlu.
• Gwerthfawrogi'r cyfraniad y mae staff cymorth a gweithwyr proffesiynol eraill yn ei wneud i ddysgu, datblygiad a lles plant a phobl ifanc.
• Cymryd rhan weithredol mewn rhwydweithiau proffesiynol a chymunedau dysgu sy'n rhannu rhagdybiaethau a dealltwriaeth gyda chydweithwyr, ac yn eu treialu, a chyfrannu at ddatblygiad ehangach yr ysgol a'r proffesiwn.
• Gwerthfawrogi pa mor bwysig yw sicrhau bod ymarfer yn gwella drwy bwyso a mesur a chymryd cyfrifoldeb dros eu datblygiad proffesiynol parhaus.
• Meddu ar ddisgwyliadau uchel o ran datblygu'r iaith Gymraeg yn unol â natur ddwyieithog Cymru.

Gwybodaeth a dealltwriaeth proffesiynol
• Meddu ar yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth ddiweddaraf am ddyletswyddau a chyfrifoldebau proffesiynol athrawon a'r fframwaith statudol y maen nhw'n gweithio ynddo.
• Deall y cyd-destun polisi addysg genedlaethol yng Nghymru a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg, gan gynnwys deall egwyddorion y Cwricwlwm Cymreig a Chwricwlwm am Oes sut y dylid ei ddefnyddio fel sail i'w hymarfer.
• Defnyddio dealltwriaeth o ddisgwyliadau, trefniadaeth ac addysgeg y cyfnodau allweddol neu'r cyfnodau cyn a/neu ar ôl y rhai y maen nhw'n eu dysgu fel sail i'w hymarfer a'u cynllunio.
• Deall y ffactorau allweddol sy'n effeithio ar ddysgu a lles plant a phobl ifanc.
• Dealltwriaeth o'r disgwyliadau yn y cwricwlwm mewn perthynas â darpariaeth cyfrwng Cymraeg a/neu Gymraeg ail Iaith.
• Parhau i gaffael yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth ddiweddaraf mewn perthynas â'u pynciau/meysydd cwricwlwm a'r addysgeg berthnasol i'w defnyddio fel sail i'w hymarfer.
• Deall eu rôl i wella sgiliau llythrennedd a rhifedd a Chymhwysedd Digidol yn draws gwricwlaidd.
• Parhau i gaffael gwybodaeth a dysgu ym maes TGCh a Chymhwysedd Digidol i gefnogi'r addysgu a'r dysgu, ac yn eu rôl broffesiynol ehangach.
• Deall Cod Ymarfer AAA Cymru a'i gymhwyso i fodloni amrywiol anghenion dysgwyr.
• Deall pryd y mae'n briodol i ofyn am wybodaeth, cyngor a chefnogaeth o ffynonellau mewnol ac allanol, gan gynnwys gweithdrefnau diogelu plant, a sut mae gwneud hynny.
• Bod yn ymwybodol o strategaethau amrywiol a gwybod sut i'w defnyddio i annog ymddygiad da a chreu amgylchedd dysgu pwrpasol.
• Deall sut y gellid defnyddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a'r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc fel sail i'w hymarfer ac i wella deilliannau dysgwyr.

Sgiliau Proffesiynol
Cynllunio a gosod targedau
• Gosod amcanion addysgu a dysgu heriol sy'n cael eu harwain gan ddisgwyliadau deallus am ddysgwyr unigol yn seiliedig ar wybodaeth am safonau disgwyliedig y grŵp oedran perthnasol ac ystod a chynnwys y gwaith sy'n briodol i ddysgwyr yn y grŵp oedran hwnnw.
• Defnyddio'r amcanion addysgu a dysgu hyn i gynllunio gwersi, a chyfresi o wersi, sy'n dangos yn glir sut y bydd gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth y dysgwyr yn cael eu hasesu.
• Personoli'r dysgu er mwyn rhoi sylw i anghenion unigol gan gynnwys ceisio barn y dysgwyr am beth fyddai o gymorth iddynt gyflawni eu potensial.
• Pennu adnoddau i gefnogi'r dysgu a fydd yn ysgogi ac yn symbylu pob dysgwr i gyflawni'r deilliannau a ddymunir.
• Gweithio'n effeithiol fel aelod o dîm a chydweithio â chydweithwyr i gynllunio gwaith a phennu targedau.
• Cydweithio â chydweithwyr yn draws sirol a chenedlaethol.
• Cynllunio er mwyn i'r staff cymorth gymryd rhan briodol yn y gwaith o gefnogi'r dysgu a sicrhau eu bod yn deall y rolau mae disgwyl iddynt eu cyflawni.
• Cynllunio cyfleoedd priodol i blant a phobl ifanc ddysgu mewn lleoliadau y tu allan i'r ystafell ddosbarth.
• Trefnu, rheoli a blaenoriaethu amser yn effeithiol o fewn eu rôl broffesiynol ehangach.
• Sefydlu a chynnal dulliau cyfathrebu effeithiol â phlant, pobl ifanc a'u rhieni/gofalwyr.
Monitro ac asesu
• Defnyddio amrywiaeth o strategaethau monitro ac asesu, gan gynnwys asesiadau ffurfiannol a chyfunol, i werthuso cynnydd y dysgwyr tuag at gyflawni eu hamcanion dysgu, a defnyddio'r wybodaeth hon i wella eu gwaith cynllunio ac addysgu eu hunain.
• Bodloni'r gofynion a'r trefniadau asesu ar gyfer y pynciau/meysydd cwricwlwm a chyfnodau y maen nhw'n eu dysgu, gan gynnwys y rheini sy'n gysylltiedig ag arholiadau a chymwysterau cyhoeddus.
• Defnyddio technegau monitro ac asesu i nodi a chefnogi dysgwyr, gan gynnwys: y rheini ag anghenion dysgu ychwanegol; dysgwyr sy'n fwy abl a thalentog; dysgwyr sy'n gweithio ar lefel is na'r disgwyl ar gyfer eu hoed; dysgwyr sy'n methu â chyrraedd eu potensial; a dysgwyr ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol.
• Cynnwys dysgwyr yn y gwaith o osod targedau ac wrth bwyso a mesur eu perfformiad a'i werthuso.
• Monitro a chofnodi cynnydd a chyflawniadau dysgwyr i ddarparu tystiolaeth o ystod eu gwaith, eu cynnydd a'u cyrhaeddiad dros gyfnod o amser, gan ystyried cyfranogiad a safbwynt y dysgwr.
• Rhoi adborth cywir ac adeiladol i ddysgwyr ar eu cryfderau, eu gwendidau, eu cyrhaeddiad, eu cynnydd, a'r meysydd i'w datblygu, gan gynnwys cynlluniau gweithredu ar gyfer gwella.
• Rhoi adborth amserol, cywir ac adeiladol i gydweithwyr, rhieni a gofalwyr ar gyrhaeddiad dysgwyr, eu cynnydd, a'r meysydd i'w datblygu, gan ddefnyddio cofnodion ategol a thystiolaeth arall.

Addysgu a rheoli'r dysgu
• Sefydlu a chynnal amgylcheddau dysgu effeithiol, lle mae pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel a hyderus.
• Dysgu'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth angenrheidiol a disgwyliedig sy'n berthnasol i anghenion y dysgwr, gan wneud defnydd priodol o'r canllawiau cenedlaethol perthnasol.
• Cynnig darpariaeth wedi'i phersonoli effeithiol wrth addysgu, gan gynnwys rhoi ystyriaeth ymarferol i amrywiaeth a hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant.
• Herio achosion o ragfarnu, stereoteipio, bwlïo ac aflonyddu, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r ysgol.
• Dysgu gwersi neu gyfresi o waith ag iddynt strwythur clir fel bod pob dysgwr yn deall yr amcanion dysgu arfaethedig, ac yn eu bodloni.
• Defnyddio strategaethau addysgu priodol sy'n datblygu gallu pob dysgwr i weithio ar y cyd ac yn annibynnol.
• Datblygu ar amrywiol brofiadau, cyflawniadau a diddordebau'r dysgwyr i'w helpu i wneud cynnydd.
• Rheoli'r amser addysgu a dysgu yn effeithiol.
• Rheoli'r amgylchedd dysgu ffisegol, yr offer, deunyddiau, testunau ac adnoddau eraill yn ddiogel ac effeithiol.
• Defnyddio strategaethau addysgu priodol i sicrhau ymddygiad cadarnhaol.
• Defnyddio strategaethau addysgu priodol i hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.
• Defnyddio strategaethau addysgu priodol i hyrwyddo cynnydd a deilliannau da i ddysgwyr dros gyfnod estynedig o amser.
• Defnyddio TGCh a'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn effeithiol wrth addysgu a dysgu.
• Annog dysgwyr i wneud cynnydd annibynnol drwy ddarparu gweithgareddau neu gyfleoedd eraill i astudio y tu allan i oriau ysgol, sy'n ategu'r gwaith a wneir yn yr ysgol, ac yn ymestyn arno.
• Cydweithio ag athrawon a chydweithwyr eraill, gan gynnwys y rheini o asiantaethau allanol, i wella dysgu a lles y rheini y maen nhw'n eu haddysgu.
• Hyrwyddo dealltwriaeth dysgwyr o natur ddwyieithog Cymru a datblygu eu sgiliau dwyieithog fel sy'n briodol.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi