MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF240AB
  • Testun: Swyddog Gweithredol
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £28,245 - £32,141
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Swyddog Gweithredol,  Priodoldeb i Ymarfer

Swyddog Gweithredol, Priodoldeb i Ymarfer

Cyngor y Gweithlu Addysg
Pwrpas y Swydd:

Gan weithio i’r Rheolwr Priodoldeb i Ymarfer, bydd y Swyddog Gweithredol yn darparu cymorth gweinyddol a gweithredol er mwyn cyflawni swyddogaethau CGA wrth ystyried achosion disgyblu yn ymwneud ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol honedig ymarferwyr addysg, anghymhwysedd proffesiynol difrifol, euogfarn o drosedd berthnasol, addasrwydd ar gyfer cofrestru, Apeliadau Sefydlu ac atgyfeiriadau gorchymyn atal dros dro.

Gellir cynnal gwrandawiadau Priodoldeb i Ymarfer o bell neu'n bersonol. Pan gynhelir gwrandawiad yn bersonol, efallai y bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd fynychu cyfarfodydd / gwrandawiadau Pwyllgor yng Ngogledd Cymru, a fydd yn cynnwys aros dros nos. Pan fydd angen aros dros nos rhoddir rhybudd ymlaen llaw.

Cyfrifoldebau:

Dan gyfarwyddyd y Rheolwr Priodoldeb i Ymarfer, bydd y Swyddog Gweithredol yn:

Pwyllgorau

• Cydlynu dewis aelodau Pwyllgorau ar gyfer cyfarfodydd/gwrandawiadau;
• Trefnu cyfarfodydd/gwrandawiadau Pwyllgorau Priodoldeb i Ymarfer a sicrhau eu bod yn cael eu cynnal yn unol â’r drefn;
• Trefnu cyfarfodydd briffio gydag aelodau’r panel, Swyddogion Cyflwyno a chynghorwyr cyfreithiol;
• Cysylltu gyda’r holl bartïon perthnasol y bydd angen iddynt fynychu cyfarfod/ gwrandawiad Pwyllgor er mwyn cadarnhau dyddiadau ac a ydynt ar gael;
• Gweithredu fel clerc ym mhob gwrandawiad/cyfarfod disgyblu, addasrwydd ac Apeliadau Sefydlu (yn bersonol ac o bell);
• Trefnu gwasanaethau cyfieithu a threfniadau mynediad y cyhoedd, yn ôl y gofyn; a
• Threfnu llety, lluniaeth a llogi ceir ar gyfer aelodau a chydweithwyr yn ôl yr angen.



Achosion unigol

• Gweinyddu gwaith achos, yn ôl yr angen, mewn perthynas â disgyblu, addasrwydd ac apeliadau sefydlu;
• Cynnal ffeiliau achos electronig a phapur unigol a systemau ffeilio;
• Cynorthwyo’r Rheolwr Priodoldeb i Ymarfer i gasglu gwybodaeth berthnasol yn ymwneud ag achosion penodol, er enghraifft, gan yr heddlu, llysoedd ynadon ac unigolion cofrestredig / eu cynrychiolwyr;
• Cysylltu â phartïon allweddol mewn achosion unigol, yn enwedig unigolion cofrestredig a’u cynrychiolwyr, cyflogwyr, tystion, cynghorwyr cyfreithiol, swyddog cyflwyno CGA ac aelodau pwyllgorau; a
• Chysylltu â rhandaliadau perthnasol, fel Llywodraeth Cymru, yr Adran Addysg, y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, Cynghorau Addysgu Cyffredinol Eraill, yr Asiantaeth Rheoleiddio Athrawon ac unrhyw gorff priodol arall.

Arall

• Mewnbynnu gwybodaeth a diweddaru system rheoli achosion ac adroddiad gwaith achos CGA;
• Gweithio gyda Phennaeth Priodoldeb i Ymarfer a’r Rheolwr Priodoldeb i Ymarfer i drefnu a chyflwyno sesiynau hyfforddi Blynyddol y Cadeiryddion ar gyfer aelodau Pwyllgorau mewn perthynas â gwaith priodoldeb i ymarfer CGA;
• Ymchwilio i waith priodoldeb i ymarfer CGA o bryd i’w gilydd.

Cyffredinol

• Cyfrannu at waith gweinyddol a gweithredol CGA yn ôl yr angen;
• Sicrhau cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol, gan gynnwys rheoliadau’r Gymraeg, Rheoliadau Diogelu Data a Chydraddoldeb; a
• Chyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill, yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwr Priodoldeb i Ymarfer, Pennaeth Priodoldeb i Ymarfer neu’r Cyfarwyddwr Rheoleiddio, sy’n gymesur â’r swydd a’r radd.