MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun:
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Mai, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro Mathemateg

Athro Mathemateg

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Lôn Rhosnesni

Wrecsam

LL13 9ET

Rhif ffôn: 01978 340840

Pennaeth: Mr A Brant, BSc (Anrh), CPCP

www.rhosnesni-high.wrexham.sch.uk

ATHRO MATHEMATEG ar gyfer mis Medi 2024 MPS/UPS

Mae Ysgol Rhosnesni yn ysgol gyfun i ddisgyblion 11-16 oed yn Wrecsam, gyda 1090 o fyfyrwyr ar y gofrestr ar hyn o bryd.

Mae hon yn swydd newydd mewn ymateb i dwf cyflym a pharhaus yr ysgol. Mae'r Llywodraethwyr yn dymuno recriwtio ymarferydd ardderchog i swydd Athro Mathemateg.

Mae'r swydd hon yn addas i Athrawon Newydd Gymhwyso. Mae Ysgol Rhosnesni yn chwilio am unigolyn creadigol, ysbrydoledig a dibynadwy i ymuno ag adran fathemateg brofiadol.

Mae'r swydd yn cynnig cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu ymarfer arloesol o ran dysgu ac addysgu o fewn adran sefydledig a llwyddiannus.

Mae Rhosnesni wedi ymrwymo i ddysgu proffesiynol, cydweithio a lles staff.

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â 'Thîm Rhosnesni', wrth i'r ysgol barhau i wella a thyfu.

Os hoffech chi gael sgwrs cyn ymgeisio am y swydd, cysylltwch â Mrs Sally Williams ar 01978 340840.

I ymgeisio: Llenwch a chyflwynwch y ffurflen gais ar-lein ar ein tudalen TES, neu llennwch ffurflen gais CBSW o wefan CBSW a'i dychwelyd yn uniongyrchol i'r ysgol.

Gellir cysylltu ag ymgeiswyr cyn y dyddiad cau i drafod eu cais ymhellach.

Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV na cheisiadau gan asiantaethau.

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhywedd, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd neu oedran.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod pob swydd mewn ysgol yn destun gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae angen cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

DYDDIAD CAU: Hanner dydd, dydd Llun 13 Mai 2024

CYFWELIADAU: Wythnos yn dechrau ar 13 Mai (dyddiad i'w gadarnhau)