MANYLION
  • Testun:
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch Lefel 4  (Ysgol Y Bont Newydd-ar-Wye)

Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch Lefel 4 (Ysgol Y Bont Newydd-ar-Wye)

Cyngor Sir Powys
Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch Lefel 4 (Ysgol Y Bont Newydd-ar-Wye)
Swydd-ddisgrifiad
Mae'r swydd hon wedi'i chyfuno gyda'r rôl fel SNB0061 Cynorthwyydd Addysgu (Generig) Lefel 3

Am y rôl:

Datblygu dysgu'r disgyblion mewn ystod o sefyllfaoedd yn yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys gweithio gydag unigolion, grwpiau bach a dosbarthiadau cyfan os nad yw'r athro priodol yn bresennol.

Cefnogi gwaith athro cymwysedig ac, o dan system oruchwylio y cytunwyd arni, bod yn gyfrifol am weithgareddau dysgu y cytunwyd arnynt. Mae hyn yn golygu gwneud gwaith penodedig (gweler * isod), gan gynnwys cynllunio, paratoi a chyflenwi gweithgareddau dysgu i ddisgyblion/grwpiau unigol neu, yn y tymor byr, i ddosbarthiadau cyfan a monitro, asesu, cofnodi ac adrodd am ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion.

(*O dan A133 o Ddeddf Addysg 2002, diffinnir gwaith penodedig fel a ganlyn:
  • cynllunio a pharatoi gwersi a chyrsiau i ddisgyblion
  • cyflenwi gwersi i ddisgyblion, gan gynnwys eu cyflenwi drwy dechnegau dysgu o bell neu gyda chymorth cyfrifiadur
  • asesu a chofnodi datblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion
  • adrodd am ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion.
Mae 'disgyblion' yn cynnwys gwaith gyda disgyblion unigol yn ogystal â grwpiau a dosbarthiadau cyfan).

Bod yn aelod o dîm amlddisgyblaethol a gweithio o dan arweinyddiaeth athro cymwysedig a bennwyd i'r dosbarth neu'r grŵp. Bydd yn gweithio â lefel uchel o awdurdod dirprwyedig o dan system oruchwylio y cytunwyd arni.