MANYLION
  • Lleoliad: Gwynedd,
  • Testun:
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Swyddog Cynwysiad Hybiau Addysg Gwynedd x5

Swyddog Cynwysiad Hybiau Addysg Gwynedd x5

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

Swyddog Cynhwysiad Hybiau Gwynedd

(Swydd dros dro am flwyddyn yn y lle cyntaf )

Gwahoddir ceisiadau gan unigolion ymroddedig a brwdfrydig sy'n barod i fod yn rhan o'r Gwasanaeth Cynhwysiad ac i weithio yn Hybiau Cynhwysiad Adran Addysg . Mae'r hybiau yn darparu addysg gynhwysol ar gyfer nifer fechan o ddisgyblion Bl9-11 o fewn y Sir

Croesewir ymholiadau/ceisiadau gan ymgeiswyr posibl sydd a diddordeb gwirioneddol mewn cynhwysiad a sicrhau y cyfle gorau posibl i bob unigolyn ifanc lwyddo.

Oriau gwaith: 35 awr yr wythnos, 40 wythnos y flwyddyn.

Mae'r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Ellen Rowlands ar 01286 679007

E-bost: ellenrowlands@gwynedd.llyw.cymru

DYDDIAD CAU: 10:00 o'r gloch 29/04/24

Dyddiad cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL

• Y gallu i weithio a chymysgu yn hawdd â phobl. Gallu i ddelio a phobol yn hyderus, pwyllog a chwrtais.
• Y gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm.
• Agwedd hyblyg gyda'r gallu i weithio ar ei phen/ben ei hun
• Person taclus a threfnus sy'n gallu blaenoriaethu gwaith fel bo'r angen ac yn dangos blaengaredd.
• Gallu cyflwyno gwaith cywir a thaclus yn rheolaidd.
• Y gallu i gyflwyno syniadau a strategaethau i gyd-weithiwyr yn hyderus.

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL

HANFODOL

• Sgiliau rhif/llythrennedd ardderchog - cyfwerth ag NVQ Lefel 2 mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg.
• Cyfarfod â safonau Cymhorthydd Addysgu Lefel Uwch neu gymhwyster neu brofiad cyfwerth.
• Hyfforddiant mewn strategaethau perthnasol.

DYMUNOL

• Hyfforddiant cymorth cyntaf fel y bo'n briodol.

PROFIAD PERTHNASOL

HANFODOL

• Profiad o weithio gyda grwpiau bregus o blant a phobl ifanc
• Profiad o weithio gyda disgyblion gydag anghenion ychwanegol.
• Profiad o weithio mewn amgylchedd dysgu gyda phlant o'r oedran priodol.
• Profiad o weithio gyda disgyblion ag anawsterau emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol.

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL

HANFODOL

• Gwybodaeth weithio lawn o bolisïau/còd ymarfer/deddfwriaeth berthnasol.
• Gwybodaeth weithio o'r Cwricwlwm Cenedlaethol a rhaglenni dysgu perthnasol eraill.
• Deall egwyddorion datblygiad plentyn a'r broses ddysgu ac, yn arbennig, rwystrau i ddysgu.
• Y gallu i gynllunio gweithredu effeithlon ar gyfer disgyblion sydd mewn perygl o dangyflawni.
• Deall ystod y gwasanaethau/darparwyr cynhaliaeth.
• Y gallu i hunan-werthuso anghenion dysgu a cheisio cyfleoedd dysgu.
• Y gallu i berthnasu'n dda â phlant ac oedolion.
• Gweithio'n adeiladol ac yn hyblyg fel rhan o dîm, gan ddeall swyddogaethau a chyfrifoldebau dosbarth a'ch sefyllfa chi eich hun o fewn y rheiny.
• Yn gallu defnyddio TGCh yn effeithlon i gefnogi dysgu.
• Deall fframweithiau statudol perthynol i addysgu.
• Ymwybodol o Strategaeth ADYaCh Gwynedd ac Ynys Môn
• Dealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth ADYaCh a'r Cod Ymarfer
• Dealltwriaeth o Ddulliau Canolbwyntio ar yr Unigolyn
• Dealltwriaeth o Gynlluniau Datblygu Unigol

ANGHENION IEITHYDDOL

Gwrando a Siarad

Gallu cyflwyno pob agwedd o'r swydd ar lafar yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gystal â'i gilydd.

Darllen a Deall

Gallu defnyddio a dehongli'n gywir unrhyw wybodaeth o amrywiol ffynonellau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar gyfer cyflawni holl agweddau'r swydd.

Ysgrifennu

Gallu cyflwyno gwybodaeth yn ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg mewn modd gwbl hyderus gan ddefnyddio'r dull a'r iaith fwyaf priodol ar gyfer y pwnc a'r gynulleidfa.

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd.

• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

• Darparu cefnogaeth addysgol i ddisgyblion â phroblemau ymddygiadol / emosiynol.

• Darparu cefnogaeth addysg/cyswllt a phlant sydd ddim yn mynychu y darpariaeth prif lif am pa bynnag reswm.

• Cymryd cyfrifoldeb am weithgareddau dysgu.

• Cynllunio, paratoi a chyflwyno cwricwlwm ehangach ynghyd â chwricwlwm therapiwtig i unigolion neu grwpiau.

• Monitro, asesu, cofnodi ac adrodd ar lwyddiannau yr elfennau yma.

• Hyrwyddo cynnydd a lles cyffredinol disgyblion yn unol ag athroniaeth y ddarpariaeth.

• Gweithredu'r Còd Ymarfer Anghenion Arbennig o ran cefnogi disgyblion.

• Cefnogi Addysgu' disgyblion sydd ddim yn ddysgwyr arferol prif lif.

Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer

• Adnoddau dysgu cyffredinol.

• Offer TGCh i gefnogi dysgu'r disgyblion

Prif Ddyletswyddau.

Cefnogaeth i ddisgyblion

• Cefnogi'r Addysgu grwpiau o ddisgyblion a neilltuir gan yr Adran Addysg

• Cynllunio nodau addysgu a dysgu heriol ac addasu cynlluniau gwersi/gwaith fel y bo'n briodol.

• Asesu anghenion disgyblion a defnyddio gwybodaeth fanwl a sgiliau arbenigol i gefnogi dysgu'r disgyblion.

• Monitro a gwerthuso ymateb disgyblion i weithgareddau dysgu drwy ystod o strategaethau asesu a monitro.

• Darparu adborth gwrthrychol a chywir ac, yn ôl y gofyn, adroddiadau ar gyflawniad, cynnydd a materion eraill disgyblion, gan sicrhau fod tystiolaeth briodol ar gael.

• Gweinyddu ac asesu/marcio profion.

• Gosod disgwyliadau uchel.

• Datblygu a gweithredu Cynlluniau Addysg Unigol (CAU) Chynlluniau Ymddygiad Unigol (CYU) a Chynlluniau Datblygu Unigol (CDU).

• Hybu cynhwysiad pob disgybl.

• Cefnogi'r disgyblion yn gyson wrth adnabod eu hanghenion unigol ac ymateb iddynt.

• Annog y disgyblion i ryngweithio a gweithio'n gydweithredol, lle'n briodol, ag eraill ac ymrwymo pob disgybl mewn gweithgareddau.

• Hybu annibyniaeth a defnyddio strategaethau i adnabod a gwobrwyo cyflawniad a hunanddibyniaeth.

• Cofnodi yn drylwyr, gynnydd a chyflawniad a darparu tystiolaeth o ystod a lefel cynnydd a chyrhaeddiad.

• Asesu, cofnodi ac adrodd ar gynnydd disgyblion.

• Darparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad.

• Adrodd ar gynnydd disgyblion i'r ysgolion ac unrhyw asiantaeth berthnasol.

• Cysylltu a chyfathrebu'n effeithiol a phawb perthnasol sydd â wnelo â'r disgyblion fel mae'n briodol.

• Hwyluso cyfathrebu rhwng ysgol, rhieni ac asiantaethau eraill

• Sicrhau bod yr holl faterion Iechyd a Diogelwch sy'n rhan o'ch cyfrifoldeb yn cael eu dwyn i sylw'r Rheolwr Llinell.

• Bod yn rhan weithredol o lunio asesiadau risg ar ddisgyblion a lleoliadau dysgu.

• Trefnu a rheoli amgylchedd dysgu ac adnoddau priodol.

• Gweithredu polisi Cyfleoedd Cyfartal yr AALl.

• Gweithio o fewn polisi disgyblaeth sefydledig i ragweld a rheoli ymddygiad yn adeiladol, gan hybu hunanreolaeth ac annibyniaeth.

• Cefnogi rhan rhieni yn dysgu'r disgyblion a chyfrannu tuag at gyfarfodydd/arwain cyfarfodydd gyda rhieni i ddarparu adborth adeiladol ar gynnydd/cyflawniad disgyblion, ayyb.

• Cynhyrchu cynlluniau gwersi, taflenni gwaith, cynlluniau, ayyb.

• Bod yn ymwybodol a chefnogi gwahaniaeth, a sicrhau bod gan bob disgybl fynediad cyfartal i gyfleoedd dysgu a datblygu.

• Os yw'n briodol, mynychu cyfarfodydd bugeiliol

Cefnogaeth i'r Cwricwlwm

• O fewn cyfundrefn oruchwylio gytunedig, cyflwyno gweithgareddau dysgu i'r disgyblion, addasu gweithgareddau yn unol ag ymatebion/anghenion y disgyblion.

• Cyflwyno strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol, e.e. llythrennedd, rhifedd a gwneud defnydd effeithiol o gyfleoedd a ddarperir gan weithgareddau dysgu eraill i gefnogi datblygiad sgiliau disgyblion.

• Defnyddio TGCh yn effeithiol i gefnogi gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth disgyblion yn ei ddefnydd.

• Dethol a pharatoi adnoddau sy'n angenrheidiol ar gyfer arwain gweithgareddau dysgu, gan gymryd cyfrif o ddiddordebau, iaith a chefndir diwylliannol y disgyblion.

• Cynghori ar leoli a defnyddio cymorth/adnoddau/offer arbenigol yn briodol.

• I feddu ar drwydded yrru ddilys a defnydd o gerbyd sydd yn cydymffurfio â Pholisi Teithio Cyngor Gwynedd.

Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin

Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau'r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o'r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau'r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na'r lefel cyfrifoldeb.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi