MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Tudweiliog, Pwllheli,
  • Testun:
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £0.00 - £10,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Goruchwyliwr Clwb Brecwast (5 awr) Ysgol Tudweiliog

Goruchwyliwr Clwb Brecwast (5 awr) Ysgol Tudweiliog

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION CYNRADD

GORUCHWYLIWR CLWB BRECWAST (5 AWR)

YSGOL TUDWEILIOG
(Cynradd 3 - 11: 47 o ddisgyblion)

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS1 pwynt 2, (sef £2,536 y flwyddyn) ar gyfer y swydd Goruchwyliwr Clwb Brecwast.

Yn eisiau: 13 Mai 2024 neu cyn gynted a phosib wedi hyn

Swydd barhaol yw hon.

Oriau gwaith: 5 awr yr wythnos fel Goruchwyliwr Clwb Brecwast, sef 1 awr y dydd. (38 wythnos, tymor ysgol yn unig).

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Mrs Einir Davies. Rhif Ffôn: 01758 770669 e-bost: Einir.Davies@tudweiliog.ysgoliongwynedd.cymru

Dylid cyflwyno cais am y swydd ar-lein. Os nad yw hyn yn bosibl, yna gallwch gysylltu gyda Elen Jones, Swyddog Cefnogi Ysgol. Rhif ffon 01758 704047 e-bost: elenjones2@gwynedd.llyw.cymru

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallant gychwyn yn yr ysgol.

DYDDIAD CAU: 12 O'R GLOCH, DYDD GWENER, 26 EBRILL 2024.

(This is an advertisement for a Breakfast Club Supervisor (5 hours) at Ysgol Tudweiliog for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential. The council will require a Disclosure and Barring Service disclosure for the successful applicant before they can start at the school).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

Os hoffech gefnogaeth i ymgeisio, mae Gwaith Gwynedd ar gael i roi cymorth i drigolion Gwynedd mynd i waith - am fwy o wybodaeth cliciwch yma .

Manylion Person

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL
Person gofalgar, cyfeillgar a hyblyg. Gallu gweithredu fel aelod o dîm.
Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL

DYMUNOL
Cymhwyster Cymorth Cyntaf.

PROFIAD PERTHNASOL

DYMUNOL
Profiad blaenorol o weithio gyda phlant neu ofalu am blant.

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL

HANFODOL
Gallu cyfathrebu â phlant gyda gofal, empathi a dealltwriaeth.
Gallu dilyn cyfarwyddiadau a gweithdrefnau yn unol â pholisïau cytunedig yr ysgol.

ANGHENION IEITHYDDOL

Gwrando a Siarad - Lefel Sylfaen
Gallu cynnal sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yng nghyd-destun pob dydd y swydd gan ddefnyddio geirfa benodol sy'n codi'n rheolaidd er mwyn cyflwyno gwybodaeth.

Gallu cyflwyno gwybodaeth syml drwy gyfwng y Gymraeg a'r Saesneg sydd wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i gwestiynau.

Darllen a Deall - Lefel Sylfaen
Darllen a deall negeseuon a thaflenni gwybodaeth syml trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn ymwneud â'r swydd, a deall adroddiadau byr a syml ar bwnc cyfarwydd.

Ysgrifennu - Lefel Sylfaen
Gallu llenwi ffurflen syml a llunio llythyr neu neges ebost byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg drwy ddefnyddio cyfres o frawddegau allweddol i gyfleu gwybodaeth syml.

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd.

• Sicrhau bod plant a phobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Ymgymryd â goruchwyliaeth y disgyblion yn ystod y cyfnod brecwast.
• Mae'r ysgol hon wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Prif Ddyletswyddau.

• Bod yn bresennol ar dir yr ysgol yn ystod y cyfnod brecwast.
• Cynorthwyo i osod y byrddau a'r meinciau a sicrhau eu bod yn cael eu cadw wedyn a bod y neuadd/
ystafell fwyta yn lân a destlus cyn amser gwersi/gwasanaeth boreol.
Sicrhau fod y plant yn dod i mewn a gadael y ffreutur/Neuadd mewn modd rheoledig a thawel
• Cynorthwyo'n gyffredinol wrth i'r brecwast
gael ei weini.
• Arolygu a sicrhau disgyblaeth ymhlith disgyblion cyn, yn ystod ac ar ôl brecwast yn cynnwys arolygu yn y
neuadd/ystafell fwyta.
• Annog cwrteisi a moesau da, gan gynorthwyo lle bo angen.
• Sicrhau bod disgyblion dan arolygaeth gydol yr amser brecwast a'r amser gofal cyn-ysgol.
• Yn achos babanod, bydd y dyletswyddau'n cynnwys cludo'r brecwast i'r disgyblion (oni wnaed trefniadau
eraill gan y Pennaeth) gan dorri tost ayb, eu hyfforddi i ddefnyddio llwyau os oes angen.
• Cwblhau cofrestr presenoldeb ar gyfer brecwast (PY44) yn ddyddiol.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir
yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r cyngor/ysgol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.

Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau'r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o'r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau'r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na'r lefel cyfrifoldeb.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi