MANYLION
  • Testun:
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Mai, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Ddosbarth CA2 (Ysgol Trefonnen)

Athro/Athrawes Ddosbarth CA2 (Ysgol Trefonnen)

Cyngor Sir Powys
Athro/Athrawes Ddosbarth CA2 (Ysgol Trefonnen)
Swydd-ddisgrifiad
Swydd CA2 llawn amser parhaol ar gyfer athro/athrawes brofiadol - Ffrwd Saesneg Blynyddoedd 5 a 6

Ei eisiau o 1.9.24

Mae Ysgol Trefonnen yn ysgol yr Eglwys yng Nghymru ddwy ffrwd, a reolir yn wirfoddol, sy'n ganolog i'r gymuned ar gyfer plant 4-11 oed; mae rhai o'n plant yn dysgu'n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg, a rhai drwy gyfrwng y Saesneg. Fodd bynnag, mae ein holl ddisgyblion yn rhannu profiad cyffredin o fyw a dysgu yn y Gymraeg. Oddi fewn i adeilad ysgol, mae gennym saith ystafell ddosbarth, grŵp rhieni a phlant bach a Ti a Fi (grŵp dwyieithog i famau a phlant bach), grŵp y Blynyddoedd Cynnar cyn-ysgol (cyfrwng Saesneg) a Chylch Meithrin (grŵp cyn ysgol cyfrwng Cymraeg), dau leoliad Dechrau'n Deg a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Clwb Bwyd a Hwyl Gwyliau'r Haf buddiol ac Oergell Cymunedol llwyddiannus iawn.

Rydyn ni'n chwilio am athro/athrawes sy'n:
  • ymarferydd ardderchog yn yr ystafell ddosbarth sydd â gwybodaeth dda o addysgu yn CA2 a dealltwriaeth dda o'r Cwricwlwm newydd i Gymru.
    • meddu ar ddisgwyliadau uchel o ran dysgu ac ymddygiad
    • gweithio'n dda fel rhan o dîm
  • yn angerddol ynghylch gwneud gwahaniaeth i'r plentyn "cyflawn"
    • yn barod i ddangos ymroddiad i fywyd ehangach yr ysgol a gweithgareddau all-gwricwlaidd
Gallwn ni roi'r canlynol i chi:
  • Tîm ymroddedig o staff a llywodraethwyr
  • Disgyblion cyfeillgar a brwdfrydig
  • Amgylchedd dysgu sy'n ofalgar ac yn llawn adnoddau
  • Partneriaeth dda â rhanddeiliaid
Mae croeso i chi ymweld â'r ysgol - cysylltwch â swyddfa'r ysgol ar 01597822190 i weld yr ysgol.

Dyddiad cau: 10.5.24

Creu rhestr fer: 13.5.24

Cyfweliad: 20.5.24

Am ffurflen gais a manyleb y swydd ffoniwch 01597826409, e-bost recruitment@powys.gov.uk neu ymgeisiwch ar-lein www.powys.gov.uk