MANYLION
  • Lleoliad: Caernarfon,
  • Testun:
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £65,000.00 - £70,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Pennaeth Cynorthwyol: Uwchradd

Pennaeth Cynorthwyol: Uwchradd

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

*DALIER SYLW* Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu. Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â'r panel sy'n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.

Mae'r Adran Addysg yn awyddus i benodi Pennaeth Cynorthwyol: Addysg Uwchradd i ymuno gyda tîm o Swyddogion yr adran sy'n cefnogi ysgolion yng Ngwynedd. Bydd y swydd hon yn canolbwyntio ar gefnogi ysgolion uwchradd Gwynedd.

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Gwern Ap Rhisiart, Pennaeth Addysg ar 01286 679 089

Rhagwelir cynnal cyfweliadau 9fed o Fai 2024

Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076

E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru

DYDDIAD CAU: 10.00 O'R GLOCH, 2il o FAI 2024

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy'r

cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Manylion Person

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL

Gwerthfawrogi pwysigrwydd canolog y dysgwr mewn addysg.

Dangos uchelgais ar gyfer plant a phobl ifanc a'r penderfyniad i wella eu canlyniadau.

Y gallu i weithio fel rhan o dîm.

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL

HANFODOL

Statws athro wedi cymhwyso ar ol graddio

Tystiolaeth o astudiaeth pellach e.e. cymhwyster meistri mewn arweinyddiaeth neu addysg

DYMUNOL

PROFIAD PERTHNASOL

HANFODOL

Gallu cyfleu gweledigaeth eglur ar gyfer gwella ysgol;

Profiad o arwain ysgol uwchradd yn effeithiol a llwyddiannus.

Wedi rhoi arweiniad a defnyddio sgiliau rheoli'n effeithiol ar lefel uwch mewn ysgolion;

Wedi rheoli ymyriadau ysgol yn llwyddiannus ac o gyfrannu tuag at welliant cynaliadwy arwyddocaol;

Gallu adnabod themau allweddol ar gyfer datblygiad a gweithredu o dystiolaeth hunan-arfarnu a sicrhau y caiff angen ei fodloni;

Profiad o wneud cyfraniad ehangach at ddatblygiadau addysgol.
Gallu arfarnu effaith a gweithrediad strategaethau lleol a cenedlaethol tuag at wella perfformiad ysgol ymhellach;

Profiad eang o ddefnyddio a cymhwyso data perfformiad;

Gallu herio perfformiad ysgol, gweithdrefnau olrhain a gosod targed a delio â thanberfformio;

Gallu herio arfer gwael a methu trosglwyddo gweithrediadau angenrheidiol y cytunwyd arnynt a dal uwch reolwyr a llywodraethwyr yn atebol,

Dangos tystiolaeth o allu rheoli a cynnal newid ar gyfer gwelliant gan gyflawni hynny'n fedrus;

Gallu deall, dadansoddi, arfarnu a sicrhau y caiff egwyddorion ac arfer systemau sicrwydd ansawdd eu gweithredu, yn cynnwys hunan arfarnu a rheoli perfformiad ysgol.

Gallu meddwl a gweithio'n hyblyg, yn arloesol, yn annibynnol ac yn strategol tra hefyd yn meddu ar sgiliau cydweithredol a logistaidd cryf;

Pendantrwydd o ran adnabod materion perfformiad allweddol a gallu rheoli Ymyriadau Ysgol Gwynedd yn cynnwys y gallu i ffurfio barn manwl-gywir ar arweiniad a rheolaeth ysgolion;

Defnydd a dealltwriaeth dda o TCG;

Gallu gweithio dan bwysau a cwrdd ag amserlen tynn

Bod yn fodlon gweithio tu allan i oriau gweithio arferol pan fo angen

DYMUNOL

Profiad o wella ysgol tu hwnt i'w hysgol eu hunain neu fod yn weithiwr proffesiynol gwella addysg ar y pryd gyda swyddogaeth arweinyddiaeth arwyddocaol mewn ysgol neu awdurdod lleol;

Profiad eang o reoli cyllideb a staff.

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL

HANFODOL

Gwybodaeth a dealltwriaeth o oblygiadau deddfwriaeth a fframweithiau addysgol cyfredol yn cynnwys gwella ysgolion sy'n wynebu anawsterau;

Gwybodaeth gadarn o'r hyn sy'n ansawdd mewn darpariaeth addysgol, nodweddion ysgolion effeithiol a'r strategaethau ar gyfer gwella arfer addysgu effeithiol a llwyddiannau disgyblion.

Dealltwriaeth gadarn o'r hyn sy'n reolaeth ysgol effeithiol, yn cynnwys cyfraith cyflogaeth, deddfwriaeth cyfleoedd cyfartal ac anabledd, personel a cyllid.

Meddu ar wybodaeth o sut mae cydweithio a partneriaid allweddol, asiantaethau a gwasanaethau cefnogi yn cyfrannu tuag at wella ysgol;

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd.

• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Disgwylir i'r Pennaeth Cynorthwyol: Addysg Uwchradd gyflawni'r swydd trwy gyfeirio'n uniongyrchol at y Deddfau Addysg, Rheoliadau, Codau Ymarfer a'r ddeddfwriaeth cysylltiedig sy'n ymwneud a'r swydd.

Prif Ddyletswyddau. .

Disgwylir i'r Pennaeth Cynorthwyol gyflawni'r swydd trwy gyfeirio'n uniongyrchol at y Deddfau Addysg, Rheoliadau, Codau Ymarfer a'r ddeddfwriaeth cysylltiedig sy'n ymwneud a'r swydd.

Mae'n swydd heriol, ble mae angen lefelau uchel o sgiliau rhyng-bersonol, cyfathrebu ac arweinyddiaeth, a ddiffinir gan Safonau Cenedlaethol a gyda cyfrifoldebau rheolaethol a strategol ar lefel ardal a gwasanaeth cyfan o ran gwasanaethau gwella addysg o fewn Gwynedd fel y pennir gan y Pennaeth Addysg.

Er mwyn bod yn effeithiol, mae angen i'r Pennaeth Cynorthwyol :
(i) allu perthnasu'n dda ag eraill;
(ii) dangos y gallu i ddylanwadu ar a dwyn perswâd ar eraill i weithredu, a hefyd dangos sgiliau hyrwyddo
ar lefel uchel, a hynny'n aml o dan amgylchiadau heriol, ac
(iii) arddangos y safonau sydd eu hangen i reoli a cefnogi'r unigolion a'r timau er mwyn cyflawni amcanion
cyffredinol y Gwasanaeth Addysg yng Ngwynedd.

Gan fod â chyfrifoldeb uniongyrchol am nifer dynodedig o ysgolion, ynghyd â chyfrifoldebau am agweddau o'r gwasanaeth ar lefel sirol, disgwylir i'r Pennaeth Cynorthwyol weithio yng nghyd-destun gwerthoedd am amcanion strategol Awdurdod Addysg Gwynedd er mwyn:
Galluogi unigolion sy'n gyfrifol am wella ysgolion gwrdd â disgwyliadau moderneiddio a trawsnewid yr agenda addysg yng Ngwynedd trwy osod targedau ac adnabod anghenion proffesiynol;
Rhoi cefnogaeth a gosod her, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol i ysgolion, grwpiau ac unigolion sy'n golygu defnyddio gwybodaeth, defnyddio a datblygu ystod eang o strategaethau a strwythurau, a fu'n effeithiol o ran gwella ysgolion gyda gwahanol nodweddion a cyd-destunau.
Cyfrannu tuag at hinsawdd o welliant parhaus trwy herio ysgolion i godi safonau, hyrwyddo strategaethau ar gyfer hunan-wella a cydweithrediad Ysgol i Ysgol yn ogystal â gwella cynhwysiad unigolion a grwpiau a allai gael eu heithrio, a cydweithio'n effeithiol gydag asiantaethau eraill sy'n weithredol yn y maes.
Defnyddio data i adnabod cryfderau a gwendidau, ond hefyd y profiad a'r arsylwi trwyadl sydd ei angen ar gyfer dadansoddi'r ffactorau sy'n peri gwendidau, neu gryfderau creiddiol, a gwneud argymhellion sy'n arwain at welliant.
Sicrhau dealltwriaeth lawn o'r broses ddysgu a sut mae arsylwi yn y dosbarth, monitro ac arfarnu'n cyfrannu tuag at godi safonau mewn ysgolion.
Hyrwyddo addysgu a dysgu sy'n ysbrydoli a meddu ar weledigaeth ar gyfer addysg yng Ngwynedd yn y dyfodol.
Adnabod arfer dda a'i gyd-rannu gydag ysgolion ac unigolion er mwyn peri newidiadau mewn rheolaeth ysgol ac ansawdd addysg.
Sicrhau bod rheolaeth perfformiad effeithiol yn broses dyngedfennol ar gyfer gwelliant unigolion.

Mae sicrhau bod rheolaeth effeithlon ac arweiniad effeithiol mewn nifer dynodedig o ysgolion yn ganolog i swyddogaeth Pennaeth cynorthwyol. Yn ogystal mae'r deiliad yn gyfrifol amdano er mwyn:
Sicrhau y caiff strategaethau'r Adran Addysg ar gyfer gwella ysgol eu gweithredu'n effeithiol a bod safonau cyrhaeddiad yn uwch trwy sianelu cefnogaeth, cyfarwyddiadau a her ar lefelau priodol trwy ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael yn effeithiol yn yr ysgol, yn lleol ac yn sirol;
Llunio cynllun busnes ardal lleol ar gyfer gwella addysg gan gyfeirio'n uniongyrchol sy'n pontio mentrau cenedlaethol a mentrau lleol;
Cydweithio gydag ysgolion yn y ddau sector a datblygu blaenoriaethau dalgylch cytunedig gan gyfeirio'n uniongyrchol at y cynllun busnes lleol a weithredir;
Dylanwadu ar lefelau gwasanaeth cyfan sy'n gysylltiedig â rheolaeth perfformiad holl aelodau'r staff a sicrhau defnydd effeithiol o adnoddau er mwyn cefnogi ysgolion ar y lefelau angenrheidiol;
Sicrhau y caiff cynlluniau gwasanaeth unigol eu croes-gyfeirio, eu bod wedi eu cysylltu, bydd dull cyson a mesuredig sy'n cyflenwi ac yn cyfrannu tuag at gynlluniau gwella ysgol unigol a sicrhau elfennau atebolrwydd trwy reoli perfformiad ar bob lefel ac ar draws holl elfennau'r bartneriaeth, a
Sicrhau prosesau o arfarnu parhaus ac adolygiad rheolaidd er mwyn sicrhau darpariaeth effeithiol a strwythuredig ynghyd â gwerth am arian er mwyn darparu gwasanaeth

Ffactorau Ychwanegol
Mae deilydd y swydd yn aelod o Uwch Dîm Rheoli'r Adran Addysg ac yn gweithredu dan gyfeiriad ac arweiniad y Pennaeth Addysg.
Disgwylir i'r Swyddog weithio o fewn disgwyliadau holl bolisiau'r sir, yn enwedig y rheini sy'n ymwneud â cyflogaeth, cyfleoedd cyfartal, cydraddoldeb a rheoli data.
Gall bydd natur y gwaith yn golygu bod deilydd y swydd yn cyflawni gwaith tu allan i oriau gwaith arferol.
Gall bydd yn ofynnol i ddeilydd y swydd, o dro i dro, fynychu cyrsiau hyfforddi, cynadleddau, seminarau neu gyfarfodydd eraill fel sy'n ofynnol yn sgîl ei anghenion hyfforddiant ac anghenion y Gwasanaeth.
Telir treuliau yn unol ag amodau lleol gwasanaeth.
Cynigir y swydd hon yn amodol ar archwiliad trylwyr gael ei gynnal gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ynghylch unrhyw gofnod troseddol blaenorol.

D.S. Mae'r swydd ddisgrifiad hon yn amlinellu dyletswyddau a chyfrifoldebau'r swydd pan gafodd ei llunio. Gall bydd y dyletswyddau a'r cyfrifoldebau yn newid o dro i dro heb newid cymeriad cyffredinol y dyletswyddau na lefel y cyfrifoldeb. Mae amrywiadau o'r fath yn gyffredin ac ni all gyfiawnhau ystyried ail-raddio'r swydd.

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin

Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.

angen i weithio oriau anghymdeithasol.

Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau'r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o'r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau'r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a'r lefel cyfrifoldeb.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi