MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Pendalar, Caernarfon,
  • Testun:
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £15,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

X5 Cymhorthydd Cefnogol Lefel 2, Ysgol Pendalar, Caernarfon  x5

X5 Cymhorthydd Cefnogol Lefel 2, Ysgol Pendalar, Caernarfon x5

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG - YSGOLION ADDYSG ARBENNIG

YSGOL PENDALAR, CAERNARFON

(Arbennig 3 - 19: 118 o ddisgyblion)

Yn eisiau: Cyn gynted a phosib.

5 X CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU LEFEL 2

(ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL)

Oriau gwaith: 31.75 awr yr wythnos

(39 wythnos y flwyddyn tymor ysgol gan gynnwys dyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd).

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol. Byddai profiad o faes anghenion addysgol arbennig, Ymddygiad, PECS, Makaton, Codi a Thrin a 'Applied Behaviour Analysis' (ABA) o fantais ond nid yn angenrheidiol. Bydd posib dilyn cwrs NVQ trwy'r Coleg tra'n gweithio yn yr ysgol ac wrth gwrs derbyn hyfforddiant arbennigol priodol

Swydd am gymhorthydd sydd gyda O LEIAF NVQ LEVEL 2, sydd yn gallu gweithio 8:45 - 15:30 pob dydd a than 16:00 nosweithiau Fawrth. Noder, bydd angen bod yn eich gwaith yn barod i gychwyn gweithio am 8:45.

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS3 pwyntiau 5 - 6 (sef £17,361 - £17,651 y flwyddyn), yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth mewn gofal, Deiniol Harries. (Rhif Ffôn 01286 672141)

e-bost: Deiniol.Harries@pendalar.ysgoliongwynedd.cymru

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Sophie Eames, Swyddog Gweinyddol, Ysgol Pendalar, Ffordd Bethel, Caernarfon, Gwynedd (Rhif Ffôn: 01286 672141). Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD GWENER, 26AIN O EBRILL, 2024.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

(This is an advertisement for 5 X Learning Support Assistant Level 2 (Special Educational Needs) at Ysgol Pendalar, Caernarfon for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential).

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

The Council will require a Disclosure and Barring Service certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi