MANYLION
  • Testun:
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Ddosbarth CA2 (Ysgol Tref-y-clawdd)

Athro/Athrawes Ddosbarth CA2 (Ysgol Tref-y-clawdd)

Cyngor Sir Powys
Athro/Athrawes Ddosbarth CA2 (Ysgol Tref-y-clawdd)
Swydd-ddisgrifiad
. Ethos yr Ysgol

  • Cynnal, a rhoi ar waith gweledigaeth a nodau cytunedig yr ysgol;
  • Hyrwyddo llesiant disgyblion bob amser;
  • Hyrwyddo cyfle cyfartal mewn amgylchedd dysgu sy'n gynhwysol;
  • Sicrhau safon uchel o ofal corfforol ac emosiynol am yr holl ddisgyblion;
  • Cyfoethogi datblygiad moesol, ysbrydol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion yn y dosbarth a phan fydd yr ysgol yn ymgynnull;
  • Hyrwyddo ymddygiad da, parch y naill am y llall a rheolau'r ysgol;
  • Ceisio rhoi'r hunan-ddisgyblaeth i'r disgyblion; disgwyl ymddygiad da a chwrteisi gan bob disgybl;
  • Rhoi'r holl bolisïau a gweithdrefnau ysgol-gyfan ar waith;
  • Hyrwyddo datblygiad y Gymraeg a dealltwriaeth disgyblion y Gymru, ei threftadaeth a'i diwylliant;
  • Hysbysu'r Pennaeth o les ac anghenion cymdeithasol a phersonol disgyblion unigol.