MANYLION
  • Lleoliad: Schools,
  • Testun:
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £12.00 - £14.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Goruchwyliwr Arholiadau - Ysgol Aberconwy

Goruchwyliwr Arholiadau - Ysgol Aberconwy

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
YSGOL ABERCONWY

GORUCHWYLIWR ARHOLIADAU

Ystod Cyflog : £13.27 yr awr

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau : Dydd Llun 22 ain Ebrill 2024

Dyddiad cychwyn yn y swydd: Mai 13 eg 2024 neu mor fuan â phosibl ar ôl hynny

Ffurflen gais a'r llythyr eglurhaol i gael eu dychwelyd at Mr Ian Gerrard (Pennaeth) c/o Lynn Jones yn Aberconwy, un ai trwy'r post neu dros e-bost at lynn.jones@aberconwy.conwy.sch.uk

Gallu cyfathrebu yn Gymraeg: Dymunol

Mae'r ysgol yn bwriadu ehangu ei thîm o oruchwylwyr arholiadau yn barod ar gyfer y gyfres arholiadau sy'n dechrau ar 13 Mai 2024. Wedi hynny bydd gwaith ar gael ar wahanol adegau drwy gydol y flwyddyn academaidd trwy drefniant, ac felly mae hyblygrwydd sylweddol ar gael.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd â chyfnod o hyfforddiant ar gyfer y rôl, ac o ganlyniad, nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol.

Mae'n gyfnod cyffrous i ymuno ag Ysgol Aberconwy, ysgol gyfun gymysg sy'n cynnwys mwy na 1000 o ddisgyblion 11 i 18 oed. Mae campws newydd, eang yr ysgol wedi'i leoli ar lannau prydferth Afon Conwy, yn nhref ganoloesol Conwy, sydd ar arfordir Gogledd Cymru ac yn agos iawn i Barc Cenedlaethol Eryri. Fel ysgol MCP mae safon ein hadnoddau a'n gwaith cynnal a chadw yn eithriadol o dda ac rydym wedi datblygu enw da iawn yn lleol am ansawdd ein gofal bugeiliol yn ogystal â'n llwyddiant academaidd. Bydd niferoedd yr ysgol wedi codi 30% dros y pum mlynedd diwethaf ym mis Medi, ac rydym wedi datblygu canolfannau adnoddau arbenigol i gefnogi plant â dyslecsia, awtistiaeth ac anghenion dysgu eraill.

Yn gyfnewid rydym yn cynnig:
  • Ymrwymiad cryf i ddatblygiad proffesiynol;
  • Ysgol â dyheadau uchel a chyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth;
  • Cyfle i helpu i lywio addysgu a dysgu a'n cwricwlwm amgen;
  • Tîm ymroddedig a chefnogol o staff proffesiynol a llywodraethwyr ;
  • Cysylltiadau cryf ag ysgolion lleol eraill ar gyfer gweithio mewn partneriaeth a chefnogaeth;
  • Ysbryd cymunedol cryf;
  • Lle bywiog a diddorol i weithio ynddo.

This form is also available in English .