MANYLION
  • Lleoliad: Various,
  • Testun:
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £10,000.00 - £15,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Mai, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Cegin Cyffredinol Symudol

Cymhorthydd Cegin Cyffredinol Symudol

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

Yn eisiau mor fuan a phosib - Wanted as soon as possible
Cymhorthydd Cegin Cyffredinol Symudol

Mobile General Kitchen Assistant

I paratoi a gweini'r bwyd, a dyletswyddau cyffredinol y gegin 20 awr yr wythnos yn ystod tymor yr ysgol

To prepare and serve the food, and general kitchen duties 20 hour a week during the school term

GS2 3-4 £11.78 - £11.98 yr awr / per hour (£9.86 - £10.02 wedi ei gyfartalu - averaged)

Cyflog blynyddol / annual Salary - £10,120

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus a byddwch yn derbyn e-bost gan 'noreply@employmentcheck.org.uk' i cwblhau ffurflen DBS ar lein. / The Council will request a Criminal Records Bureau disclosure for the successful applicant and you will receive an email from 'noreply@employmentcheck.org.uk' to complete a DBS form online.

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person / The applicant will be expected to reach the linguistic level noted as one of the essential skills in the Person Specification.

Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg neu Saesneg a bydd ceisiadau yn cael ei drin yn gwbl gyfartal / We welcome applications in Welsh and English and applications will be treated completely equally.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this comitment

Dyddiad Cau / Closing Date: 13/05/2024

Ffurflenni cais oddi wrth ac i'w dychwelyd i / Application forms from and to be returned to: Gwasanaeth Cefnogol, Cefnogaeth Gorfforaethol, Caernarfon. Rhif Ffôn / Telephone number 01286 679076

Os hoffech gefnogaeth i ymgeisio, mae Gwaith Gwynedd ar gael i roi cymorth i drigolion Gwynedd mynd i waith - am fwy o wybodaeth cliciwch yma .

Manylion Person

NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc

DYMUNOL
Gallu gweithredu fel aelod o dîm (Tîm Ysgol a Thîm Cegin)

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Cymhwyster Glendid Bwyd Sylfaenol neu ymrwymiad i basio'r cwrs ymhen 3 mis o'r apwyntiad.
Trwydded yrru llawn
Perchen car ac yn barod i ddefnyddio'r car ar gyfer gwaith (gyda "defnydd
busnes" ar y dystysgrif yswiriant)

DYMUNOL
Hyfforddiant mewn sgiliau coginio a gweini bwyd
Hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch, e.e. symud a thrin neu cymorth cyntaf
Hyfforddiant mewn sgiliau marchnata

PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
-

DYMUNOL
Profiad o weithio mewn cegin

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
-

DYMUNOL
Meddu ar sgiliau rhyngbersonol da
Sgiliau cyfathrebu da

ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Mynediad
Gallu ynganu enwau llefydd a phobl yn gywir. Gallu dilyn cyfarwyddiadau a deall rhediad sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar faterion cyfarwydd ac ymateb i geisiadau syml am wybodaeth.

Darllen a Deall - Lefel Mynediad
Gallu darllen a deall llythyrau byr, syml, negeseuon ebost, taflenni, ac arwyddion syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar faterion cyfarwydd bob dydd er mwyn eu trosglwyddo i berson arall.

Ysgrifennu - Lefel Mynediad
Gallu ysgrifennu nodyn syml yn gofyn am neu'n rhoi gwybodaeth am faterion cyfarwydd bob dydd yn y gweithle.

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd.

• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Gweithio mewn ceginau ar fyr rybudd oherwydd absenoldeb staff. I gynorthwyo'r Cogydd â Gofal mewn paratoi bwyd syml, gweini bwyd, gosod y ffreutur a chlirio ar ôl cinio. Golchi offer a glanweithdra'r gegin.
• Mae'r ysgol hon wedi ymrwymo i diogelu a hyrwyddo lles plant a phobl Ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Offer

Prif Ddyletswyddau. .
• Gweithio dan gyfarwyddid y Cogydd â Gofal neu'r Dirpwy.
• Yn cynorthwyo mewn paratoi a gweini'r bwyd gan gynnwys coginio syml.
• Yn cadw holl adeiladau ag offer y gegin yn lân, gan gynnwys y ffreutur pan ddefnyddir yr ystafell honno fel ystafell fwyta yn unig.
• Pan ddefnyddir y ffreutur at fwy nag un pwrpas, glanhau'r llawr, symud pob tamaid o fwyd gan ddefnyddio mop tamp os bydd angen.
• Yn gwneud dyletswyddau cyffredinol yn y gegin a'r ffreutur, megis golchi llestri, gosod a chlirio offer a dodrefn ffreutur.
• Lle na bo Cogydd Cynorthwyol bydd y Cymhorthydd Cyffredinol yn cymryd gofal o'r gegin yn ystod absenoldeb y Cogydd ond am y tâl priodol.
• Cynnal safon uchel o lendid personol a gwisgo gwisg cegin lân briodol.
• Cydymffurfio a pholisiau Iechyd a Dioglewch a Diogelwch Bwyd Cyngor Gwynedd.
• Yn cyflawni unrhyw ddyletswyddau perthnasol yn ôl cais rhesymol.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Bydd amgylchiadau yn codi yn gofyn i'r unigolyn weithio i baratoi lluniaeth tu allan i oriau gwaith arferol e.e diwrnod hyfforddiant mewn swydd.
• Bydd amgylchiadau yn codi pan fydd disgwyl i'r unigolyn gludo prydau i ysgol arall a gweini'r bwyd.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi