MANYLION
  • Testun:
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro Gwyddoniaeth (Ysgol Maesydderwen)

Athro Gwyddoniaeth (Ysgol Maesydderwen)

Cyngor Sir Powys
Athro Gwyddoniaeth (Ysgol Maesydderwen)
Swydd-ddisgrifiad
Cyfle cyffrous i ymuno â'r Adran Wyddoniaeth a gwneud cyfraniad at y cam nesaf o wella ysgol ac adran flaengar.
Mae Ysgol Maesydderwen yn ardal hardd de Powys, gyda'r dalgylch yn cynnwys rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Bro'r Sgydau. Wedi'i lleoli'n ddelfrydol yn nhref fach
Ystradgynlais, mae'r ysgol o fewn cyrraedd i Gaerdydd, Abertawe a De-orllewin Cymru.
Mae'r Llywodraethwyr am benodi Athro Gwyddoniaeth i ymuno â'n Hadran Wyddoniaeth hynod ymroddedig. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dod yn aelod o adran sy'n cefnogi'r Arweinydd
Dysgu i godi canlyniadau mewn Gwyddoniaeth ar gyfer ein holl ddisgyblion.
Mae'r rôl yn swydd barhaol a byddai'n addas ar gyfer athro newydd gymhwyso sy'n chwilio am eu swydd gyntaf neu athro profiadol sy'n chwilio am her newydd mewn cyd-destun gwahanol.