MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Botwnnog, Pwllheli,
  • Testun:
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Mai, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gofalwr - Ysgol Botwnnog

Gofalwr - Ysgol Botwnnog

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADRAN ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL BOTWNNOG

(Cyfun 11 - 16; 494 o ddisgyblion)

Yn eisiau : Cyn gynted a phosib.

GOFALWR

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac ymroddedig ar gyfer y swydd uchod.

Mae'r rôl yn hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant yr ysgol a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn fedrus, yn frwdfrydig, yn ymroddgar ac yn awyddus i lwyddo.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS3 pwyntiau 5-6 (£23,500 - £23,893 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth Mr Dylan Minnice (Rhif ffôn 01758 730220) neu trwy e-bost: Dylan.MINNICE@botwnnog.ysgoliongwynedd.cymru

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Ms. Nia Williams, Ysgrifenyddes, Ysgol Botwnnog, Botwnnog, Pwllheli, Gwynedd (Rhif Ffôn:01758 730220; Ffacs:01758 730439; e-bost: swyddfa@botwnnog.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau

DYDDIAD CAU: 12:00 Y.H, DDYDD GWENER, 3 YDD O MAI, 2024.

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.

(This is an advertisement for the post of a Caretaker at Ysgol Botwnnog for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

The Council will require a Disclosure and Barring Service for the successful applicant before they can start at the school.

Manylion Person

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o ofalu am adeilad yn y gorffennol.

DYMUNOL
Profiad o weithio fel gofalwr yn y gorffennol.
Cymwysterau dymunol :
Gymhwyster hyd at Lefel 2 mewn un o'r meysydd isod: Adeiladwaith, Plymio neu Drydanol.

PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o fod wedi cydweithio fel rhan o dîm.
Wedi cyflawni gwaith gofalu am adeilad yn y gorffenol.

DYMUNOL
Ymwybyddiaeth o systemau Ysgolion ac yr Adran Addysg

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig
Cyfarwydd â gwaith gofalu am adeiladau
Sgiliau TGCH sylfaenol i ymateb i systemau'r ysgol a'r awdurdod (e.e. ebost)

NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Bod yn aelod o dîm a'r gallu i gydweithio'n dda.
Bod yn barod i fod yn hyblyg i gyflenwi pan fo angen o fewn y tîm

DYMUNOL
Cyfathrebu effeithiol, arddangos blaengaredd (gweld gwaith)

ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad
Gallu dilyn cyfarwyddiadau a deall rhediad sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar faterion cyfarwydd ac ymateb i geisiadau syml am wybodaeth

Darllen a Deall
Gallu darllen a deall llythyrau, negeseuon, taflenni, arwyddion ac erthyglau syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar faterion cyfarwydd bob dydd er mwyn eu trosglwyddo i berson arall.

Ysgrifennu
Gallu llenwi ffurflen safonol a llunio llythyr neu femo byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg drwy ddefnyddio cyfres o frawddegau allweddol i gyfleu gwybodaeth syml.

Swydd Ddisgrifiad

GOFALWR

YSGOL BOTWNNOG

SWYDD DDISGRIFIAD

Graddfa Gyflog: GS3

Pwyntiau Cyflog: 5-6

Cyflog: £23,500 - £23,893 (2023/4)

Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos + goramser (oriau gwaith i'w cadarnhau)

Gwyliau: 26.5 - 29.5 diwrnod y flwyddyn (yn ddibynnol ar wasanaeth) o wyliau i'w cymryd yn ystod gwyliau ysgol.

Dyletswyddau

Bydd pob aelod o staff a gyflogir yn yr ysgol yn gweithredu pob cais neu gyfarwyddyd rhesymol a roddir gan y Pennaeth a/neu gynrychiolydd. Dylai pob aelod o staff, heb eithriad, weithredu yn ôl polisiau'r ysgol.

Pwrpas y Swydd
  • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
  • Goruchwylio adeiladau'r ysgol i sicrhau fod yr adeilad yn ddiogel.
  • Sicrhau rhediad effeithiol yr ysgol gan sicrhau bod ystafelloedd a gwasanaethau ar gael ac mewn trefn ar gyfer athrawon a phawb arall sydd â hawl i'w defnyddio.
  • Monitro diogelwch a chyflwr yr adeiladau
  • Rheoli gofynion Iechyd a Diogelwch
  • Rheoli a gofal dros gontractwyr allanol sydd yn gweithio
  • Cynnal a chadw
  • Delio ag argyfyngau cyffredinol
  • Dal goriadau yr ysgol
  • Cydweithio gyda'r tîm glanhau i sicrhau bod yr ysgol yn daclus a glân

Tasgau dyddiol:
  • Datgloi'r gatiau a diffodd y system larwm. Datgloi pob drws mynediad a phob drws ystafell ddosbarth cyn agor y sefydliad yn y bore yn unol â chyfarwyddiadau'r Pennaeth.
  • Yn ystod cyfnodau gwresogi fel yr enwir gan y Pennaeth, sicrhau bod y system wresogi'n gweithio ar y lefel iawn er mwyn sicrhau y cyrhaeddir y tymheredd angenrheidiol erbyn amser agor y sefydliad.
  • Lle bydd peirianwaith amseru awtomatig yn rheoli'r system wresogi, sicrhau bod y system yn gweithio fel sydd angen cyn agor y sefydliad.
  • Adrodd wrth y Pennaeth/Arweinydd Busnes am unrhyw ddiffygion a welwyd mewn gwresogyddion unigol neu yn y system wresogi gyffredinol.
  • Glanhau a chlirio'r holl sbwriel sy'n gwneud i'r lle edrych yn flêr neu a allai fod yn beryglus, e.e. tuniau gwag, gwydr wedi malu neu boteli, o bob portsh a phob man caled o amgylch yr adeilad, cyn i'r gweithwyr gyrraedd yr adeilad.
  • Gwagio'r biniau sbwriel sydd tu allan gan roi'r sbwriel mewn bagiau plastig a chael gwared ohono fel gyda sbwriel geir tu allan i'r adeilad. Gosod bagiau plastig newydd ym mhob bin, os darperir hwy. Gwagio bocsys ail gylchu i'r biniau ail gylchu sydd wedi eu darparu.
  • Glanhau achlysurol yn ystod y dydd fel bo'r angen.
  • Storio offer ac adnoddau yn ddiogel.
  • Hysbysu'r Arweinydd Busnes o'r angen i archebu tyweli papur, rholiau papur toiled a sebon hylif i olchi dwylo trwy'r sefydliad fel bo'r angen, gofalu am ddosbarthu'r uchod.
  • Rhoi gwybod i'r Arweinydd Busnes /Pennaeth am unrhyw ddifrod i eiddo'r ysgol e.e. diffygion mewn ffitiadau neu draeniau drewllyd a.y.b. na all y gofalwr ddelio a hwy.
  • Ar adeg cau'r sefydliad, sicrhau bod yr holl oleuadau wedi eu diffodd ar gwresogyddion/systemau gwres canolog wedi eu gosod yn barod i weithio os bydd eu hangen, fel sy'n briodol ar gyfer yr amodau tywydd.
  • Sicrhau nad oes defnyddiau hylosg yn rhy agos at wresogyddion a.y.b.
  • Paratoi'r Neuadd ar gyfer Gwasanaeth Boreol, Cyngherddau, Drama neu unrhyw weithgaredd arall.
  • Agor a chloi ar gyfer gweithgareddau gyda'r nos ar ddealltwriaeth o'r ddwy ochr, gan gau a chloi'r giatiau fel sy'n briodol ar ddiwedd y dydd.

Tasgau wythnosol/misol/achlysurol:
  • Cysylltu gyda'r adran eiddo i drefnu atgyweirio yn ôl yr angen ac mewn ymgynghoriad gyda'r Arweinydd Busnes/Pennaeth.
  • Archebu nwyddau mewn ymgynghoriad gyda'r Arweinydd Busnes/Pennaeth.
  • Cadw trapiau, draeniau a chwteri mewn cyflwr glân.
  • Monitro'r defnydd o drydan, nwy a dŵr yn unol â'r drefn a fabwysiedir gan y Cyngor a cadw mewn cysylltiad gyda'r Cyngor.
  • Cadw adeiladau bwyleri mewn cyflwr glân a thaclus a sicrhau nad oes defnyddiau hylosg ynddynt.
  • Cadw pob man chwarae gydag wyneb caled, mannau parcio, llwybrau a lonydd, storfeydd nwy petrolewm a.y.b. yn rhydd o chwyn, cerrig rhydd a glanhau'r holl sbwriel e.e. gwydr, tuniau a photeli, papur neu sbwriel arall, dail, toriadau glaswellt a.y.b. a'u cadw mewn cyflwr taclus.
  • Clirio eira fel sy'n briodol a thaenu halen craig er mwyn cadw mannau mynediad yn ddiogel yn ystod eira neu rew. Darperir halen craig gan yr ysgol.
  • Arolygu cyflwr y dodrefn a'r adeilad a rhoi adroddiad i'r Pennaeth.
  • Ail osod teilsiau nenfwd a man atgyweirio plastr.
  • Paratoi a phaentio plastr mewnol, gwaith coed a dodrefn.
  • Atgyweirio gorchuddion lloriau a grisiau gan gynnwys sgerting, blaen grisiau, carped, leino a thermoplastig.
  • Gosod ac atgyweirio mân offer, dodrefn a bordio ffenestri a dorrwyd, pob safle.
  • Gosod bylbiau golau ffitiadau fflwroleuol newydd pob safle.
  • Ail osod wasieri, plygiau a mân waith plymio, pob safle.
  • Cyd-weithio â gwaith wythnosol o brofi offer tân, tapiau, cawodydd, "sprinklers" dwr a diffibriliwr.
  • Gofalu fod yr offer atal tân yn y mannau priodol a hysbysu'r Pennaeth os oes rhai yn wag.
  • Ateb galwadau larwm diogelwch yr Ysgol.
  • Rhoi gwybod i'r Pennaeth neu'r Adran Eiddo pan fydd peipiau wedi rhewi a throi'r dŵr i ffwrdd.
  • Glanhau y tu allan i ffenestri.
  • Cynnal arwyddion a giatiau pob safle os oes angen.
  • Cynnal ac atgyweirio mân ddifrod i ffensys.
  • Symud dodrefn o ystafell i ystafell.
  • Gosod cloch a chlociau'r Ysgol.
  • Cyfeirio gwaith y contractwyr.
  • Cadw golwg ar waith contractwyr yn yr Ysgol gan roi gwybod i'r Arweinydd Busnes/Pennaeth os oes diffygion yn codi.
  • Dilyn y drefn gydnabyddedig mewn perthynas â llifogydd, torri i mewn, damweiniau neu ddifrod.
  • Mae disgwyl i'r Gofalwr wybod am leoliad offer a defnydd cymorth cyntaf, tapiau a falfiau drwm nwy a thrydan pwysig.

Cyffredinol
  • Cadw golwg ar ymddygiad plant a rhoi gwybod i'r Pennaeth/Dirprwy Bennaeth os oes unrhyw broblem.
  • Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
  • Cydymffurfio â pholisi iechyd a diogelwch yr ysgol ac asesiadau risg yn ôl y gofyn. Adrodd ar unrhyw broblemau Diogelwch wrth agor yr ygsol.
  • Cydymffurfio gyda Polisi Rheoli Tân yr ysgol
  • Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
  • Mynychu hyfforddiant priodol.

Goramser
  • Pan fydd defnydd yn cael ei wneud o'r ysgol gyda'r nos a neu ar ben wythnos disgwylir i'r gofalwr fod yn bresennol er mwyn cadw golwg ar ddiogelwch yr adeilad a chloi ar ddiwedd y dydd. Mae modd trefnu i aelodau eraill o staff gofal a glanhau'r ysgol i gau rhai nosweithiau.

Pan fydd goramser yn cael ei dalu i'r gofalwr disgwylir iddo ymgymryd â gwaith o gwmpas yr adeilad.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi