MANYLION
  • Lleoliad: Welshpool, Powys, SY21 8JF
  • Testun: Asesydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Misol
  • Salary Range: £27,000.00 - £27,000.00
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Swyddog Hyfforddi mewn Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod a Chigyddiaeth

Swyddog Hyfforddi mewn Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod a Chigyddiaeth

Cwmni Hyfforddian Cambrian
Rydym am recriwtio Swyddog Hyfforddi medrus i ymuno â'n tîm darparu Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod a Chigyddiaeth sy’n tyfu yn y lledoliadau uchod.
Bydd gan y person delfrydol y gallu i addysgu a datblygu prentisiaid Gweithgynhyrchu bwyd a Diod a Chigyddiaeth a gyflogir yn y sector hwn. Mae hunan gymhelliant, brwdfrydedd, gwaith annibynnol a gwaith tîm yn hanfodol i'r rôl, ochr yn ochr â sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da.
Byddwch yn gweithio'n uniongyrchol gyda chyflogwyr a phrentisiaid o bob oed felly mae'n rhaid i'r gallu i ysgogi unigolion a'u cefnogi i gyflawni nodau y cytunwyd arnynt fod yn un o'ch nodweddion, gan gynnwys awydd i lwyddo.
Yn y pen draw, byddwch yn cael boddhad o'ch swydd drwy addysgu'ch prentisiaid a chyflawni eu cymwysterau diploma NVQ rhwng Lefelau 2 i 4.
Dylech ddisgwyl cyflwyno addysg a dysgu yn y gweithle o ddydd i ddydd, gan drosglwyddo eich gwybodaeth a'ch profiad yn ogystal â chynnal asesiadau, cynorthwyo dysgwyr i baratoi portffolio o dystiolaeth, a chynnal cofnodion cyflawniad cynnydd.

Yn yr un modd, bydd disgwyl i chi cefnogi dysgwyr i wella eu sgiliau digidol, rhifedd a llythrennedd, a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg lle bynnag y bo modd.

Mae cael mynediad i drafnidiaeth eich hun fel ffordd o deithio yn hanfodol i'r swydd.



JOB REQUIREMENTS
Dylech chi:
• Bod ag o leiaf 3 blynedd o brofiad o weithio yn y sector gweithgynhyrchu Bwyd a Diod.
• Meddu ar neu bod yn gyfarwydd â chymwysterau Gweithgynhyrchu Bwyd a Chigyddiaeth lefel 2 a 3 ney 706 1 a 2.
• Bod â phrofiad o arwain tîm a goruchwylio eraill (delfrydol, nid hanfodol)
• Meddu ar sgiliau rheoli amser a threfnu gwych.
• Bod â lefel dda o sgiliau TG a'r gallu i ddysgu meddalwedd newydd.
• Meddu ar wobr aseswr D32/D33, TAQA neu A1 neu’n barod i’w wneud.
• Meddu ar TGAU A* - C/ 9 - 4 mewn Saesneg a Mathemateg neu gymhwyster cyfwerth Lefel 2 (delfrydol, ond nid yn hanfodol).
• Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ond nid yn hanfodol.

CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL:
• Darparu addysg a dysgu effeithiol i lwyth achosion dysgwyr yn y gweithle.
• Datblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr.
• Cynllunio a chynnal asesiadau i ddiwallu anghenion y cymhwyster, gan gynnwys wyneb yn wyneb ac ar-lein.
• Cynnal cofnodion dysgwyr o asesu a chynnydd
• Ymgysylltu â chyflogwyr a dysgwyr posibl i gydnabod cyfleoedd newydd.
• Gweithio gydag adrannau eraill o fewn Hyfforddiant Cambrian i sicrhau bod gan y dysgwr y gallu i gwblhau ei raglen brentisiaeth ar amser.