MANYLION
  • Lleoliad: Schools,
  • Testun:
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Pennaeth Cemeg - Ysgol Y Creuddyn

Pennaeth Cemeg - Ysgol Y Creuddyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
YSGOL Y CREUDDYN

( This is an advertisement for The Head of Chemistry Department at Ysgol y Creuddyn. All candidates are required to be fluent in both Welsh and English ).

Ysgol Uwchradd Benodedig Gymraeg 11-18 oed (672 o ddisgyblion)

Yn eisiau erbyn Medi 2024

PENNAETH CEMEG

Swydd Llawn Amser - Parhaol

Cyflog : Graddfa Cyflog Athrawon + CAD2b

Gwahoddir ceisiadau gan athrawon brwdfrydig ac ymroddedig sy'n meddu'r

sgiliau angenrheidiol i arwain yr adran Gemeg o fewn yr ysgol.

Gweler pecyn recriwtio https://new.express.adobe.com/webpage/K7l8bqCd9WmDy

Am ffurflen gais, cysylltwch â Miss Sophie Price, Cymhorthydd Personol y Pennaeth, Ysgol y Creuddyn,

i'w dychwelyd i'r ysgol.

Rhif ffôn 01492 544344 swyddfa@creuddyn.conwy.sch.uk

Croesawir ceisiadau ar gyfer sgyrsiau ac ymweliadau anffurfiol gyda'r Pennaeth Mewn Gofal.

DYDDIAD CAU : hanner dydd, dydd Gwener 26 ain o Ebrill 2024.

(Bwriedir cynnal y cyfweliadauyn ystod wythnos yn dechrau 06/05/2024)

Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae'n ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon. Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd.

Os na fyddwch yn cael gwybod o fewn 3 wythnos wedi'r dyddiad cau eich bod ar restr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i chi gymryd yn ganiataol na fyddwch yn cael cyfweliad. Ni fyddwch yn cael gwybod hynny ar bapur. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English .