MANYLION
  • Testun:
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Mai, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Lleoliad Cyn Ysgol Lefel 2 (Ysgol Eglwysig yng Nghymru Llangatwg)

Cynorthwyydd Lleoliad Cyn Ysgol Lefel 2 (Ysgol Eglwysig yng Nghymru Llangatwg)

Cyngor Sir Powys
Cynorthwyydd Lleoliad Cyn Ysgol Lefel 2 (Ysgol Eglwysig yng Nghymru Llangatwg)
Swydd-ddisgrifiad
Mae Llywodraethwyr Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llangatwg yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Cymorth Dysgu profiadol i weithio yn ein Lleoliad 3+. Bydd y swydd yn 29.5 awr yr wythnos. Rhennir yr oriau dros 5 diwrnod, ac maent yn cynnwys amser cynllunio a pharatoi.

Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn ddatblygu profiad o weithio mewn amgylchfyd rhagorol. Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar ddull o weithio proffesiynol a'r gallu i weithio fel aelod o dîm bach.

Cymwysterau:

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus o leiaf 5 TGAU (neu gymwysterau cyfatebol) gan gynnwys Saesneg/Cymraeg a Mathemateg (A*-C).

Bydd wedi cyflawni o leiaf cymhwyster CACHE lefel 2, yn gweithio tuag at lefel 3; neu:

Wedi derbyn cymhwyster lefel 3 sydd ar restr gyfredol Cyngor Gofal Cymru ar gyfer Cymwysterau Derbyniol ar gyfer y Gweithlu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghymru neu Fframwaith Cymhwyster Integredig Gwaith Chwarae Skills Active (neu unrhyw restrau sy'n eu disodli), sy'n briodol i'r swydd hon.

Profiad:
  • Profiad blaenorol o weithio mewn lleoliad 3+, neu gyda phlant oed cynradd.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o weithdrefnau a pholisïau lleoliadau.
  • Ymwybyddiaeth dda o egwyddorion ac ethos Dysgu Sylfaen.
  • Profiad sylweddol o weithio i gefnogi addysg plant/disgyblion.
  • Dealltwriaeth dda o anghenion dysgu ychwanegol.
  • Gallu trefnu ac arwain gweithgareddau ar gyfer plant, yn unigol ac mewn grwpiau bach neu'r grŵp cyfan.
Cysylltwch â'r Pennaeth Mrs Katherine Durbin: head@llangattock.powys.sch.uk os hoffech dderbyn gwybodaeth bellach.