MANYLION
  • Lleoliad: Colwyn Bay,
  • Testun:
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £15,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Gweinyddol Lefel 3 - Ysgol Nant y Groes

Cymhorthydd Gweinyddol Lefel 3 - Ysgol Nant y Groes

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
YSGOL NANT Y GROES

Ffordd Greenfield Bae Colwyn

Pennaeth: Mr Huw Jones

Ffon; (01492) 577010

Yn eisiau cyn gynted â phosibl

CYMHORTHYDD GWEINYDDOL LEFEL 3

Gwahoddir ceisiadau am y swydd Cymhorthydd Gweinyddol Lefel 3 yn yr ysgol uchod. Bydd y dyletswyddau yn cynnwys gwaith gweinyddol cyffredinol, gwaith derbynfa a ffôn. Mae angen sgiliau rhyngbersonol da ac fe fyddai cymwysterau, profiad â sgiliau gweinyddol a chyfrifiadurol yn fanteisiol.

Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.

Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd cysylltwch â'r ysgol ar 01492 577010

I wneud cais am y swydd hon, ewch i www.conwy.gov.uk/swyddi i lenwi cais ar lein.

Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio.

Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, rhaid i'r ymgeiswyr tybio nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y rhestr fer ac felly ni fyddent yn cael eu hysbysu mewn ysgrifen.

Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English