MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun:
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Gweithiwr Camddefnyddio Sylweddau Pobl Ifanc

Gweithiwr Camddefnyddio Sylweddau Pobl Ifanc

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Adran Addysg ac Ymyrraeth Gynnar

Gweithiwr Camddefnyddio Sylweddau Pobl Ifanc

Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid- Ystâd Ddiwydiannol Whitegate

Contract Parhaol

Lefel Broffesiynol J.N.C. Ystod Pwyntiau 16-19

18.75 awr yr wythnos

Mae'r Adran Addysg ac Ymyrraeth Gynnar yn dymuno penodi Gweithiwr Ieuenctid uchel eu cymhelliant i gefnogi pobl ifanc i wireddu eu nodau ac i adeiladu ar eu dyheadau.

Diben y swydd yw cefnogi pobl ifanc sy'n gweithio gyda'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a thîm cyffuriau ac alcohol In2Change. Bydd y bobl ifanc yn gweithio gyda'r gwasanaethau ar sail ataliol neu statudol.

Bydd y Gweithiwr Camddefnyddio Sylweddau Pobl Ifanc yn gweithio'n uniongyrchol â phobl ifanc 11-24 oed sy'n defnyddio cyffuriau ac alcohol ar hyn o bryd, neu sydd wedi eu defnyddio yn y gorffennol. Mae'r rôl yn canolbwyntio ar gydweithredu â phobl fanc i gwblhau asesiadau, cynlluniau wedi'u teilwra a rhaglen o ymyriadau. Bydd y Gweithiwr Camddefnyddio Sylweddau Pobl Ifanc yn hwyluso ymyriadau uniongyrchol sy'n canolbwyntio ar y camddefnydd o sylweddau, gweithgareddau dargyfeiriol a lles cyffredinol.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Amy Hutchinson, Arweinydd Gwasanaeth Atal a Chyfiawnder Ieuenctid ar 01978 298739 amy.hutchinson@wrexham.gov.uk

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd neu oedran.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.