MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun:
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Uwch Swyddog Derbyniadau

Uwch Swyddog Derbyniadau

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Uwch Swyddog Derbyniadau

Manylion Cyflogaeth

Parhaol

Gradfa 07 £ 29,269 - £30,825

Lleoliad - Adeiladau'r Goron, Wrecsam.

Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Derbyniadau talentog, creadigol a phrofiadol i ymuno â'n tîm derbyniadau ysgol.

Fel yr Uwch Swyddog Derbyniadau byddwch yn goruchwylio darpariaeth gwasanaethau Derbyniadau'r Awdurdod Lleol, cynorthwyo'r Rheolwr Derbyniadau gan arwain ar gynllunio, datblygu, monitro perfformiad, gwerthuso a marchnata'r gwasanaeth.

Byddwch yn darparu cyngor a chyfarwyddyd arbenigol ar weithdrefnau a deddfwriaeth derbyniadau i ystod o fudd-ddeiliaid, gan gynnwys uwch reolwyr a'r Aelod Arweiniol Addysg.

Mae swydd yr Uwch Swyddog Derbyniadau yn swydd uwch ac yn rhan annatod o'r tîm Addysg ac Ymyrraeth Gynnar, gan sicrhau bod ein prosesau derbyn yn deg, yn agored, ac yn unol â'r Cod Derbyniadau Ysgolion yng Nghymru.

Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd fod â sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu ac ymgysylltu rhagorol, yn ogystal â'r gallu i weithio mewn partneriaeth ag ystod o fudd-ddeiliaid ar lefel darparu gwasanaeth gweithredol a strategol.

Mae sgiliau dadansoddi ac adrodd rhagorol yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, yn ogystal â'r gallu i reoli eich amser eich hun a gweithio'n annibynnol. Byddwch yn gallu cyfathrebu'n dda, ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar a byddwch yn gallu cyfathrebu'n hyderus ag ystod eang o fudd-ddeiliaid.

Byddwch yn gweithio yn y prif swyddfeydd Addysg yn Adeiladau'r Goron, yng nghanol dinas Wrecsam, a bydd gofyn i chi deithio i safleoedd ysgolion gwahanol ar draws y Fwrdeistref.

Dyddiad cau: 21 Ebrill 2024

Ar gyfer ymholiadau pellach am y swydd, cysylltwch â

Mae'r swydd wedi'i lleoli yn Adeiladau'r Goron, Wrecsam, gyda gofyniad i deithio i safleoedd ysgol gwahanol ar draws y Fwrdeistref.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.