MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF10 3AP
  • Testun: Swyddog Gweinyddol
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £20,092 - £20,092
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 14 Chwefror, 2022 5:00 y.p

This job application date has now expired.

Swyddog Rheoli Lleoliadau Gwirfoddolwyr

Swyddog Rheoli Lleoliadau Gwirfoddolwyr

Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm deinamig Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, ac i gefnogi gwirfoddolwyr lleol a rhyngwladol i fynd ar leoliadau llwyddiannus yng Nghymru, yn Ewrop ac ar draws y byd.
Bydd y Swyddog Rheoli Lleoliadau Gwirfoddolwyr yn cefnogi gwirfoddolwyr lleol a rhyngwladol Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ar eu teithiau newid bywyd, ac yn sicrhau bod yr holl leoliadau'n cael eu cofnodi, eu gweinyddu a'u cwblhau'n gywir. Byddant yn cymryd rhan mewn digwyddiadau hyfforddi, a byddant yn adeiladu perthynas gref gyda’n rhwydwaith rhyngwladol o sefydliadau gwirfoddoli.
Bydd y Swyddog Rheoli Lleoliadau Gwirfoddolwyr yn unigolyn trefnus iawn, sydd yn gallu talu sylw rhagorol i fanylion ac sydd yn meddu ar ymagwedd groesawgar a chyfeillgar. Nhw fydd y pwynt cyswllt cyntaf a rheolaidd ar gyfer ein holl wirfoddolwyr. Byddant yn hyderus yn defnyddio systemau TG cwmwl a Microsoft, gan gynnwys Salesforce, ac yn talu sylw dyledus i Ddiogelu Data.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd lenwi ffurflen Cais am Gyflogaeth swyddogol Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru a'r ffurflen Cyfle Cyfartal. Sylwer, mae'r rhain yn cael eu gwahanu oddi wrth eich ffurflen gais ar ôl eu derbyn, ac nid ydynt yn cael eu rhannu gyda’r panel sy’n llunio’r rhestr fer neu’r panel cyfweld.
Dylech gyflwyno eich cais drwy e-bost i centre@wcia.org.uk. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 5pm ar ddydd Llun 14 Chwefror 2022. Byddwn yn anfon cydnabyddiaeth drwy e-bost at bob ymgeisydd.