MANYLION
  • Lleoliad: Pontypwl, Blaenau Gwent, NP4 0HZ
  • Testun: Swyddog Ieuenctid
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: 15 April, 2024
  • Dyddiad Gorffen: 31 March, 2025
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £24,336 - £27,190
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Swyddog Ieuenctid Casnewydd

Swyddog Ieuenctid Casnewydd

Urdd Gobaith Cymru
Teitl y Swydd: Swyddog Ieuenctid Casnewydd
Math o gontract: Tymor penodol hyd at Fawrth 31, 2025 yn y lle cyntaf.
Graddfa: Gweithredol 3: £24,336 - £27,190
Lleoliad: Swyddfa Gwent Is Coed


Amdanom ni

Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.

Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.

Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.


Y Swydd

Beth am ymuno a thim egniol Ieuenctid a Chymunedol yr Urdd sydd yn darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc fwynhau gweithgareddau amrywiol yn eu hardal leol a thu hunt trwy gyfrwng y Gymraeg a thu allan i’r ystafell ddosbarth. Mae’r adran yn cynnig cymorth a chefnogaeth i wirfoddolwyr ac yn cefnogi cymunedau ledled Cymru.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Sian Jones (Cyfarwyddwr Ieuenctid a Chymuned) ar 07494775897 neu sianmorrisjones@urdd.org

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org


Dyddiad Cau – 31 Mawrth 2024
Dyddiad Cyfweld – i’w gadarnhau


Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.