MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF240AB
  • Testun: Swyddog Gweithredol
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £25,531 - £29,427
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 11 Medi, 2022 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Swyddog Cymorth Corfforaethol

Swyddog Cymorth Corfforaethol

Cyngor y Gweithlu Addysg
Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru.

Gan weithio'n rhan o'r tîm Gwasanaethau Corfforaethol, bydd y Swyddog Cymorth Corfforaethol yn gyfrifol am ddarparu cymorth gweithredol a gweinyddol i Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru yn ogystal â gweithredu fel prif bwyntiau cyswllt ar gyfer cymorth gweinyddol a chorfforaethol cyffredinol o fewn CGA. Bydd hyn yn cynnwys trefnu cyfarfodydd, dosbarthu papurau, cymryd cofnodion, cynhyrchu adroddiadau a rheoli ymholiadau cyffredinol yn ganolog, datblygu a chynnal systemau ac amgylchedd y swyddfa.
Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol, profiad o ddatblygu a chynnal prosesau gweinyddol manwl a'r gallu sicr i ymdrin ag ymholiadau amrywiol. Byddant hefyd yn siaradwr Cymraeg rhugl â’r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg.
Mae buddion i gyflogeion yn cynnwys mynediad i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, oriau hyblyg a 31 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â 10 gŵyl banc a diwrnod braint).


JOB REQUIREMENTS
E-bostiwch recriwtio@cga.cymru i gael rhagor o wybodaeth, neu i lawrlwytho pecyn cais, ewch i: https://www.cga.cymru/recriwtio